Fe wnaeth cynulleidfa lawn o 1,000 o ffermwyr gofrestru ar gyfer gweminar Cyswllt Ffermio ar-lein pan fu dau gyflwynydd gwadd, un yn arbenigwr amgylcheddol blaenllaw yng Nghymru a’r ail yn swyddog polisi o Lywodraeth Cymru, yn egluro sut bydd cynllun Grant Busnes Fferm - Y Cynllun Gorchuddio Iardiau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru yn helpu i leihau’r dŵr budr a’r slyri a gynhyrchir ar ffermydd yng Nghymru.

Nod y cynllun hwn yw rhoi cymorth ariannol o rhwng £3,000 a £12,000 (hyd at uchafswm o 40% o gyfanswm cost y gwaith gwella) i’w helpu i wella’r isadeiledd presennol, ac i reoli maethynnau’n well ar y fferm.  

Eirwen Williams oedd cadeirydd y weminar, Cyfarwyddwr Rhaglenni Gwledig gyda Menter a Busnes, sef y corff sydd, gyda Lantra Cymru, yn cyflwyno gwasanaethau Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru. Dywedodd Mrs Williams fod y niferoedd a gymerodd ran yn y weminar yn dangos bod yna wir awydd o fewn y diwydiant i roi sylw i lygredd amaeth a lleihau faint o ddŵr halogedig a gynhyrchir ar ffermydd Cymru. Fe wnaeth Mrs Williams hefyd drafod y cymorth a’r arweiniad sydd ar gael drwy gyfrwng Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio a chymorthfeydd un wrth un.

“Gyda hyd at 6,000 ewro ar gael i bob busnes fferm cymwys, bydd llawer yn teimlo bod arnynt angen cyngor arbenigol i ganfod lle gallant wneud y gwelliannau mwyaf effeithiol,” meddai Mrs Williams.

Esboniodd Mrs Williams fod dros 100 o gynghorwyr ar gael drwy wyth o gwmnïau sydd wedi’u cymeradwyo i roi cyngor drwy gyfrwng Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio. Pwysleisiodd fod cymorth wedi’i deilwra’n arbennig, a ariennir hyd at 80% ar gyfer ceisiadau unigol ac a ariennir yn llawn ar gyfer grwpiau o rhwng tri ac wyth o fusnesau (dau ar mentrau ar y cyd) sy’n wynebu heriau tebyg, ar gael i bob busnes sydd wedi cofrestru â Cyswllt Ffermio. 

“Mae rhestr o’r holl gwmnïau cynghori cymeradwy i’w gweld ar wefan Cyswllt Ffermio.

“Hoffwn bwysleisio y bydd unrhyw arweiniad a geisiwch naill ai fel unigolyn neu fel rhan o gais grŵp, yn gwbl gyfrinachol, rhwng y ffermwr neu’r ffermwyr a’r cynghorydd o’u dewis,” meddai Mrs Williams.

Gall unrhyw ffermwr cofrestredig sydd eisiau cyngor un i un penodol, sydd wedi’i deilwra at ei ofynion, gael un ‘cymhorthfa’ gyfrinachol sy’n cael ei hariannu’n llawn. Gall hwn bara o unrhyw beth rhwng ychydig funudau ar gyfer un ymholiad syml i ymgynghoriad mwy manwl sy’n para hyd at awr.  

“Gallwch drefnu i gael cymhorthfa fel hyn drwy naill ai gysylltu â’r swyddog datblygu lleol neu Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ac ar ôl ichi gofrestru eich diddordeb, byddwn yn gofyn i’r cynghorydd gysylltu â chi’n uniongyrchol i drefnu amser sy’n hwylus i bawb,” meddai Mrs Williams.

Oherwydd unrhyw gyfyngiadau Covid-19 sy’n weithredol pan fyddwch angen y cymorth, gellir darparu’r cymorthfeydd yn ddigidol neu dros y ffôn. Cewch drafod hyn pan fyddwch yn mynegi diddordeb, naill ai drwy’r Ganolfan Wasanaeth neu eich swyddog datblygu lleol. 

I lawrlwytho llyfryn rheolau Gorchuddio Iardiau FBG Llywodraeth Cymru ewch i https://llyw.cymru/grant-busnes-i-ffermydd-gorchuddio-iardiau-llyfryn-rheolau 

I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau Cyswllt Ffermio, ewch i www.llyw.cymru/cyswlltffermio neu ffoniwch Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813. 

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.