Aled Rhys Jones - Juniors Leader

Mae Cyswllt Ffermio wedi cyhoeddi enwau’r rhai a ddewiswyd i gymryd rhan yn Nosbarth 2020 yr Academi Amaeth.  

Mae ‘blwyddyn academaidd’ yr ymgeiswyr llwyddiannus o fentora dwys, teithiau astudio a gweithgareddau wedi gorfod cael ei ohirio oherwydd y sefyllfa bresennol, ond yn y cyfamser, maent yn edrych ymlaen am eu ‘cyfarfod’ cyntaf swyddogol trwy ‘Zoom’, pan fyddant yn dysgu pryd y gall y rhaglen gychwyn a beth fydd yn cael ei gynnwys.

Bydd y 24 o ymgeiswyr newydd yn cael eu rhannu yn gyfartal rhwng y rhaglen Busnes ac Arloesedd, dan arweiniad y dyn busnes a’r ffermwr o Ogledd Cymru, Llyr Jones a Rhaglen yr Ifanc, cynllun ar y cyd â CFfI Cymru, a fydd yn cael ei arwain gan y syrfëwr gwledig a chyflwynodd radio Aled Rhys Jones o Sir Gaerfyrddin. Mae’r ddau arweinydd yn alumni o’r Academi Amaeth eu hunain.  

Cytunodd y panel o feirniaid, oedd yn cynnwys cymeriadau blaenllaw o’r byd amaeth yng Nghymru, CFfI Cymru a Llywodraeth Cymru, y bu’n rhaid iddynt ddewis yr ymgeiswyr ‘o bell’ trwy broses ar-lein am y tro cyntaf erioed, bod yr ymgeiswyr a ddewiswyd eleni o unigolion brwd, deinamig, o safon uchel iawn unwaith eto.

Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda dosbarth 2020 – maent yn grŵp talentog o unigolion gyda chroestoriad o gefndiroedd, diddordebau a syniadau.

“Y cyfan yn llysgenhadon i’n diwydiant, maent yn sicr yn rhai i’w gwylio yn y dyfodol!” dywedodd Aled Rhys Jones.  

Mae’r ymgeiswyr llwyddiannus eleni yn cynnwys ffermwyr, darpar gyfreithwyr, ac asiantau tir yn ogystal â myfyrwyr coleg ac ysgol y mae eu diddordebau yn amrywio o rygbi i ganu ac o fagu stoc pedigri i siarad cyhoeddus. 

I lawer o alumni yr Academi Amaeth, sydd, gan gynnwys ymgeiswyr llwyddiannus eleni, yn  gyfanswm  o 260 erbyn hyn, mae’r rhaglen ddwys o fentora, hyfforddiant a theithiau astudio wedi rhoi hyder iddynt a rhwydweithiau newydd sydd eisoes wedi eu helpu i gyflawni eu huchelgais bersonol a chreu cyfleoedd busnes newydd.

Gan longyfarch ‘Dosbarth 2020’, dywedodd Llyr Jones,  

“Mae’r Academi Amaeth yn cael ei chydnabod gan lawer o gyflogwyr fel ychwanegiad gwerthfawr at CV."  

“Yn flynyddol rydym yn gweld mwy o’r cyn-aelodau yn cael swyddi pwysig a dylanwadol, gan gyfrannu cymaint at wneud amaeth Cymru yn gynaliadwy, proffidiol a gwydn, sydd mor bwysig wrth i ni ymdopi ag effeithiau Covid-19 a pharatoi ar gyfer yr amodau masnachu ansicr a ddisgwylir wrth i ni adael yr UE."

“Maen nhw i gyd yn llysgenhadon rhagorol i’r Academi Amaeth ac yn dangos gwerth datblygiad proffesiynol parhaus.”

Mae Academi Amaeth Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei gyflwyno gan Menter a Busnes a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, yn cynnig rhaglen ddwys o fentora, cefnogaeth a hyfforddiant gan rai o arweinwyr a chymeriadau mwyaf llwyddiannus y diwydiant yn y Deyrnas Unedig a thramor.  

Roedd y ddwy raglen yn y gorffennol yn cynnwys nifer o ymweliadau a thaith astudio dramor, ond nes bydd y cyfyngiadau Covid-19 presennol yn cael eu newid, nid yw’n glir beth fydd rhaglen eleni yn ei gynnwys na phryd y bydd yn dechrau.

Gallwch weld dosbarth 2020 drwy fynd i gwefan Cyswllt Ffermio: https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy

Dyma beth sydd gan bedwar o'r ymgeiswyr llwyddiannus i’w ddweud... 

