Dolygarn – diweddariad ar brosiect dewisiadau porthiant amgen - Hydref 2020-Chwefror 2021

Hydref 2020

Prif ddefnydd caeau’r treial oedd pesgi’r ŵyn olaf yn yr hydref/dechrau’r gaeaf, yn ogystal â chadw’r mamogiaid allan yn hirach cyn eu rhoi i mewn ar gyfer ŵyna. Gosodwyd ffens drydan ddechrau Hydref, yn barod i droi 200 o ŵyn tew i’r ddau gnwd. Bu’n rhaid ffensio’r Clampsaver hefyd er mwyn rhoi i’r rêp, y rhygwellt Eidalaidd a’r meillion gyfle i aildyfu dros yr wythnosau/misoedd nesaf (yn ddibynnol ar y tywydd). Ar hyn o bryd mae pwysau cyfartalog yr ŵyn yn 39kg. Caiff cyfran o’r ŵyn eu pwyso dros yr wythnosau nesaf (bob 2-3 wythnos) cyn eu hanfon i’r lladd-dy er mwyn gallu cyfrifo’r cynnydd pwysau byw dyddiol (DLWG) a’r cyfraddau tyfu ar gyfer y ddau gnwd (Brassica Express o’i gymharu â’r Clampsaver). Ar ôl anfon yr ŵyn i’r lladd-dy, caiff y ddalen bwysau o’r ddau gnwd eu cymharu. Bydd y Clampsaver ar gael ar gyfer mamogiaid ag ŵyn wrth eu traed i bori pan gânt eu troi allan yn y gwanwyn, gyda’r posibilrwydd o gael cnwd o silwair oddi arno yr haf nesaf hefyd.

 

Tachwedd 2020

Bu’r ŵyn bellach yn pori ar y ddau gnwd ers rhai wythnosau. Gan fod y ddau gnwd ar lethr, yn ddelfrydol byddai’r cnydau’n cael eu pori’n stribedi gan ddechrau o’r top i’r gwaelod er mwyn osgoi sefyllfa lle bo pridd yn y golwg yng ngwaelod y cae a rhag bo maeth a phridd yn golchi i ffwrdd; fodd bynnag, gan fod James angen mynd drwy’r cae hwn i gyrraedd cae arall, penderfynwyd pori stribyn yn y gwaelod i ddechrau i ganiatáu mynediad i’r cae arall, yna caiff y cae ei bori o’r top i lawr. Mae Llun 1. yn dangos y defnydd ar ôl pori’r stribyn cyntaf. Mae’n bwysig peidio â phori’r cnydau i lawr i’r pridd oherwydd ffactorau amgylcheddol.
 

Llun 1. Y defnydd ar ôl pori’r stribyn cyntaf.

Mae pob oen, ar gyfartaledd, wedi ennill 5kg fel pwysau grŵp dros y 2 wythnos diwethaf, ac fel grŵp mae ganddynt bwysau cyfartalog o 44kg. Mae graddau ac ansawdd yr ŵyn ar ôl eu lladd yn E, U ac R yn bennaf.

 

Rhagfyr 2020

Ymwelodd Charlie Morgan â Dolygarn ym mis Rhagfyr, 2020 i werthuso caeau’r treial a hefyd i gasglu samplau tyweirch i’w defnyddio yn y efelychwyr glaw. Mae cyflwr y ddaear yn y ddau gae ar y cyfan yn rhesymol, hyd yn oed yn dilyn y cyfnod o dywydd gwlyb a gawsom yn ddiweddar. Mae cae’r Clampsaver yn wlypach nag y byddem wedi gobeithio oherwydd bod ychydig o ffynhonnau’n codi ac mae’n arbennig o wlyb o amgylch y ceunant.  Nid yw’r cae Brassica Express mor wlyb, fodd bynnag, nid yw cyflwr y pridd cystal.

Lluniau 2. a 3. Cae’r Clampsaver – Rhagfyr 2020

Llun 4. Cae Brassica Express – Rhagfyr 2020

 

Ar ôl ymweld â Dolygarn, fe wnaeth Charlie Morgan brofi’r sampl tyweirch Clampsaver a Brassica Express yn yr efelychydd glaw, fel y gwelir yn Llun 5.

Llun 5. Efelychydd glaw

Mae canlyniadau’r efelychydd glaw i’w gweld yn y fideos canlynol;

Efelychydd glaw - fideo 1

Efelychydd glaw - fideo 2

Efelychydd glaw - fideo 3


Ar 23 Rhagfyr, tynnwyd yr holl ŵyn oddi ar y cnydau, gyda’r rhan fwyaf yn cael eu gwerthu fel ŵyn wedi’u pesgi. Rhoddwyd 128 o ŵyn benyw ar y 4 erw o faip Brassica Express mewn darnau 2 erw. Rhoddwyd 122 o ŵyn benyw ar y Clampsaver mewn darnau 2 erw. Roedd y gorchudd glaswellt ar y Clampsaver yn mesur 2,112kgDM/ha. Mae maint y ddau gnwd yn awr yn debyg, ac yn mesur oddeutu 6.5tDM/ha, gan gofio y bydd stoc yn gallu pori’r Clampsaver eto yn y gwanwyn oherwydd ail-dwf y glaswellt a’r meillion yn y cymysgedd.
 

Ionawr 2021

Cyfrifwyd y gost o sefydlu’r ddau gnwd. Roedd costau sefydlu’r ddau gnwd yn union yr un fath, heblaw am gostau’r hadau. Chwistrellwyd yr ardal, chwalwyd tail moch drosti a chafodd ei disgio a’i llyfnu ag oged pŵer unwaith cyn hau a rholio. Cost y Clampsaver oedd @£44/erw, o’i gymharu â £9/erw am y Brassica Express sy’n cyfateb i £528 o’i gymharu â £97.20, sy’n wahaniaeth o £33/erw. Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio yma, gydag ŵyn wedi cael eu pesgi ar y cnwd, yn ogystal â’r glaswellt ychwanegol a geir yn y gwanwyn adeg wyna a’r siawns o gael un toriad silwair cyn ail-hadu, gellir yn hawdd gyfiawnhau’r gost. Byddai cost dwysfwyd ar gyfer y 120 o ŵyn sy’n weddill yn sylweddol ynddi’i hun.  Yn bwysig, bydd llai o bridd yn erydu os oes glaswellt yn gorchuddio’r pridd yn hytrach na daear foel ar adegau gwlyb.

 

Chwefror 2021

Cafodd ‘atalwyr dŵr ffo’ eu gwneud a’u gosod yn y ddau gae i’n helpu i weld a gwerthuso unrhyw symudiad pridd sylweddol yn nau gae’r treial (gweler lluniau 6. 7. a 8.).

Llun 6. Atalwyr dŵr ffo yn y cae Clampsaver

 

Lluniau 6. a 7. Ataliwr dŵr ffo ar y cae Brassica Express