17 Tachwedd 2021

 

Mae fferm laeth yn Sir Gâr yn gwella ansawdd silwair trwy gyflwyno mân newidiadau i reolaeth y clamp.

Mae cynyddu dwysedd y clamp silwair wedi bod yn ffocws ar fferm Nantglas, safle arddangos Cyswllt Ffermio yn Nhalog, lle mae’r cynhyrchwr llaeth Iwan Francis yn cadw dwy fuches sy’n lloia mewn bloc.

Yn ystod diwrnod agored a gynhaliwyd gan Cyswllt Ffermio ar y fferm yn ddiweddar, dywedodd yr arbenigwr silwair, Dave Davies, Silage Solutions, y dylai’r dwysedd targed fod yn 700kg o ddeunydd ffres fesul metr giwbig, sydd gyfwerth ag oddeutu 220kg o ddeunydd sych fesul metr ciwbig, gan ddibynnu ar ddeunydd sych (DM) y silwair.

Ar fferm Nantglas, maent wedi sicrhau dwysedd o 800kg, a hyd yn oed ar yr ymylon ac ar frig y clamp (sy’n cael eu hystyried yn adrannau bregus o’r clamp), roedd y dwysedd yn 694kg.

Defnyddiwyd peiriant cywasgu i gynyddu dwysedd DM ac i gyflymu’r broses gywasgu. Yn ôl Dr Davies, mae hyn wedi arwain at well dwysedd a sefydlogrwydd aerobig – ac felly at lai o golledion – ond mae astudiaethau hefyd wedi dangos arbedion o 10% o ran tanwydd o’i gymharu â defnyddio tractor.

“Po ddwysaf y mae’r silwair yn cael ei osod yn y storfa, y cyflymaf y mae’r ocsigen yn cael ei waredu,” meddai.

Defnyddiwyd ychwanegyn homo-eplesol gan fod data ymchwil wedi dangos ei fod o fudd i berfformiad anifeiliaid, yn wahanol i’r defnydd o gymysgedd o gynnyrch homo/hetero-eplesol, meddai Dr Davies.

“Un o’r problemau posibl wrth ddefnyddio ychwanegyn homo-eplesol yw dirywiad aerobig, ond ni welwyd unrhyw ddirywiad ar fferm Nantglas,’’ meddai.

Wrth ddewis ychwanegion, cynghorodd Dr Davies y ffermwr i ofyn a oes unrhyw dreialon annibynnol wedi cael eu cynnal i brofi’r buddion ar gyfer da byw.
Wrth borthi, mae’n argymell y dylid mesur dwysedd mewn gwahanol rannau o arwyneb y clamp i brofi am wendidau.

Byddai hyn, meddai, fwy na thebyg yn cyfateb â silwair o ansawdd is, a dirywiad cynhesu ac aerobig, sy’n lleihau ansawdd a chymeriant.

I brofi’r silwair, defnyddiwch diwb metal dur gwrthstaen oddeutu 5cm o ddiameter a 75cm o hyd gyda phen miniog.

Dylid sgriwio’r tiwb i wyneb y clamp silwair i dynnu sampl craidd; yna dylid pwyso’r sampl mewn cilogramau a dyfnder y twll mewn metrau.

Er mwyn canfod y dwysedd, rhannwch y pwysau gyda chanlyniad lluosi radiws y twll wedi’i sgwario gyda’i ddyfnder a gyda 3.14; y targed yw 700kg o ddeunydd ffres fesul metr ciwbig.

“Os mae’r dwysedd yn isel mewn rhannau o’r clamp, mae angen talu mwy o sylw wrth storio’r silwair yn y rhannau hynny yn y dyfodol,” meddai Dr Davies.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio