Diweddariad Prosiect Nantglas: Safle arddangos yn cyflawni cyfradd 91% o fuchod yn lloia o fewn 6 wythnos

Mae Nantglas, sy’n cael ei rhedeg gan Iwan Francis ac yn un o bedair safle arddangos llaeth Cyswllt Ffermio ledled Cymru, yn targedu dau floc lloia 10 wythnos. Un o ddangosyddion perfformiad allweddol y fferm oedd sicrhau cyfradd o >90% yn lloia o fewn 6 wythnos. Yng ngwanwyn 2021, fe wnaeth 91% o’r fuches loia yn ystod chwe wythnos gyntaf y bloc lloia, sef cynnydd o 20% o gymharu â bloc lloia gwanwyn 2020. Felly, pa newidiadau sydd wedi cael eu gweithredu?

Fe wnaeth Kate Burnby, yr arbenigwraig sy’n cydweithio ag Iwan, awgrymu rhaglen fridio gynlluniedig ar gyfer heffrod, yn cynnwys prostaglandin strategol, a gynorthwyodd i sicrhau fod yr heffrod yn cael tarw ar ddechrau’r cyfnod cymryd tarw. Fe wnaeth cyfnod lloia tynnach i heffrod sicrhau cymdeithasu gwell, ond mae heffrod hefyd yn tueddu i gymryd tua naw diwrnod yn fwy i ddod yn gyflo, felly sicrhaodd hyn fod yr heffrod yn cadw’r cyfnod lloia’n dynnach. Yn ogystal â chynnig buddion yn y tymor byr, mae Kate yn disgwyl y gwnaiff y buddion llawn barhau i gael eu cyflawni ymhell i’r dyfodol. Er enghraifft, bydd hi’n haws rheoli grŵp o heffrod cyfnewid a gaiff eu geni yn gynharach a dros gyfnod tynnach, a byddant hefyd yn debygol o loia yn 24 mis oed (yn hytrach na’r ystod hanesyddol o 22-24 mis). 

Mae coleri i ganfod buchod sy’n gofyn tarw wedi bod yn gaffaeliad sylweddol i Iwan, oherwydd maent yn ddibynadwy ac yn effeithiol, sydd wedi helpu i gynnal cyfraddau cymryd tarw â llai o ymdrech nag yn flaenorol, pan ddefnyddiwyd paent ar y gynffon yn unig. Nid yw cyfraddau buchod gwag wedi gostwng gymaint â’r disgwyl hyd yn hyn – efallai bydd lle i wella o ran rheoli/ffrwythlondeb ‘teirw ysgubo’.

Mae mesur a monitro buchod sy’n wynebu risg, e.e. problemau metabolaidd, rhai sy’n lloia’n hwyr a phroblemau lloia, wedi amlygu gwahaniaethau sylweddol yng nghyfraddau cyflo’r grwpiau hyn.  Mae tabl  1 yn cynnwys y cofnodion lloia mae Kate wedi’u dadansoddi o gofnodion lloia Iwan ers dechrau’r prosiect tua diwedd 2019. 

Tabl 1. Cofnodion lloia Nantglas ers tua diwedd 2019.

 

Yn achos gwanwyn 2020, cofnododd Nantglas fod tua 45% o fuchod yn wynebu risg. Mae hyn wedi gostwng i 38% yn 2021 a chafwyd achosion llai difrifol, yn cynnwys gostyngiad o 8% yn nifer yr achosion o glwy’r llaeth. Mae’r dystiolaeth hon yn ategu’n gryf y strategaethau ar gyfer gwelliant parhaus, h.y. lleihau nifer y buchod sy’n wynebu risg trwy atal yr amgylchiadau sy’n eu hachosi trwy gynnal amgylchiadau priodol i fuchod, rhoi magnesiwm ychwanegol yn effeithiol, sicrhau fod heffrod yn cael tarw ar ddechrau’r cyfnod gofyn tarw ac anelu at loia cynnar a rhwydd.