Welsh Government

22 Mehefin 2020

 

Mewn buches sy’n lloia mewn dau floc, bob tro y bydd buwch sy’n gofyn tarw yn mynd heb ei pharu mae yna golled ariannol. Felly, mae taro’r targedau o ran y cyfraddau ffrwythloni a beichiogi yn gwella proffidioldeb ac yn caniatáu i ffermwyr ddewis y buchod cywir ar gyfer bridio a chwlio. 

Yn ôl y milfeddyg Kate Burnby, sy'n gweithio gydag Iwan Francis, un o ffermwyr arddangos Cyswllt Ffermio, i wella ffrwythlondeb yn ei fuches ef sy’n lloia mewn dau floc gwahanol, mae cyfraddau ffrwythloni uchel yn allweddol at sicrhau patrwm lloia tynn.

I sicrhau cyfraddau ffrwythloni uchel, rhaid i’r buchod ddangos yn glir eu bod yn gofyn tarw a rhaid cael polisi da ar ganfod y buchod sy’n gofyn tarw, dywedodd wrth y ffermwyr a fu’n gwrando ar weminar Cyswllt Ffermio a hwyluswyd gan swyddog technegol llaeth Cyswllt Ffermio yn y De, Gwenan Evans.

Mae Mr Francis wedi bod yn lloia ei fuches croesfrid o 200 o wartheg mewn dau floc o 12 wythnos yn y gwanwyn a'r hydref yn Nantglas, Talog, ond mae'n gweithio i leihau pob bloc i 10 wythnos a hynny heb gynyddu'r gyfradd gwartheg gwag, sy’n 10% ar hyn o bryd.

“Mae gan Iwan fan cychwyn da iawn. Mae’r ffrwythlondeb yn dda iawn ond rydyn ni’n ceisio codi hynny i lefel ragorol,” meddai Ms Burnby.

I gyflawni hyn, cafodd wyth buwch a fwrodd eu lloi ar ddiwedd bloc y gwanwyn – sef 7% o floc y gwanwyn – eu gwerthu; roedd modd gwneud y penderfyniad hwn am fod 81% o'r bloc hwn wedi bwrw eu lloi yn y chwe wythnos gyntaf. 

Drwy ddifa’r gwartheg a fu’n hwyr yn lloia, cafodd y ffigur ar gyfer y gyfradd loia chwe wythnos ei godi i 90%, meddai Ms Burnby. “Llwyddodd Iwan i wneud hynny am fod ganddo 21 o heffrod yn lloia a bod y cyfan ond un wedi lloia yn y tair wythnos gyntaf.’’

Mae coleri sy’n canfod buchod sy’n gofyn tarw yn helpu’r cyfnod bridio presennol: mae Mr Francis yn llogi’r rhain ond mae wedi gwneud cais am grant gan Lywodraeth Cymru i brynu 100.

Cafodd rhaglen gydamseru ei defnyddio ar y cyd â tharw potel ar gyfer paru’r heffrod a chafodd coleri eu gosod ar y buchod ar 12 Ebrill. Mae paent cynffon yn cael ei ddefnyddio ar y cyd â’r coleri.

Mae’n well cael y sicrwydd dwbl ym marn Ms Burnby.

“Mae paent yn arwydd da o sut mae pethau'n mynd, faint o fuchod sydd wedi cael eu methu. Hefyd, os bydd rhai’n dianc a bod y coleri’n dangos bod lefel y gweithgaredd yn codi, mae’n dal yn bosibl eu dal nhw os oes paent ar eu cynffon,” meddai.

Cafodd 67 o fuchod eu paru yn y 15 diwrnod cyntaf, meddai Mr Francis.

Os oes gan fferm system tarw potel DIY, mae Ms Burnby yn dweud y dylech chi ddilyn cwrs gloywi bob blwyddyn. “Mae pethau’n gallu llithro ambell waith, ac mae’n syndod beth all golwg ffres sylwi arno,’’ meddai.

Nid yw’n credu bod dull tarw potel ddwywaith y dydd yn rhoi fawr o fantais.

“Os na allwch chi weld pa bryd mae buwch yn dechrau gofyn tarw, does dim llawer o fudd ei thrin hi ddwywaith y dydd. Os caiff ei thrin yn y sesiwn nesaf sydd ar gael ar ôl i chi sylwi ei bod yn gofyn tarw, fe gewch chi ganlyniadau tebyg,” yn ei barn hi.

“Mantais o ryw 1-2% yn unig sydd ar gael drwy ddilyn y rheol AM/PM, er bod hynny’n gallu bod yn addas i rai buchesi, o ran rhannu’r gwaith rhwng sesiwn y bore a sesiwn y prynhawn.’’

I wella ffrwythlondeb ym mloc Mr Francis yn yr hydref, edrychir ar faterion yn ymwneud â’r adeiladau.

“Efallai y byddai'n fuddiol rhoi mwy o gyfle i’r gwartheg orffwyso, a chael mwy o le lle gallan nhw ddangos eu bod yn gofyn tarw,’’ meddai Ms Burnby.

“Nid yw buchod yn dangos arwyddion mor glir eu bod yn gofyn tarw os nad oes digon o le ganddyn nhw.’’

Mae DIY AI yn gwrs hyfforddiant gan Cyswllt Ffermio sydd ar gael i ffermwyr cymwys sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio. Gyda chyllid ar gyfer 80% o’r cwrs, gall ffermwyr sydd wedi cofrestru, a fydd angen bod â Chynllun Datblygu Personol, ymgeisio yn ystod cyfnod ymgeisio sgiliau gyfredol Cyswllt Ffermio, sydd ar agor ar hyn o bryd hyd 17:00 ddydd Gwener, 26 Mehefin 2020.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cwrs Dysgu Cymraeg newydd ar gyfer y sector amaeth
19 Ionawr 2022 Yr wythnos hon, cyhoeddodd y Ganolfan Dysgu
Magnesiwm cyn lloia’n cefnogi dulliau atal twymyn ar fferm laeth yng Nghymru
7 Ionawr 2022 Mae defnyddio nifer o strategaethau i atal twymyn
Milfeddygon yn cynghori ffermwyr am fagu lloi teirw o'r fuches odro yn llwyddiannus
14 Rhagfyr 2021 Bydd technegau magu da yn allweddol i economeg a