Supply Chain and Collaboration Development Plan

Cynllun datblygu cadwyni cyflenwi a chydweithio - Cylch 7 - Nawr ar agor; Yn cau ar 30 Mawrth 2020

Nod y cylch Mynegi Diddordeb hwn yw rhoi cymorth ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth gymunedol.

Rhaid i gynlluniau gyd-fynd yn glir ag amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a dogfen Ffyniant i Bawb Llywodraeth Cymru. Dylai'r cynllun gynnig rhwydwaith sefydlog a chydlynol o wasanaethau a fydd yn cael eu hintegreiddio'n llawn â mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus. Dylai'r rhwydwaith fod yn un dibynadwy, fforddiadwy a hawdd ei ddefnyddio a dylai gynnig amserau teithio sy'n annog pobl i ddefnyddio mathau eraill o drafnidiaeth yn lle ceir. 

Dylai cynlluniau trafnidiaeth gymunedol arwain at y canlyniadau isod:

  • Profiad Cwsmeriaid  – Mae defnyddwyr yn cael gwasanaethau o'r safon uchaf bosibl.
  • Gwell Cysylltiadau – Mae'r gwasanaethau a gynigir yn cysylltu â gwasanaethau bysiau a gwasanaethau trafnidiaeth eraill. Maent yn ddigon aml ac ar gael yn y ffordd sydd ei hangen er mwyn i bobl fedru cyrraedd y mannau hynny lle mae swyddi, gwasanaethau iechyd, ysgolion a chyfleoedd hamdden.  
  • Mynediad i Bawb – Mae unrhyw deithwyr, pa anabledd bynnag sydd ganddynt, yn gallu manteisio ar gerbydau addas ac mae gyrwyr yn darparu gwasanaeth sy'n diwallu eu hanghenion. 
  • Unigrwydd a Theimlo'n Ynysig – Caiff gwasanaethau eu cynllunio mewn ffordd sy'n helpu i wella cynhwysiant cymdeithasol ac i fynd i'r afael ag unigedd. 
  • Ymateb i'r Argyfwng Hinsawdd – Cyrraedd nodau Cymru o ran bod yn garbon isel drwy newid i fflyd Werdd.  
  • Cynaliadwyedd Ariannol – Lleihau dibyniaeth ar fuddsoddiad gan y sector cyhoeddus. 

Mae'n rhaid i'r cymorth ar gyfer gweithgareddau cydweithredu ddangos bod o leiaf ddau ynghlwm wrth y prosiect arfaethedig. Y cynigion o ran prosiectau sy'n flaenoriaeth ar gyfer cymorth yw'r rhai sy'n dangos y canlynol:

  • Datblygu, ehangu neu wella gwasanaethau trafnidiaeth cymunedol mewn ardaloedd gwledig
  • Arloesedd drwy integreiddio systemau cyfatebol o wasanaethau trafnidiaeth cymunedol a chyhoeddus mewn ardaloedd gwledig
  • Partneriaethau cydweithredol â'r trydydd sector ehangach sy'n hyrwyddo amrywiaeth er mwyn cyflawni gwell gwasanaethau trafnidiaeth cymunedol mewn ardaloedd gwledig. 

Ni fydd cynigion ar gyfer prosiectau sy'n golygu gwaith treialu at ddibenion ymchwilio neu astudiaethau ynghylch technolegau neu dechnegau newydd na chynigion ar gyfer datblygu cadwyni cyflenwi i gynhyrchion penodol yn flaenoriaeth. 

Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio: datganiad o ddiddordeb – meini prawf a ffurflen gais: https://llyw.cymru/cynllun-datblygu-cadwyni-cyflenwi-chydweithio-datganiad-o-ddiddordeb-meini-prawf-ffurflen-gais?_ga=2.44682020.1681751675.1581327141-413311742.1543317556
 
Ddordeb mae’n rhaid i geisiadau llawn gael eu cyflwyno erbyn 29 Mehefin.