Cyflwyniad Prosiect Nantglas: A ydych chi’n herio eich cyfradd buchod cyflo chwe wythnos?

Am bob cynnydd o 4% yng nghyfradd y buchod cyflo chwe wythnos, mae’n bosibl lleihau cyfradd y buchod gwag 1%. Nid yn unig y mae gwella cyfradd y buchod cyflo chwe wythnos yn gwella proffidioldeb y fferm, mae hefyd yn gwella geneteg ac ansawdd y fuches oherwydd y bydd gennych fwy o ddewis o fuchod a heffrod cyfnewid o ansawdd. Yn un o safleoedd arddangos gwartheg llaeth Cyswllt Ffermio yn Sir Gaerfyrddin, rydyn ni’n canolbwyntio ar leihau’r blociau lloia o 12 wythnos i 9 wythnos. 10 wythnos oedd y targed i ddechrau – mae hwn yn cael ei herio ymhellach y tro hwn. Mae Iwan Francis, sy’n ffermio Nantglas yn Nhalog, ar hyn o bryd yn rhedeg dau floc lloia o 100 o fuchod ac yn gwneud yr AI ei hun; mae hyn yn 48 wythnos o loia a ffrwythloni yn ystod y flwyddyn. Mae hyn yn mynd â llawer o amser llafur Iwan, gan ei dynnu oddi wrth agweddau pwysig eraill ar y fferm. Fe wnaeth Kate Burnby, sy’n filfeddyg arbenigol o StockPlus Positive Farm Advice, ymuno â gweminar Cyswllt Ffermio yn ddiweddar i drafod camau pwysig i’w hystyried er mwyn cael y gyfradd buchod cyflo chwe wythnos orau.

1. Gosod y targedau:

Yn ôl Kate, dylai ffermwyr anelu at gyfradd buchod cyflo chwe wythnos o 78%. Dyma’r mesur arweiniol ar gyfer perfformiad atgenhedlu buches laeth. Dyma’r prif dargedau i’w hystyried:

  • Y gyfradd buchod cyflo chwe wythnos: 78%
  • Cyfraddau cymryd tarw mewn 21 diwrnod: 90% neu uwch
  • Cyfradd cyfloi: 60% neu uwch.
  • Cyfradd buchod gwag 12 wythnos: 10% neu lai

2. Rheoli heffrod

Mae ffermwyr yn aml yn anelu am gyfradd cyfnewid o 20% ac mae heffrod yn holl bwysig i gyrraedd targedau atgenhedlu. Mae Kate yn cynghori ffermwyr i ddadansoddi oed y fuches, ei strwythur a’r strategaeth ddifa. Os collwch nifer fawr o fuchod cyn iddynt gwblhau pedwar cyfnod llaetha, dylech ystyried pam nad yw buchod y cyfnod llaetha cyntaf, yr ail a’r trydydd yn ei gwneud hi. Gan fod buchod yn eu cyfnod llaetha cyntaf yn cymryd tua 10 diwrnod yn hirach i gyfloi eto o’u cymharu â buchod hŷn, mae heffrod angen mwy o amser i gael eu cefn atynt. Drwy sicrhau bod heffrod yn cael tarw ar y dechrau fel eu bod yn lloia ar ddechrau’r bloc lloia neu ychydig o flaen y brif fuches, mae’n rhoi’r dechrau gorau posibl i’r heffrod ac yn cynyddu eu siawns o bara’n hir yn y fuches. 

Mae Iwan yn anelu at fod 90% o’r heffrod wedi lloia erbyn wythnos 4 o’r cyfnod lloia. I wneud hyn, mae angen i heffrod 15 mis oed fod yn o leiaf 60% o’u pwysau corff aeddfed. Caiff rhaglen gydamseru ei defnyddio a bydd yn dechrau rhoi tarw i’r heffrod tua saith diwrnod cyn y prif fuches.

