Cymharu samplau glaswellt ffres a samplau pridd i bennu ei effaith ar achosion Pica ar safle arddangos Llaethdy Nantglas.

Yn ystod y gwanwyn a dechrau'r haf eleni, roedd gwartheg Nantglas unwaith eto yn bwyta cerrig a rwbel, a elwir yn Pica. Mae hon yn broblem barhaus i Iwan Francis, sydd wedi colli gwartheg yn y gorffennol oherwydd bod rhwystr yn eu stumogau, felly gwnaed y penderfyniad i ymchwilio ymhellach.

Mae Nigel Howells (Nigel Howells Consultancy Ltd) yn un o ddau ymgynghorydd sy'n gweithio gydag Iwan i wella rheoli porthiant, gyda Nigel yn arbenigo mewn rheoli glaswellt a phridd. Cynghorodd i gymryd samplau pridd manwl a samplau glaswellt ffres o ddau gae er mwyn eu cymharu; un cae yn Nantglas (a) ac un ar dir rhent cyfagos (b). 

Roedd ansawdd maethol y ddau sampl glaswellt ar gyfer protein/gwerth D ac egni yn dda.

  • Gwerth D yn 80+
  • ME yn 12.5MJ/kg neu fwy
  • Roedd y protein yn amrywio rhwng 15 -16.5%
  • Roedd y siwgrau yn uchel, rhwng 26 -28%

Cynhaliwyd dadansoddiad o’r mwynau a’r elfennau hybrin gyda’r samplau glaswellt ffres i weld pa faeth oedd ar gael yn hawdd i'r gwartheg wrth bori. 

Yn hanesyddol, tybir bod Pica yn gysylltiedig â diffyg ffosfforws, fodd bynnag, yn yr achos yma, magnesiwm oedd y gwrthweithydd. Yn y ddau sampl, roedd lefelau magnesiwm yn isel iawn, ynghyd â lefelau isel o rai o’r prif elfennau hybrin, gan gynnwys copr, sinc, seleniwm a chobalt. Mae'r canlyniad magnesiwm isel hwn yn cyd-fynd â dadansoddiadau glaswellt mwynol eraill y mae Nigel wedi'u gwneud ar ffermydd eraill, sydd hefyd yn dioddef gyda Pica eleni.

Gyda'r canlyniadau hyn, cymerwyd samplau pridd o'r un caeau a chawsant eu dadansoddi i bennu cydberthynas rhwng y maetholion a'r mwynau sydd ar gael yn y samplau glaswellt ffres a'r lefelau gweddilliol sydd ar gael yn y pridd.

Gellid gweld bod lefelau magnesiwm a ffosfforws yn ddigonol gyda mynegai o 2, ond er mwyn i'r pridd fod yn fwy cynhyrchiol, yn ddelfrydol, dylai'r ddwy lefel fod ychydig yn uwch neu ar 3.

Roedd lefelau calsiwm gweddilliol yn ddigonol yng nghae a ac yn isel yng nghae b . 

Dangosodd sampl b lefel calsiwm gweddilliol isel yn y pridd ond roedd lefel y calsiwm a oedd ar gael yn y sampl glaswellt ffres yn uchel iawn. Dim ond trwy gymryd sampl arall y gellir darganfod gwir ddilysrwydd y canlyniad.

Roedd gan y ddau sampl pridd lefel gweddilliol uchel o sylffwr a allai fod o ganlyniad i lefelau deunydd organig. Efallai y bydd angen ystyried hyn pan ddefnyddir gwrtaith gan fod llawer o wrteithiau yn cynnwys sylffwr.

Dylid edrych ar lefelau calsiwm a magnesiwm y priddoedd i wella gweithgarwch y pridd er mwyn gwneud y gorau o’r mwynau sydd ar gael. Gall anghydbwysedd o fagnesiwm isel a chalsiwm uchel olygu y gall llai o fwynau ac elfennau hybrin fod ar gael i'r stoc. Y cydbwysedd delfrydol yn y pridd ar gyfer calsiwm i fagnesiwm yw 7:1. Ond gyda'r canlyniadau hyn, mae'r lefel yn agosach at 15:1. Ystyriaeth tymor byr posibl yw trafod ychwanegion elfennau hybrin gyda’r milfeddyg fferm er mwyn cydbwyso unrhyw ddiffygion presennol yn y pridd/glaswellt nes bod y cydbwysedd cywir o fwynau ar gael o'r glaswellt.

I gloi, bydd monitro'r maetholion a'r mwynau sydd ar gael yn y diet yn parhau a bydd samplau o laswellt ffres yn cael eu cymryd yn ystod y gwanwyn nesaf pan fydd y twf ar ei anterth (ar ôl i'r cylchdro cyntaf orffen ac ar gychwyn yr ail gylchdro yng nghanol mis Ebrill hyd at ddechrau mis Mai).