Cronfa gyfalaf yw hon ac mae’n cael ei chefnogi drwy Raglen Datblygu Gwledig Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, ac mae wedi cael ei chyllido gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (CAEDG), a Llywodraeth Cymru.

Crynodebau prosiect cymeradwy ar gyfer 2018 - 2019

Cyllid twristiaeth i greu cyrchfannau gwell: 

Cyllid twristiaeth i greu cyrchfannau gwell 

1.    Antur Stiniog Cyf – Rhwydwaith newydd o lwybrau beiciau yn y Blaenau – cyllid o £96,000  

Rhwydwaith newydd o lwybrau beiciau gydag ychwanegiad o dri llwybr newydd at y rhwydwaith llwybrau presennol ar safle Llechwedd a datblygu ac ailstrwythuro un o’r llwybrau gwreiddiol er mwyn iddo apelio at farchnad ehangach.  Bydd llwybr newydd graddfa glas (1.4km o hyd) er mwyn apelio at deuluoedd a dechreuwyr; llwybr newydd coch (1km o hyd) a fydd yn addas ar gyfer beicwyr canolraddol, adran newydd du (0.7km) i gysylltu â’r rhwydwaith llwybrau presennol.

2.    Ymddiriedolaeth Clough Williams-Ellis – maes parcio Plas Brondanw – cyllid o £56,000 

Creu maes parcio newydd ar gyfer 50 o gerbydau mewn cae i’r de o’r gerddi yn ogystal â dau o leoedd ar gyfer parcio dau fws a fydd yn darparu gwell mynediad ar gyfer cerddwyr a cherbydau i Erddi Plas Brondanw, y Caffi a’r Oriel.

3.    Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri – Canolfan Ogwen – cyllid o £79,664.80 

Arwyddion allanol newydd, hysbysfyrddau, seddi ychwanegol yn cynnwys pump o fyrddau picnic hygyrch, pump o feinciau y tu allan a phump y tu mewn i’r Ganolfan, gyda dau o bwyntiau gwefru ffonau symudol.  Dehongliad newydd yn y Ganolfan ac arddangosfa newydd gyda disgrifiadau sain a phlygiau ar gyfer clustffonau.  Darparu pwyntiau gwefru ar gyfer ceir a beiciau.

4.    Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – Toiledau Cyhoeddus a Chyfleusterau Beiciau ym Mharc  Gwydir – cyllid £128,000 

Dymchwel hen gyfleusterau toiledau cyhoeddus a gosod cyfleusterau cyfoes newydd gydag ynni adnewyddadwy, sy’n casglu dŵr glaw ac sydd ar agor drwy’r flwyddyn.  Bydd yr adeilad yn darparu lle ar gyfer storio beiciau a chyfarpar beiciau.

5.    Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri – Nant Peris – cyllid o £69,680 

Gwella toiledau, gosod arhosfan bws solar pob tywydd yn arhosfan Nant Peris, mainc gyda gwefrwr ffonau symudol wedi’i bweru gan yr haul a phwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan yn y maes parcio.

6.    Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri – gwella maes parcio a chyfleusterau cyhoeddus Dôl Idris  cyllid o £74,800 

Adnewyddu’r cyfleusterau cyhoeddus ar y safle; gosod cyflenwad trydan i’r bloc o doiledau er mwyn darparu goleuni, cyflenwad trydan i’r maes parcio, peiriant talu ac arddangos, a chyflenwad trydan ar gyfer pwynt gwefru cerbydau trydan.  Gosod llinell ffôn a band eang ar y safle i alluogi talu gyda cherdyn yn y maes parcio talu ac arddangos.  Ailwynebu’r maes parcio i gynnwys lleoedd parcio dynodedig ar gyfer y rhai â cherdyn glas a lleoedd dynodedig ar gyfer cerbydau trydan.

7.    Cyngor Sir Gwynedd – Gwedd 2 – Plas Heli – cyllid o £128,000 

Gwella’r isadeiledd a’r cyfleusterau sy’n ymwneud ag Academi Hwylio Cenedlaethol Plas Heli, gan gynnwys lle ar gyfer gweithgareddau, wal y cei, parcio, mynediad at y traeth, mesurau diogelwch a thirweddu.