 

3. Sgorio Cyflwr y Corff (BCS)

Dangoswyd bod cysylltiad cryf rhwng sgôr cyflwr corff buwch adeg lloia a sgôr cyflwr y corff pan mae’n cymryd tarw, ac mae gan hynny gryn ddylanwad ar nifer y dyddiau tan eu cylch atgenhedlu  cyntaf. Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod 90% o’r buchod yn lloia yn y cyflwr corfforol gorau (2.75-3.25) ac nad ydynt yn colli mwy na 0.5 sgôr rhwng lloia a bridio. Mae buchod tenau a buchod sydd wedi colli pwysau’n gyflym yn cymryd mwy o amser i ddechrau’r cylch atgenhedlu, gan gynyddu nifer y buchod nad ydynt yn gofyn tarw yn y fuches ac ymestyn y blociau lloia. Bydd y sgorio yn digwydd ar ddiwedd y cyfnod llaetha ac os oes gan fuchod BCS isel (llai na 2.75) mae gennym ddewisiadau e.e. anelu i’w sychu’n fuan a/neu rhoi mwy o fwyd iddynt er mwyn cyrraedd y BCS targed. Mae buchod tew hefyd yn achosi problemau, yn dueddol o fod yn anffrwythlon, felly caiff y rhain eu rheoli hefyd. Anelwch i gael llai na 10% o’r buchod y tu allan i’r targedau BCS. Os ceir amrywiaeth mawr o BCS yn y fuches, fe’ch cynghorir i reoli’r fuches mewn gwahanol ffyrdd i sicrhau bod grwpiau’n cael eu bwydo’n briodol. 

Mae Graff 1 yn dangos y perfformiad lloia yn ystod gwanwyn 2020. Sylwer mai cyfran fawr o’r buchod wnaeth loia’n hwyr (wythnos 7+) a’r buchod gwag oedd buchod a oedd yn lloia’n hwyr, a gafodd clefydau/problemau lloia, neu a oedd yn rhy dew/rhy denau h.y. roeddent wedi’u rhoi yn y categori “risg”.

Graff 1. Y perfformiad lloia yn ystod gwanwyn 2020.

 

4. Adnabod buchod sy’n gofyn tarw – i godi’r cyfraddau ffrwythlondeb

Un o’r ffactorau pwysicaf i wella cyfradd y buchod sy’n cyfloi mewn chwe wythnos yw adnabod buchod sy’n gofyn tarw, ac mae hynny’n flaenoriaeth yn ystod y tymor cyfloi. Methu â gweld buchod yn gofyn tarw a chamgymryd bod buchod yn gofyn tarw yw dau brif achos perfformiad atgenhedlu gwael, ac mae hynny’n effeithio ar broffidioldeb mewn sawl ffordd. Gallai hyn fod oherwydd bylchau lloia hirach, cynhyrchiant llaeth is gydol oes a llai o loi, gwastraffu semen ac amser, a difa buchod normal gan fod yr arwyddion gofyn tarw yn cael eu methu a chyfraddau cenhedlu isel.

I gael cysondeb a gwelliannau, awgrymodd Kate ei bod yn well dewis un unigolyn i fod yn gyfrifol am chwilio am arwyddion gofyn tarw, gan ddilyn amserlen benodol a chyfathrebu’n effeithiol â’u cydweithwyr. Gan mai’n gynnar yn y bore ac yn hwyr gyda’r nos yw’r amser gorau i weld yr arwyddion, drwy wneud y dasg o chwilio am arwyddion gofyn tarw y peth cyntaf a’r peth olaf mewn diwrnod, byddwch yn manteisio i’r eithaf ar y cyfle i weld arwyddion gofyn tarw hwyr y nos a chynnar y bore. I gael y cyfraddau cyfloi gorau, dylai buchod gael tarw cyn pen 24 awr o’r amser pan welir gyntaf fod y fuwch yn barod i sefyll i darw.

Os ydych chi’n defnyddio technoleg canfod arwyddion gofyn tarw, mae’n holl bwysig eich bod yn deall eich buchod a’r cylch gofyn tarw i sicrhau cywirdeb. 

 

5. Teirw iach, ffrwythlon

Os ydych chi’n defnyddio teirw ar gyfer y buchod, mae’n holl bwysig eu bod mewn cyflwr da ac yn iach. Er enghraifft, os oes tarw yn cael gwres, gall gymryd dau fis i’r sberm adfer. Yn ogystal â theirw iach, mae hefyd yn bwysig sicrhau bod gennych ddigon o deirw ar gyfer y fuches gyfan a lleihau’r perygl o darw anffrwythlon. Gelwir hyn yn bŵer teirw. Mae’r pŵer teirw y mae arnoch ei angen yn dibynnu ar nifer y buchod sy’n cael eu troi at y tarw ac ar oed y teirw.

