James Powell
Dolygarn, Llanbadarn Fynydd, Llandrindod Wells, Powys
Meysydd allweddol yr hoffech chi ganolbwyntio arnyn nhw fel ffermwr arddangos?
Iechyd y pridd: y nod yw pesgi popeth ar laswellt ond priddoedd trwm yw’r ffactor sy’n ein cyfyngu ni. Bydd deall y gydberthynas rhwng bywyd planhigion, bywyd y pridd a bywyd anifeiliaid er mwyn gwella’n priddoedd yn ein helpu i gynyddu faint o borthiant gaeaf y gallwn ei dyfu.
Ystyried ffyrdd i leihau’r mewnbynnau trwy dyfu rhywogaethau amrywiol: hoffem gael gwell dealltwriaeth o’r rhywogaethau fydd yn tyfu ar ein tir, pa rywogaethau fydd yn bwydo deunydd organig i’r pridd ac yn cynyddu’r ffyngau mycorrhiza.
Is-rannu’r seilwaith pori: system bori cylchdro sydd gennyn ni ond fe hoffen ni ystyried sut i fanteisio i’r eithaf ar y glaswellt yn well byth.
Ffeithiau Fferm Dolygarn
“Wrth i fyd amaeth Cymru symud i ffwrdd oddi wrth gymorthdaliadau uniongyrchol, mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni’n gwneud i bob hectar weithio i ni. Rydyn ni wedi dechrau cynhyrchu ar dir ymylol ac wrthi’n symud i'r cam nesaf, sef ei ddefnyddio i’r eithaf. Drwy weithio gyda Cyswllt Ffermio rydym yn gobeithio sefydlu systemau fydd yn caniatáu i ni gynyddu’r allbwn fesul hectar a rhannu’n canfyddiadau ni gyda ffermwyr eraill sy'n symud i'r un cyfeiriad.’’
– James Powell