Ffeithiau Fferm Dolygarn

Mae safle Arddangos Dolygarn yn fferm fynydd 182 hectar (ha) sy’n cael ei ffermio gan James Powell a’i dad a’i ewythr, Matthew a Tudor.

Bu tad-cu James yn ffermio Dolygarn fel tenant ac fe brynodd y teulu’r fferm yn nes ymlaen.

Mae’r fferm tir glas yn codi o 1,000 i 1,500 troedfedd ac mae gandi bridd lôm silt uwchben clai.

Mae’r busnes yn cynhyrchu cig oen o ddiadell o 1,000, sef mamogiaid Aberfield yn bennaf, a chig eidion o fuches o 30 o fuchod sugno.

Mae’r ddiadell hefyd yn cynnwys rhai mamogiaid Cymreig sy’n cael eu prynu i’w troi at hwrdd Aberfield.

Mae defaid Aberfield pur yn cael eu paru â hyrddod Aberblack i ychwanegu hyd a rhagor o gyhyr at gryfder a chyhyrau’r Aberfield.

Mae’r hyrddod yn cael eu gosod i mewn gyda’r mamogiaid ar 15 Tachwedd ac mae’r ŵyna’n dechrau ar 10 Ebrill am gyfnod o bedair wythnos.

Mae’r ddiadell yn dod o dan do am dri mis o 7 Ionawr ymlaen, er mwyn i’r caeau gael gorffwys ac mae’n cael ei throi allan eto bythefnos cyn ŵyna. Mae tri chant o famogiaid yn treulio’r gaeaf i ffwrdd ar dac.

Mae’r ŵyn yn cael eu gwerthu i Tesco ar gontract cost cynhyrchu.

Saler ac Aberdeen Angus yw’r bridiau yn y fuches sugno.

Mae 10ha o goed wedi’u plannu drwy raglen Creu Coetir Glastir.

 

Arallgyfeirio

Mae uned 'gwely a brecwast' i foch wrthi’n cael ei sefydlu ar hyn o bryd. 

Mae bwthyn yn cael ei osod i’w rentu ar gyfer gwyliau. 

Mae bwyler biomas yn darparu gwres ar gyfer y tri eiddo ar y fferm.