Iwan Francis

Nantglas, Talog, Sir Gaerfyrddin

 

Meysydd allweddol yr hoffech chi ganolbwyntio arnyn nhw fel ffermwr arddangos?

Ffrwythlondeb y fuches: gall ffrwythlondeb fod yn heriol gan ein bod yn lloia mewn dau floc. Fy nod yw lleihau ein cyfnod lloia o 12 wythnos i 9 wythnos.

Rheoli pridd a glaswelltir: mae prynu porthiant i mewn yn ychwanegu at ein costau cynhyrchu, felly os oes modd i ni leihau ein dibyniaeth ar y bwydydd yma drwy wella perfformiad ein glaswelltir, bydd hynny’n gwneud ein busnes yn fwy cynaliadwy.

Gwaredu clefyd Johne o’r fuches: mae iechyd y fuches yn flaenoriaeth ac mae clefyd Johne yn un yr ydym yn awyddus iawn i’w reoli.

Ystyried gwerth tyfu porfeydd cymysg: rydym ni’n awyddus i ddysgu mwy am sut y gallwn gynnwys porfeydd cymysg i’n system, i ddarparu amrwyiaeth yn niet y gwartheg.

Ffeithiau Fferm Nantglas

 

"Fel ffermwyr, mae'n bosibl sefyll yn llonydd o ran y ffordd yr ydym yn rhedeg ein busnesau fferm, felly drwy weithio gyda Cyswllt Ffermio fel Safle Arddangos, rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag arbenigwyr o wahanol feysydd o'r busnes a rhannu ein profiadau gyda'r ffermwyr a fydd yn mynychu ein diwrnodau agored, gan wynebu eu cwestiynau a chanfod atebion - neu esgusodion!"

- Iwan Francis

 


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Moelogan Fawr
Llion a Sian Jones Moelogan Fawr, Llanrwst, Conwy Meysydd
Hendre Ifan Goch
Rhys Edwards Hendre Ifan Goch, Pen-y-bont ar Ogwr ​​ Meysydd
Aberbranddu
Irwel Jones Aberbranddu, Cwrt y Cadno, Pumsaint, Llanwrda Prif