Delwedd o James Powell o Fferm Dolygarn

Bydd y camau sy'n cael eu cymryd gan fferm ucheldir yng Nghymru i leihau ei heffaith amgylcheddol yn cael eu rhannu â ffermwyr yn ystod darllediad byw Cyswllt Ffermio y mis hwn.

Bydd digwyddiad Yn Fyw o’r Fferm Cyswllt Ffermio ar 16 Medi yn mynd â gwylwyr i fferm Dolygarn, Llanbadarn Fynydd, Llandrindod, lle bydd James Powell sy’n cynhyrchu bîff a defaid yn siarad am y gwaith prosiect y mae'n ymwneud ag ef fel ffermwr safle arddangos Cyswllt Ffermio.

Drwy weithio i ddeall y gydberthynas rhwng bywyd planhigion, bywyd y pridd a bywyd anifeiliaid mae James yn gobeithio gwella priddoedd i helpu i gynyddu faint o borthiant sy’n cael ei dyfu yn y gaeaf.

Mae wedi bod yn gweithio gyda Charlie Morgan, arbenigwr glaswelltir a phorthiant, ar gnydau gwahanol sy’n tyfu yn y gaeaf a fydd yn ei helpu i liniaru'r risg o golli pridd a maetholion a'r effaith ar ansawdd y dŵr a chynhyrchiant y fferm yn y dyfodol.

Bydd Mr Morgan yn siaradwr yn y digwyddiad a bydd cyngor yma hefyd ar wella adnoddau naturiol gan Bridie Whittle, o Sefydliad Gwy ac Wysg, yn ogystal â diweddariadau am y farchnad a phrosiectau gan Hybu Cig Cymru.

Bydd y digwyddiad yn dechrau am 19.30. I gymryd rhan, cofrestrwch eich diddordeb erbyn 15:00 ar 16 Medi drwy e-bostio elan.davies@menterabusnes.co.uk neu cliciwch yma.