Stanton (Forest Coalpit

Yn anffodus, mae cyfyngiadau Covid-19 wedi tarfu ar Sioe Frenhinol Cymru eleni drwy atal miloedd o ymwelwyr o bob cwr o’r byd rhag ymweld, ynghyd â channoedd o arddangoswyr a da byw o’r radd flaenaf sydd oll yn helpu i wneud y digwyddiad blynyddol hwn yn un o’r uchafbwyntiau ar y calendr amaethyddol rhyngwladol. 

Er gwaethaf y siom enfawr o beidio dod ynghyd yn Llanfair-ym-Muallt yn hwyrach fis yma, bydd y sioe hon, un o’r fwyaf ei maint a’r mwyaf llwyddiannus yn Ewrop, yn digwydd beth bynnag, er ei bod ar-lein y tro yma! Er na fydd y staff yn gallu estyn croeso cynnes ar stondin Cyswllt Ffermio eleni, mae Dewi Hughes, rheolwr datblygu technegol gyda Menter a  Busnes, sy’n gweithio gyda Lantra Cymru i ddarparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, yn dweud bod gan y gwasanaeth gynnig rhithwir cynhwysfawr i bob ffermwr a choedwigwr yng Nghymru sy’n fodlon ymuno ar-lein.

Bydd Sioe Frenhinol Cymru eleni (Gorffennaf 20 – 23) yn cynnwys rhaglen orlawn o weithgareddau ar-lein wedi eu cynllunio gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (RWAS) a nifer o’i rhanddeiliaid eithriadol o ffyddlon, sy’n cynnwys Cyswllt Ffermio. Gan weithio ar y cyd, maen nhw’n benderfynol o barhau’r traddodiad hirsefydlog o arddangos y ‘gorau o’r goreuon’ ymhob maes o’r diwydiant.

Mae Cyswllt Ffermio wedi llunio rhaglen thematig ar gyfer pedwar diwrnod y sioe, sy’n cynnwys cyfres o weminarau byw, sesiynau holi ac ateb, cyflwyniad gyda’r nos o ddigwyddiad ‘Yn Fyw o’r Fferm’ yn Sir Benfro, a llawer iawn mwy.

“Rydym wedi cynllunio wythnos orlawn ar gyfer y Sioe Frenhinol ‘rithwir’ gyntaf erioed, gyda rhaglen amrywiol a fydd, yn ein barn ni, â rhywbeth i’w gynnig i bawb, o’r rheiny sydd megis cychwyn ar eu taith broffesiynol, i fusnesau mwy sefydledig a datblygedig,” meddai Mr Hughes.

Bydd pob un o’r pedwar diwrnod yn cychwyn am 10am gyda gweminar a sesiwn holi ac ateb am sector penodol sy’n para hanner awr, gan roi cipolwg ar dueddiadau a grymoedd y farchnad ar hyn o bryd. Bydd gweithgareddau wedi eu cynllunio hefyd ar gyfer pob slot amser cinio, ac eto yn fuan gyda’r nos, gydag amrywiaeth o bynciau a siaradwyr.

“Rydym eisiau i bawb gynllunio ymlaen llaw ac archebu lle gynted ag y bo modd, felly ewch i wefan Cyswllt Ffermio gynted ag y gallwch i weld ein rhaglen ddyddiol fanwl ar gyfer ‘Sioe Frenhinol Cymru Rithwir’, yn ogystal ag arweiniad ar sut i gofrestru ar y rhaglen a mynd ati i wylio’r gweithgareddau a ddewiswch.” 

Meddai Mr Hughes, a ychwanegodd y bydd unrhyw unigolion cymwys sydd heb gofrestru’n barod gyda Cyswllt Ffermio yn gallu gwneud hynny dros y ffôn, drwy ffonio Canolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813.  

Bydd Dydd Llun (20 Gorffennaf) yn canolbwyntio ar foch a dofednod. Bydd gweminar bore Llun wedi ei gyflwyno gan arbenigwr o Kantar UK, sef cwmni data, gwybodaeth ac ymgynghori blaenllaw a fydd yn darparu’r wybodaeth annibynnol ddiweddaraf am amrywiaeth o bynciau sy’n berthnasol i bob cynhyrchydd moch a dofednod.

Am 12.30pm, cewch eich ysbrydoli gan y cwpwl mentrus Kyle Holford a Lauren Smith sy’n magu eu brîd arbennig eu hunain o foch ‘Du Cymreig’ y coetir sy’n bwydo ar borfa ar fferm Forest Coalpit Farm ym Mannau Brycheiniog. Roedd rhaid i’r ddau ffermwr yma edrych ar ffyrdd newydd o weithio gyda’r hyn oedd ganddyn nhw’n barod pan ddaeth eu gwerthiannau arferol i’w sail cwsmeriaid bwyty arobryn i ben oherwydd Covid-19. Doedden nhw ddim yn hir yn addasu i’r newidiadau a ddaeth i’w rhan! Cyn hir roeddent wedi canfod marchnad newydd drwy werthu a darparu blychau cig moch yn uniongyrchol i’r cwsmeriaid. Gallwch glywed sut maen nhw wedi llwyddo i ddiogelu dyfodol eu busnes yn ystod eu cyflwyniad, a fydd yn cynnwys sesiwn holi ac ateb byw.

