Angen help gyda chynllun busnes, cyngor am iard dan do newydd, eich da byw neu'ch tir, neu arweiniad i ganfod unrhyw broblemau a allai fod yn atal eich busnes rhag gweithredu mor effeithlon a phroffidiol â phosibl?

Ydych chi'n ffermwr neu'n goedwigwr sy’n disgwyl yn bryderus i weld sut y caiff eich busnes ei effeithio pan fyddwn yn gadael yr UE yn y pen draw? Neu a ydych chi’n cymryd rheolaeth dros eich tynged, gan gymryd camau i baratoi eich busnes ar gyfer beth bynnag sydd o'n blaenau?

Mae Cyswllt Ffermio yn annog pob busnes fferm a choedwigaeth i wneud cais am gyngor arbenigol a fydd yn eu helpu i gynyddu effeithlonrwydd a hybu elw. Bydd chwistrelliad ariannol ychwanegol o £1,875 miliwn yn sicrhau parhad y Gwasanaeth Cynghori ar gyfer busnesau cymwys sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio rhwng nawr ac Awst 2022, pan ddaw'r rhaglen Cyswllt Ffermio bresennol i ben.  

Dywedodd Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sydd ochr yn ochr â Lantra Cymru, yn darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, fod y cyhoeddiad diweddar am gyllid ychwanegol yn golygu y gall busnesau cymwys wneud cais am gyngor cyfrinachol, wedi'i deilwra i'w hanghenion, i'w helpu i redeg eu busnes ar y lefel uchaf bosibl ar draws pob maes gwaith.

"Mae ein diwydiant yn wynebu cyfnod o newid digynsail a gyda'r angen i bob busnes ar y tir leihau eu hôl troed carbon, mae'n anochel y bydd y ffordd y mae'r busnesau hyn yn gweithredu yn wahanol."

"Byddwn yn annog pawb sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio i wneud cais am y Gwasanaeth Cynghori nawr, oherwydd yn y cyfnod hwn mae’n hanfodol bwysig bod pob busnes yn rhoi sylw blaenllaw i effeithlonrwydd ac elw, gan nodi meysydd sydd â'r potensial ar gyfer gwella neu dyfu a mynd i'r afael ag unrhyw rai sy'n debygol o danberfformio yn y tymor hir." 

Mae wyth ymgynghoriaeth wledig flaenllaw wedi'u cymeradwyo i ddarparu'r Gwasanaeth Cynghori.  Mae cyngor un-i-un wedi’i ariannu hyd at 80%, ac mae cyngor fel grŵp, sydd ar gael i rhwng tri ac wyth unigolyn, yn cael ei ariannu'n llawn hyd at uchafswm o €1,500 (ewro) fesul cais. Gellir gwneud cais am y gwasanaeth hyd at bedair gwaith.  

Mae cynllunio busnes yn un o nifer o gategorïau sydd ar gael drwy'r Gwasanaeth Cynghori, gan roi cyfle i ymgeiswyr llwyddiannus geisio cyngor cyfrinachol ac annibynnol a fydd yn eu helpu i arfarnu eu busnes a diogelu ei ddyfodol. Mae eraill yn cynnwys gwelliannau i'r seilwaith; rheoli pridd, glaswelltir a chnydau, rheoli a pherfformiad da byw, materion amaeth-amgylcheddol a rheoli coetiroedd.  

"Pa sector bynnag yr ydych ynddo, bydd nodi meysydd i'w gwella a dod o hyd i atebion i heriau yn hanfodol i fusnesau sydd angen cystadlu yn y farchnad fyd-eang newydd," meddai Mrs Williams. 

I gael gwybodaeth fanylach am y Gwasanaeth Cynghori, ewch i https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy. Fel arall, ffoniwch Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456000 813 neu cysylltwch â'ch swyddog datblygu lleol. 

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.