Mae teirw ysgubo hefyd yn ddylanwad pwysig ar y blociau lloia. Fe allech roi tarw i bob buwch sy’n gofyn tarw yn brydlon am 6 wythnos, fodd bynnag, unwaith aiff y tarw i mewn gyda’r rhai sy’n gofyn tarw’n hwyr, bydd tarw nad yw’n ffrwythlon iawn yn cael effaith sylweddol ar y gyfradd buchod gwag. Yn Nantglas, aeth y ddau gylch ffrwythloni (AI) cyntaf yn dda iawn, gan gyrraedd cyfradd buchod cyflo 6 wythnos o 71% (y targed oedd 78%). Fodd bynnag, ar ôl y chweched wythnos pan gyflwynwyd y tarw ysgubo, syrthiodd y perfformiad, gan arwain at gyfradd buchod gweigion o 14% ar ôl 12 wythnos, ac roedd hynny’n codi cwestiynau am ffrwythlondeb y tarw. Rhoddir sylw i hyn yn ystod y tymor nesaf.

Fe wnaeth Kate Burnby, sy’n arbenigwr mewn ffrwythlondeb buchesi llaeth, lunio cynllun paru ar gyfer Nantglas. Gweithiodd y rhaglen cydamseru ar gyfer yr heffrod yn eithriadol o dda gyda phob un o’r 29 heffer yn cyfloi ac mae pob un heblaw dwy i fod i loia yn ystod pedair wythnos gyntaf y cyfnod lloia’r gwanwyn nesaf. Mae hyn yn golygu bod Iwan yn awr ar y trywydd iawn i loia 100 o anifeiliaid yn y 42 diwrnod cyntaf y gwanwyn nesaf. 

 

6. Techneg AI

Mae gwneud AI eich hun yn aml yn ddewis poblogaidd ar ffermydd llaeth i leihau costau a dibyniaeth ar eraill. Mewn ffenestr 18 awr sydd ar gael i ffrwythloni buchod, mae’n hanfodol sicrhau bod y dechneg AI a’r semen yn cael eu trin yn gywir. Os ydych yn gwneud yr AI eich hun a’ch bod yn lloia mewn blociau, ni fyddwch ond yn rhoi AI i fuchod yn ystod y cyfnod ffrwythloni a gweddill y flwyddyn, fyddwch chi ddim yn cael dim ymarfer, ac fe allai hynny effeithio ar eich techneg AI. Ceir nifer o ffactorau sy’n gallu dylanwadu ar sut allwch gynyddu’r cyfraddau cyfloi i’r eithaf wrth roi AI, megis ystum y fuwch, dadmer y gwelltyn semenu, canfod ceg y groth ayb. Mae bob amser yn syniad gwneud cwrs gloywi bob cwpl o flynyddoedd i sicrhau bod eich techneg yn cyrraedd y safon a bod gennych y siawns gorau posibl o ffrwythloni’r fuwch. Mae Cyswllt Ffermio yn ariannu cyrsiau hyfforddiant Gwneud AI eich Hun a gallwch wneud cais am y cyllid hwn. Ewch i wefan Cyswllt Ffermio neu cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol i gael rhagor o wybodaeth. 

 

7. Cofnodi, dadansoddi a chynllunio

Drwy gadw a dadansoddi ychydig o gofnodion syml adeg lloia, gan gynnwys cyflwr corff a chofnodion iechyd/meddyginiaeth, gallwch adnabod ffactorau risg yn eich buches a rhoi cynlluniau ar waith i leihau nifer y buchod sy’n anffrwythlon neu nad ydynt yn gofyn tarw yn y tymor canlynol. Gallai’r rhain fod yn fuchod cloff, buchod sydd wedi cael anawsterau lloia yn y gorffennol, diffygion mwynau, problemau metabolig neu fastitis. Mae Kate yn argymell adolygu pethau fesul tymor – gan gymryd amser i weld beth sydd wedi mynd yn dda a beth gellid ei wella ar ôl pob tymor lloia/ffrwythloni.

 Ffigwr 2. Enghraifft o Gofnodion Lloia Nantglas ar gyfer gwanwyn 2020.