Diweddariad prosiect Nantglas – Gwella ffrwythlondeb mewn buches sy’n lloia mewn dau floc

Mae tymor lloia’r gwanwyn wedi dod ac wedi mynd ar fferm Nantglas, Talog. Bwriadwyd dechrau’r cyfnod lloia ar 28 Chwefror, ond dechreuodd y lloia ar 23 Chwefror a daeth i ben ar 22 Mai. Roedd hyn yn 12 wythnos o loia i bob pwrpas gyda dim ond 2% o golledion. 

Cyn lloia, casglodd Rupert o bractis milfeddygol ProStock samplau gwaed gan 10 buwch o'r fuches odro i chwilio am ddiffygion o ran elfennau hybrin/mwynau. Yn ffodus, dangosodd y canlyniadau nad oedd unrhyw ddiffygion sylweddol yn bresennol gan brofi bod trefn ychwanegu mwynau'r fferm yn effeithiol.

Mae Iwan a Rupert hefyd wedi bod yn cynnal profion Metricheck ar bob buwch i nodi os oes unrhyw un yn dioddef o endometritis, sef haint bacterol yn y groth. Ni welwyd unrhyw broblemau a nifer isel o wartheg budur yn unig a gofnodwyd. 
Roedd 81% o'r fuches wedi dod â llo o fewn y chwe wythnos gyntaf, gan ganiatáu i Iwan werthu wyth o fuchod a oedd yn lloia'n hwyr (7% o'r fuches) gan dynhau'r bloc lloia ar gyfer y flwyddyn nesaf. Llwyddodd y broses o ddifa’r gwartheg a oedd yn lloia’n hwyr i gynyddu’r ffigwr a oedd yn lloia o fewn chwe wythnos i 90%.

Gosodwyd coleri Alta ar y fuches sy'n lloia yn y gwanwyn ar 12 Ebrill a dechreuwyd canfod gwartheg yn gofyn tarw erbyn y degfed diwrnod. Gweler isod rhai sgrinluniau o ddangosfyrddau’r coleri o 22 Mai, yn dangos bod tair buwch yn dangos arwyddion o ofyn tarw. Roedd hefyd yn dangos bod angen sylw ar un fuwch. Mae hyn wedi bod o gymorth sylweddol i Iwan wrth gasglu data a lleihau costau megis triniaethau ffrwythlondeb. Mae hefyd wedi ei alluogi i wella effeithlonrwydd adnoddau gan gynnwys llafur ac AI. Mae Iwan yn dal i ddefnyddio paent cynffon ochr yn ochr â’r coleri i ddarparu sicrwydd, yn enwedig yn ystod y tymhorau pori. Er enghraifft, gall gwartheg sy'n torri’n rhydd o’r ffensys trydan ddrysu gweithgarwch y fuwch ar y coleri. 

Rhoddodd Kate Burnby, yr arbenigwr sy'n gweithio gydag Iwan, gynllun paru at ei gilydd, gyda'r nod o gydamseru’r buchod a’r heffrod. Cyfrifwyd y dylid rhoi AI am y tro cyntaf ar 20 Mai. Mae cyfraddau cyflwyno uchel yn allweddol i sicrhau patrwm lloia tynn. Cafodd yr heffrod eu brechu gyda prostaglandin (PG) a rhoddwyd paent ar eu cynffonau.

 

 

Nododd Iwan gyfradd gyflwyno o 92% o fewn tair wythnos yn ystod y cyfnod cyntaf, ond dim ond diagnosis beichiogrwydd fydd yn dangos y canlyniadau a’r cyfraddau beichiogi gwirioneddol. Wrth symud ymlaen, bydd Iwan yn sganio'r holl wartheg a'r heffrod a byddwn yn aros am y canlyniadau.

Mae’r gwartheg sy’n lloia yn yr hydref  bellach wedi sychu, gyda rhai o’r gwartheg llai cynhyrchiol wedi’u sychu ynghynt oherwydd diffyg twf glaswellt ym mis Mehefin. Bydd y coleri Alta yn cael eu tynnu oddi ar y fuches sy’n lloia yn y gwanwyn ac yn cael eu hail-osod ar gyfer y gwartheg sy’n lloia yn yr hydref er mwyn lleihau costau llogi. Disgwylir i’r cyfnod lloia ddechrau ar 21 Awst a bydd Iwan yn cadw cofnodion manwl a fydd yn helpu Kate i greu cynllun ar gyfer y fuches sy’n lloia yn yr hydref a lleihau’r bloc lloia.

 

 

 

Cynllun paru:

 

Heffrod - criw o 30

  1. Milfeddyg i ymweld â’r fuches rhoi brechiad prostaglandin i’r heffrod ddydd Llun 11 Mai. 
  2. Dylid rhoi AI yn dilyn arwyddion gweledol o ofyn tarw 2-5 diwrnod ar ôl y brechiad.  Y disgwyliad yw y bydd y rhan fwyaf ohonynt yn cael AI ar y dydd Iau/dydd Gwener yr wythnos honno. Gallwch ddisgwyl i tua 20 gael AI ar ôl y brechiad hwn.
  3. Ar ddydd Llun 18 Mai rhoi brechiad prostaglandin i unrhyw heffrod nad ydynt wedi cael AI (yn debygol o fod rhwng 7-10 anifail) a rhoi AI pan fyddant yn dangos arwyddion o ofyn tarw dros 2-5 diwrnod.
  4. Cyflwyno’r teirw ar 23 Mai.

 

Gwartheg - gwiriadau gofyn tarw cyn paru a gwirio eu bod yn lân

  1. Ail-brofi unrhyw wartheg gyda prawf Metricheck positif dros yr wythnos nesaf a rhoi triniaeth Metricure os mae ar radd 2 neu uwch.
  2. Ar 12 Mai, canfod unrhyw fuchod nad oedd yn dangos arwyddion o ofyn tarw dros y 24 diwrnod blaenorol
  3. Milfeddyg i ymweld ar 13 Mai i archwilio’r gwartheg nad ydynt wedi cylchu. Os maen nhw’n lân a’u bod wedi lloia ers dros 30 diwrnod, dylid eu cydamseru gyda’r rhaglen CIDR er mwyn iddynt gael tarw yn ystod yr wythnos gyntaf o baru.

 

Dyddiad y bwriedir paru (PSM) 20 Mai - bydd 30+ o wartheg yn cael AI bob wythnos