Laura Lewis, Llanbister - Rhaglen Busnes ac Arloesedd   

Mae’r athrawes gymwys, Laura Lewis, yn briod â ffermwr defaid ac mae gan y pâr ddau o blant ifanc.  Gyda day dŷ pen coeden hynod boblogaidd eisoes wedi rhoi’r busnes teuluol yn Llanbister ar y map twristiaeth, a chaniatâd cynllunio wedi cael ei dderbyn i adeiladu trydydd, mae Laura bellach wedi dechrau gweithio ar sail lawn amser yn marchnata ac yn hyrwyddo eu busnes. 

“Byddaf yn marchnata’r fenter gyfan fy hun at y dyfodol, gan ganolbwyntio ar ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a derbyn archebion uniongyrchol ar lein." 

“Credaf y bydd cymryd rhan yn Rhaglen Busnes ac Arloesedd yr Academi Amaeth yn rhoi’r hyder, y rhwydweithiau a’r sgiliau angenrheidiol i mi allu hyrwyddo ein brandiau ar gyfer y tai pen coed a’r wefan ar gyfer y cleientiaid yr ydym eisoes wedi dechrau cysylltu â nhw.” 

Tomos Huws, Llanrwst - Rhaglen Busnes ac Arloesedd 

Mae gan Tomos Huws radd mewn rheolaeth cefn gwlad, a dywed fod ei gefndir a’i fagwraeth ar fferm bîff a defaid y teulu, ynghyd â thaith i weithio i Seland Newydd, wedi ei berswadio ei fod eisiau bod yn ffermwr ymarferol.  

Yn ei swydd bresennol, mae’n rheoli buches laeth 300 o wartheg ger Llanrwst.   Mae ganddo feddwl agored ynglŷn â’r dyfodol, a’i brif uchelgais yw datblygu ei fusnes ei hun. 

“Rwy’n ffyddiog y bydd bod yn rhan o raglen Busnes ac Arloesedd yr Academi Amaeth yn fy nghynorthwyo i symud ymlaen o fewn y diwydiant, drwy roi’r sgiliau angenrheidiol i mi allu creu busnes proffidiol a llwyddiannus."

“Rwy’n sicr y bydd ehangu fy rhwydwaith o gysylltiadau a mentoriaid yn fy nghynorthwyo i osod targedau realistig, agor drysau newydd ac yn rhoi syniadau newid i mi ynglŷn â sut i greu busnes llwyddiannus.”

Rhun Crimes, Ceredigion - Rhaglen yr Ifanc     

Mae Rhun yn fyfyriwr chweched dosbarth sydd ar hyn o bryd yn astudio cymwysterau Lefel AS a BTEC peirianneg yn Ysgol Aberaeron yng Ngheredigion.   Magwyd Rhun ar fferm bîff a defaid y teulu ym Mydroilyn, ac mae’n gobeithio mynd ymlaen i astudio amaeth yn y brifysgol. 

“Rwy’n credu y bydd bod yn rhan o Raglen yr Ifanc yr Academi Amaeth yn fy helpu i ddysgu mwy am ffermio modern a sut y mae angen i ni addasu i ymateb i newidiadau economaidd a gwleidyddol presennol ac at y dyfodol."  

“Rydw i’n edrych ymlaen at gyfarfod a dysgu gan bobl yr un oed â mi sy’n rhannu’r un diddordebau ffermio â mi.”

Elan Thomas, Sir Gâr - Rhaglen yr Ifanc  

Mae Elan Thomas yn fyfyrwraig yn Ysgol Dyffryn Taf yn Hendy-gwyn ar Daf. Cafodd ei magu ar y fferm laeth y teulu yn Sir Gaerfyrddin, ac mae'n mwynhau gweithio gyda'r lloi gartref ac ar fferm gyfagos, lle mae ganddi waith rhan amser yn gofalu am y stoc, a dangos yr anifeiliaid. 

Breuddwyd Elan yw cymhwyso fel cyfreithwraig a gweithio yn ei sir enedigol yn ogystal â chadw ei buches ei hun o wartheg Jersey pedigri.    

“Rwy'n credu y bydd bod yn rhan o Raglen yr Ifanc yr Academi Amaeth yn gwella fy natblygiad personol, yn datblygu fy hyder ac yn helpu i ategu fy ngwerthoedd craidd a'm cred mai ffermydd teuluol yw asgwrn cefn ein gwlad.” 

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.