8.    Dŵr Cymru Cyf – Gwelliannau i Ganolfan Ymwelwyr Llyn Brenig – cyllid o £119,312.80 

Bydd y gwaith yn cynnwys gosod camerâu a thechnoleg gefnogol i ddarparu mynediad at ddelweddau o ansawdd uchel o weilch y pysgod sy’n bridio.  Gwelliannau mynediad drwy roi wyneb ar y llwybr coedwig bresennol 296m yn Llyn Brenig a gwelliannau i’r arwyddion, yn cynnwys arwyddion cyfeiriol newydd ar lwybr ymadael y goedwig.

9.    Cwmni Cadwraeth Rheilffordd Y Trallwng a Llanfair Cyf – Ein Gweledigaeth ar gyfer 2020 – cyllio £89,054

Ehangu’r adeilad storio i gadw cerbydau treftadaeth yng Ngorsaf Sgwâr y Gigfran, Y Trallwng; gosod dolen ar gyfer pasio, a chael lloches arall yn lle’r hen un yng Ngorsaf Sylfaen; ailosod seidin i alluogi trenau VIP ddod yno ac ailadeiladu doc gwartheg yng Ngorsaf Cyfronydd; ehangu’r ystafell de ac ychwanegu pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan yng Ngorsaf Llanfair.

10.    Cyngor Sir Ceredigion – Sgriniau arddangos CGI T2 a T5 Traws Cymru – cyllid o £128,000 

Bydd y prosiect ar y cyd hwn yn gosod sgriniau arddangos CGI ‘Clyfar’ ar Sgriniau Arddangos CGI T2 a T5 Traws Cymru a fydd yn dangos gwybodaeth gyhoeddus mewn saith o leoliadau strategol ar hyd Coridor Arfordirol Gorllewin Cymru ac mewn arosfannau bws a wasanaethir gan lwybrau bws T2 a T5 Traws Cymru, rhwng Abergwaun a Phorthmadog.

11.    Rheilffordd Cwm Rheidol Cyf. – Maes Parcio Pontarfynach – cyllid o £128,000

Darparu maes parcio dynodedig newydd ar gyfer 79 o gerbydau ar dir gerllaw gorsaf Pontarfynach, gan wella mynediad a gwelededd a rhyddhau’r maes parcio presennol ar gyfer parcio bysiau.

12.    Cyngor Sir Powys – Darganfyddiadau ar gyfer Ymwelwyr ar hyd Taith Cambria – cyllid o  £128,000   

Roedd Igam Ogan yn canolbwyntio ar lywio ar hyd Taith Cambria drwy greu cyfleusterau cyfeiriadu newydd, pwyntiau croeso a oedd yn ymgorffori deunyddiau lleol a chyda thirweddu a dehongli a oedd yn tynnu sylw at agweddau diwylliannol a threftadaeth a llwybrau cerdded/beicio. marchogaeth a darganfyddiadau penodol i safle, e.e. Llwybr Mynach, Ffordd Glyndwr, Tarddiad Afon Gwy, stori’r Tywysog Llewelyn.
    

13.    Ymddiriedolaeth Cwm Elan, Rhaeadr – Darganfod Awyr Dywyll Elan – cyllid o £67,384.80 

Gwella cyfleusterau sy’n ymwneud â statws Parc Awyr Dywyll Rhyngwladol, gan gynnwys arddangosfa a phlanetariwm, cyfarpar ar gyfer mesur ac arsyllu a strwythur arsyllu pwrpasol.

14.    Cyngor Tref Porthcawl – toiledau ger traeth Newton – cyllid o £96,000   

Gosod adeilad toiledau talu modern i’w ddefnyddio ar Draeth Newton, Porthcawl gyda dau gaban naillryw, a bydd un ohonyn nhw yn hygyrch ac yn fan gwasanaeth gyda thap y tu allan sy’n gwasanaethu fel gorsaf ailenwi dŵr ac ailwynebu mynediad addas o gwmpas yr adeilad.  Bydd defnyddio dŵr llwyd ar gyfer tynnu dŵr mewn toiledau yn cael ei asesu os yw’n ymarferol.

15.    Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – Creu croeso WOW ar Draethau Marloes – cyllid o £119,953.68

Bydd prosiect Profiad Ymwelwyr Penrhyn Marloes yn cynnwys gwneud gwelliannau i’r maes parcio, adeilad croesawu ymwelwyr yn lle’r hen un, gwell llwybr mynediad at gaffi a hostel Runwayskiln, yn cynnwys mynediad gwell i’r anabl, gwell cyfleusterau ar gyfer beicwyr a gwell arwyddion a dehongli.

