Dr Sarah Palmer

Mae’n cymryd oddeutu 12 mlynedd i amrywiaeth gyrraedd y farchnad o’r cam datblygu felly mae bridio nodweddion sy’n gweddu i ofynion y farchnad a pholisïau yn gallu bod yn her.

Ar hyn o bryd, mae’r rhain yn gwyro tuag at laswelltau sy’n tyfu gyda llai o fewnbwn. Mae hyn cyn cyferbynu gyda’r broses o sicrhau lle i rywogaethau ar y Rhestr a Argymhellir, sy’n cael eu rheoli mewn arbrofion gyda mwy o wrtaith, meddai Dr Sarah Palmer, bridiwr planhigion gydag IBERS

“Mae’n rhaid cael cydbwysedd. Nid oes unrhyw ddiben cael yr amrywiaethau gorau yn y byd os nad ydynt yn cyrraedd y Rhestr a Argymhellir,’’

Meddai.

“Mae’n bwysig bod yr amrywiaethau yr ydym ni’n eu bridio yn cyd-fynd nid yn unig gyda’r hyn sydd ei angen heddiw, ond hefyd ymhen 10 i 20 mlynedd. Mae bridio planhigion yn debyg i gamblo i raddau, mae’n rhaid i chi rowlio’r dis digon o weithiau i sicrhau’r cyfuniad cywir o nodweddion.’’

Mae bron i 10,000 o leiniau arbrofol yn cael eu tyfu yn IBERS bob blwyddyn, ac yn cael eu cynaeafu hyd at naw gwaith y flwyddyn am dair blynedd. 

Mae datblygiadau technolegol wedi galluogi’r gwaith o gasglu data o’r lleiniau arbrofol ddigwydd yn llawer cynt ac mae angen llawer llai o egni erbyn hyn i sychu samplau yn barod i’w pwyso.

Mae cynnydd yn cael ei wneud erbyn hyn gyda graddfa’r data y gellir ei gasglu. Mae offer NIRS (Near infrared reflectance spectroscopy), sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio i ragweld cynnwyd deunydd sych, yn cael ei raddnodi i graffu ar ansawdd yn ogystal.

“Bydd y rhain yn creu miloedd o bwyntiau data er mwyn eu dewis ar gyfer ansawdd,’’

Meddai Dr Palmer.

Ychwanegodd y byddai manteisio ar botensial asidau brasterog mewn glaswellt hefyd yn ffocws ar gyfer y dyfodol.

“Os oes modd i ni newid y ffynhonnell llawn egni yma mewn ffordd ystyrlon, credwn y bydd hynny’n lleihau methan ac yn arwain at gynnydd pellach mewn effeithlonrwydd cynhyrchiant.’’

Cafodd y diwrnod agored Cyswllt Ffermio ei hwyluso gan Elan Davies, Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio ar gyfer de ddwyrain Cymru.

Dywed fod datblygiadau mewn amrywiaethau glaswellt o ganlyniad i waith yn IBERS yn amlygu’r hyn y gall ffermwyr elwa ohono drwy ail-hau gwyndonnydd sy’n tanberfformio.

Er nad yw’r gwaith trin yn rhad, gellir sicrhau ad-daliad o fuddsoddiad o ganlyniad i wella ansawdd a chyfaint gwyndonnydd ffres sy’n cael eu hau gydag amrywiaethau newydd o hadau.

“Ceir hefyd cynnydd mewn perfformiad da byw o ganlyniad i gynnydd mewn blasusrwydd, treuliadwyedd a chymeriant.’’

Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.