Eirwen_laptop

Mae Cyswllt Ffermio wedi creu cynllun darparu digidol er mwyn cadw mewn cysylltiad â’r diwydiant a chynnig yr holl gymorth sy’n bosibl yn ystod y pandemig coronafeirws. Gan fod holl wasanaethau wyneb i wyneb Cyswllt Ffermio wedi eu gohirio am y tro, bydd opsiynau megis webinarau, flogiau, podlediadau a fideo gynadledda yn ogystal â negeseuon e-bost, galwadau ffôn a negeseuon testun yn dod yn bwysicach fyth wrth i’r diwydiant wynebu’r argyfwng gyda’i gilydd.  

Dywed Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, fod staff Cyswllt Ffermio, ymgynghorwyr arbenigol a darparwyr hyfforddiant yn dod o hyd i ffyrdd newydd i gefnogi’r diwydiant ac i estyn llaw rithwir yn ystod y cyfnod anodd a phryderus hwn.

Dywed Mrs Williams fod nifer o fusnesau eisoes yn gwneud defnydd eang o dechnoleg, felly bydd defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol megis Facebook, Google Hangout, Microsoft Teams, Zoom a WhatsApp yn dod yn fwy a mwy aferol ar gyfer nifer o unigolion cymwys sydd eisiau derbyn gwasanaethau, atgyfnerthu eu sgiliau a rhwydweithio o bell.  

“I unrhyw un sy’n anghyfarwydd a’r dulliau hyn, gallwn hefyd ddefnyddio dulliau mwy traddodiadol, ond rydym ni eisiau eich sicrhau ein bod yn bwriadu parhau i gynnig cymaint o gefnogaeth, gwasanaethau a hyfforddiant â phosibl wrth edrych tua’r dyfodol, felly bydd negeseuon e-bost, ffôn, negeseuon testun a deunydd drwy’r post hefyd yn chwarae rhan."

“Os oes angen unrhyw gymorth gyda TGCh, mae gennym ni dîm cymeradwy o diwtoriaid arbenigol a fyddai’n gallu eich cynorthwyo gydag ymholiadau cyffredinol dros y ffôn a’ch helpu i baratoi ar gyfer ffyrdd newydd o weithio gyda ni.”

Mae holl wasanaethau wyneb i wyneb Cyswllt Ffermio wedi eu gohirio am y tro o ganlyniad i reoliadau’r llywodraeth i ‘aros adref ac osgoi unrhyw deithio nad yw’n angenrheidiol’, ond mae Mrs Williams yn dweud bod tîm Cyswllt Ffermio o 18 swyddog datblygu rhanbarthol ar gael ar ben arall y ffôn neu e-bost a’u bod eisiau clywed gennych chi os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon. 

“Gallwch dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sut yr ydym yn bwriadu darparu ein hystod eang o wasanaethau cefnogi a throsglwyddo gwybodaeth, prosiectau arbennig a digwyddiadau a chymorthfeydd digidol ac ar-lein drwy edrych ar wefan a chyfryngau cymdeithasol Cyswllt Ffermio’n rheolaidd. Ond yn ogystal â hyn, rydym hefyd yn eich annog i gadw mewn cysylltiad gyda’ch swyddog datblygu."

“Bydd y tîm hwn, sydd bellach i gyd yn gweithio o adref, yn gallu eich cyfeirio at y wybodaeth sydd arnoch ei angen os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon penodol,” meddai Mrs Williams. 

“Mae pob swyddog datblygu eisoes yn ymchwilio i’r dulliau mwyaf priodol i gadw mewn cysylltiad gyda’r ffermwyr, garddwyr a choedwigwyr yn eu hardaloedd, sy’n gwneud gwaith mor arwrol er mwyn parhau i gynhyrchu’r bwyd, y cynnyrch a’r deunyddiau angenrheidiol yn ystod yr argyfwng byd-eang hwn.”

Bydd rhaglen gymorthfeydd un i un Cyswllt Ffermio ar gyfer y gwanwyn yn trafod pynciau gan gynnwys rheoli staff, cynllunio busnes, olyniaeth, adolygiadau ynni, cynllunio, marchnata ac arallgyfeirio, a byddant yn cael eu cynnal naill ai’n ddigidol neu dros yn ffôn, gyda’r cyntaf wedi’i drefnu ar gyfer 8 Ebrill.  Ewch i wefan Cyswllt Ffermio am restr o’r pynciau a’r dyddiadau ynghyd â chyfarwyddiadau ynglŷn â sut i archebu eich slot ar-lein neu dros y ffôn.

“Ar yr amod eich bod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio - ac os nad ydych chi neu aelodau o’ch teulu eisoes wedi cofrestru, mae’r broses yn syml a gallwch wneud hynny ar-lein neu dros y ffôn - gallwn drefnu ymgynghoriad wedi’i ariannu’n llawn drwy’r cymorthfeydd digidol priodol sydd eisoes wedi’u cynllunio. Os nad yw eich ymholiad o fewn cwmpas ein cymorthfeydd, byddwn yn trefnu trafodaeth gydag un o’n hymgynghorwyr technegol cymeradwy."

“Mae hyn yn golygu y dylem allu canfod yr atebion sydd arnoch eu hangen yn sydyn dros y ffôn neu’n ddigidol, ac os ydych chi’n teimlo bod angen cefnogaeth bellach arnoch, gallwch ystyried ymgeisio ar gyfer Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, sydd wedi’i ariannu hyd at 80% ar gyfer ceisiadau unigol ac wedi’i ariannu’n llawn ar gyfer grwpiau o dri neu fwy.”

“Rydym ni’n gwybod nad oes modd parhau i wneud popeth fel ag o’r blaen, ond fe wnawn ni bopeth o fewn ein gallu i’ch cynorthwyo, i gadw ysbryd ac i’ch helpu i barhau i weithio a gwella eich sgiliau mewn modd effeithlon a diogel.” 

Yn gynharach yr wythnos hon, lansiodd The Farming Community Network adnodd ‘FarmWell Wales’, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, sy’n cynnig ffynhonnell o adnoddau am ddim sy’n cynnwys canllawiau defnyddiol a hawdd eu dilyn, cyngor a chysylltiadau i’ch cadw chi a’ch busnes yn gryf drwy’r cyfnod heriol hwn a’ch cynorthwyo i gynllunio’n bositif ar gyfer y dyfodol. Mae manylion am y fenter newydd i’w gweld ar wefan farmwell.wales / farmwell.cymru, ynghyd â chyfeirlyfr copi caled a anfonwyd drwy’r post i oddeutu 16,500 o fusnesau fferm ar draws Cymru. 

Bydd Cyswllt Ffermio yn parhau i e-bostio neu bostio taflenni’n nodi’r hyn sydd ar y gweill a’r bwletinau technegol bob deufis i bob busnes sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio. Yn ogystal, byddwn yn anfon diweddariadau drwy’r sianeli cyfathrebu arferol, y wasg a’r cyfryngau ynglŷn â phrosiectau, mentora, trefniadau sgiliau a hyfforddiant a’r holl wasanaethau eraill sy’n cael eu hadolygu wrth i’r sefydliad geisio canfod ffyrdd i gymryd lle gweithgareddau wyneb i wyneb. 

Am fanylion cyswllt swyddogion datblygu Cyswllt Ffermio a map sy’n dangos yr ardaloedd lle maent yn gweithio, ewch i www.llyw.cymru/cyswlltffermio. Fel arall, ffoniwch Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813.  

Ewch i <https://llyw.cymru/coronafeirws> am ganllawiau Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r coronafeirws.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.