Bydd y milfeddyg a’r arbenigwr moch uchel ei barch Bob Stevenson yn cynnal gweminar gyda’r nos ar iechyd a hwsmonaeth moch. Bydd hefyd yn pwysleisio gwerth opsiynau hyfforddi Cyswllt Ffermio ym maes iechyd a lles anifeiliaid.

Bydd Dydd Mawrth (21 Gorffennaf) yn troi’r sbotolau ar y sector cig coch. Bydd Hybu Cig Cymru yn cychwyn rhaglen dydd Mawrth gyda gweminar am yr hyn y gall ffermwyr ei ddisgwyl wrth i’r diwydiant cig coch baratoi ar gyfer heriau a chyfleoedd dyfodol y tu allan i’r UE ac ymdopi gydag ôl-effeithiau’r pandemig.

Bydd cyflwyniad amser cinio ar ‘Ychwanegion elfennau hybrin mewn ŵyn sy’n tyfu’, gan y milfeddyg fferm Victoria Fisher (Farm First Vets), a fydd hefyd yn rhoi canlyniadau prosiect safle ffocws diweddar gan Cyswllt Ffermio ar yr un pwnc.

Yn ystod y slot gyda’r nos, bydd yr academydd a’r ffermwr adnabyddus Dr Prysor Williams o Brifysgol Bangor yn esbonio sut mae’r sector amgylcheddol yn esblygu’n gyflym, a pham fod arferion da sy’n hawdd eu cyflawni nid yn unig yn well i’r amgylchedd ond hefyd yn arwain at fusnesau mwy proffidiol.

Mae Dydd Mercher (22 Gorffennaf) i ffermwyr llaeth. Bydd y cyflwynydd gwadd Patty Clayton, prif ddadansoddwr i AHDB Dairy, yn arwain y gweminar bore, gan roi trosolwg o’r farchnad laeth bresennol a chipolwg ar natur newidiol y sector laeth yn ddiweddar o ganlyniad i’r pandemig.

Bydd rhaglen datblygu personol flaenllaw Cyswllt Ffermio, yr Academi Amaeth, yn mynd ar yr awyr ar gyfer slot amser cinio dydd Mercher. Bydd grŵp o gyn-fyfyrwyr y rhaglen yn cynnal gweminar i siarad am eu profiad yn yr Academi Amaeth a’i dylanwad ar eu bywydau. Ymunwch â’r gweithgaredd hwn i ofyn eich cwestiynau i’r panel ac i glywed sut mae’r rhaglen unigryw hon o ymweliadau mentora, hyfforddi ac astudio’n effeithio ar ddyheadau personol, gyrfaol a busnes a mwy. 

Un o uchafbwyntiau’r wythnos fydd y digwyddiad ar y nos Fercher ‘Yn Fyw o’r Fferm’ o Fferm Mountjoy yn Nhrefgarn, Sir Benfro.

Bydd Dewi Hughes yn hwyluso’r digwyddiad rhyngweithiol ‘o bell’ hwn o fferm William Hannah, gan roi taith rithwir i’r cyfranogwyr o amgylch y fferm tir glas 186-hectar hon, sydd â buches o 360 o wartheg godro Fresian Seland Newydd a 200 o loeau.

“Beth am ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad ‘byw’ hwn ar y fferm, pan fydd panel gwadd o arbenigwyr llaeth adnabyddus yn trafod amrywiaeth fawr o bynciau."

“Cewch ganfod sut mae defnyddio technoleg genomig yn gwella cynhyrchiad llaeth ar fferm Mountjoy a sut mae defnyddio meillion yn helpu i ostwng faint o nitrogen a ddefnyddir – rhywbeth sydd o ddiddordeb i lawer o bobl wrth i’r diwydiant wynebu’r newidiadau sydd ar y gweill yn y rheoliadau NVZ,” meddai Mr Hughes a ychwanegodd y bydd cyfle i ofyn cwestiynau’n fyw yn ystod y digwyddiad.

Mae Dydd Iau (23 Gorffennaf) i goedwigwyr a garddwriaethwyr. Ar ddiwrnod olaf y sioe ‘rithwir’ bydd Iwan Parry, cadeirydd Sefydliad Siartredig y Coedwigwyr, yn cychwyn y diwrnod gyda gweminar a fydd yn rhoi’r diweddaraf am farchnad y sector coedwigaeth ynghyd â throsolwg o’r patrymau cyflenwi, y galw a’r prisiau am bren yng Nghymru.

Yn y slot amser cinio bydd Chris Creed o ADAS yn cynnal gweminar i helpu darpar-arddwriaethwyr i ystyried eu hopsiynau cynyddol ar gyfer cynhyrchu mwy o incwm. 

Ewch i www.llyw.cymru/cyswlltffermio i weld rhaglen Sioe Frenhinol ‘rithwir’ Cyswllt Ffermio a fydd yn dangos y dyddiadau, amseroedd, pynciau a siaradwyr i chi ynghyd ag arweiniad ar sut i gofrestru eich presenoldeb ar-lein.

Bydd yr holl weminarau wedi eu recordio a’u llwytho ar y wefan i’r rheiny sy’n colli unrhyw rai o weithgareddau’r wythnos.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.