16.    Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro – Cyflwyno Ffowntenni Dŵr Yfed – cyllid o  £22,400

Cyflwyno Ffowntenni Dŵr Yfed – creu cynllun peilot o gyflwyno ffowntenni dŵr yfed mewn saith o gyrchfannau twristiaeth allweddol Sir Benfro.

17.    Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro – Canolfan Ymwelwyr Aberllydan – cyllid o  £53,200

Trawsnewid maes parcio Aberllydan yn ganolfan ymwelwyr gydag amrediad eang o gyfleusterau, yn cynnwys tynnu sylw at ei statws fel y porth i’r Parc Cenedlaethol, arwyddion dwyieithog a dehongli, tirweddu meddal mewn mannau antur i blant, lloches ar gyfer picnics, cyfleusterau cawod y tu allan a ffownten ddŵr ac uned gwefru ffonau.

18.    Dinas a Sir Abertawe – Gwneud Bae Caswell yn gyrchfan hygyrch – cyllid o £68,000

Er mwyn gwneud Bae Caswell y Ddraig Las, Gŵyr yn gyrchfan hygyrch ar gyfer ymwelwyr, drwy osod cyfleusterau newid newydd sbon o ansawdd uchel (gyda theclyn codi, cawod a gwely newid) yn y maes parcio presennol a buddsoddi mewn cyfarpar traeth arbenigol, fel cadeiriau olwyn sy’n arnofio, er mwyn galluogi’r holl ymwelwyr i gael mynediad a mwynhau’r dŵr.   Bydd uned storio yn cael ei phrynu hefyd er mwyn storio’r cyfarpar newydd yn ddiogel.  Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi yn llawn  gan Gyngor Abertawe ac mae wedi derbyn cefnogaeth ysgubol gan grwpiau anabledd lleol, Surfability Ltd, Cadwch Gymru’n Daclus, yr RNLI a busnesau lleol.

19.    Cyngor Sir Gaerfyrddin – Gwella cyfleusterau ym Mharc Gwledig Pen-bre – cyllid o £100,000

Gwella cyfleusterau i ymwelwyr ym Mharc Gwledig Pen-bre, yn cynnwys cyfleusterau newydd, hygyrch ar gyfer toiledau a newid ar gyfer babanod mewn adeilad pren newydd, a gosod arwyddion dwyieithog a system fapiau newydd, yn cynnwys arwyddion cyfeiriol, arwyddion am ddigwyddiadau ac arwyddion iechyd a diogelwch drwy’r parc.

20.    Cyngor Sir Gaerfyrddin – Amgueddfa Cyflymder, Llys Chwaraeon Twyni Pentywyn – cyllid o £127,818.86

Creu ardal o dywod isel ar gyfer twrnameintiau tîm, fel pêl-foli’r traeth, rygbi’r traeth, pêl-droed y traeth a phêl-law y traeth, er mwyn ategu Prosiect Atynu Twristiaeth Pentywyn.

21.    Cyngor Sir Benfro – Arrive 365 Harbwr Dinbych-y-pysgod – cyllid o £128,000

Er mwyn gosod giât a ellir ei hagor yn hawdd pan mae angen yn lle boncyffion atal mynedfa llifddor Harbwr Dinbych-y-pysgod, a fydd yn ymestyn y tymor gweithredu er mwyn gallu cynnig teithiau harbwr drwy’r flwyddyn.

22.    Menter Bro Dinefwr, Llandeilo – y Ganolfan – cyllid o £128,000

Creu porth newydd ar gyfer ymwelwyr a gwybodaeth drwy’r iaith Gymraeg, wedi’i leoli ar lawr gwaelod neuadd hanesyddol y sir, gyda chyfleusterau ar gyfer beicwyr (ar ddechrau’r llwybr beicio newydd o Landeilo i Gaerfyrddin).   Darparu adnoddau digidol, arddangosfeydd a chyflwyniadau, gyda chysylltiadau â gweithgareddau, atyniadau a hanes yr ardal, gyda theithiau treftadaeth a diwylliannol, tra’n hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn y gymuned a’r ardal ehangach.

23.    Cyngor Castell Nedd Port Talbot – Canolfan Cwm Nedd – Maes Parcio Basn Camlas Resolfen -cyllid o £128,000

Troi’r cyfleusterau toiledau presennol i gynnig gwell cyfleusterau toiledau cyhoeddus, uned gaffi a fydd yn cael ei rhoi allan i dendr, tirweddu’r maes parcio presennol a darparu pwynt gwybodaeth digidol ar gyfer ymwelwyr.