Diweddariad prosiect ar fferm Dolygarn - Gorffennaf 2020

 

Mawrth 2020

Mae Charlie Morgan, GrassMaster Ltd yn ymgynghorydd glaswelltir annibynnol, ac mae wedi bod yn arwain y gwaith ar y prosiect hwn ar fferm Dolygarn. Bu’n ymweld â fferm Dolygarn ym mis Mawrth i nodi a chadarnhau pa gaeau fyddai’n cael eu defnyddio ar gyfer y prosiect. Mae dau gae nesaf at ei gilydd wedi cael eu nodi. Bydd un cae 9 erw yn cael ei ail-hadu gyda chymysgedd ‘Brassica Express’, a’r cae 14 erw arall yn cael ei ail-hadu gyda chymysgedd ‘Clampsaver’.

 

Ebrill 2020

Mae'r fideo hwn yn dangos James Powell (sy’n ffermio yn fferm Dolygarn) yn paratoi i chwistrellu un o'r caeau arbrofi cyn ei drin a’i hau (24 Ebrill, 2020).

 

Mai 2020

Oherwydd y tywydd sych parhaus a gafwyd ym mis Ebrill a Mai 2020, cynghorodd Charlie Morgan na ddylai James hau’r caeau arbrofol nes i lefelau lleithder y pridd gynyddu. Roedd James eisoes wedi chwistrellu glyffosad ar y caeau ac wedi defnyddio’r disg i hollti’r pridd; ond mae’n aros nes y bydd rhagolygon am law cyn gallu llyfnu a hau. Tymheredd cyfartalog y pridd ar 28 Mai oedd 13°C.

 

Mehefin 2020

Ar ôl gweld rhywfaint o law o'r diwedd, a’r rhagolygon am fwy o law dros y dyddiau canlynol, heuwyd y ddau gae ar 9 Mehefin. Cafodd un cae (9 erw) ei ddrilio'n uniongyrchol gyda chymysgedd 'Brassica Express' a chafodd cae cyfagos (14 erw) ei ddrilio gyda chymysgedd 'Clampsaver' (cymysgedd Rhygwellt Eidalaidd/Meillion a Chêl). Dyma ddolen i fideo o James yn rholio’r ddau gae ar 10 Mehefin isod:

 

Mae'r fideo isod yn dangos y cae a heuwyd gyda chymysgedd Brassica Express wythnos ar ôl drilio.

 

Gorffennaf 2020

Gyda chaniatâd Llywodraeth Cymru, a gan gadw pellter cymdeithasol, aeth Charlie Morgan i ymweld â fferm Dolygarn yng nghanol mis Gorffennaf i weld y ddau gae a ail-heuwyd i asesu sefydliad y cnydau (Brassica Express a Clampsaver). Defnyddiwyd efelychydd glaw hefyd am y tro cyntaf ar y ddau gnwd. Defnyddir efelychydd glaw mewn gwyddor pridd a hydroleg i astudio sut mae'r pridd yn ymateb i lawiad. Mae’n anodd defnyddio glawiad naturiol wrth arbrofi gan nad oes modd ail-greu amseriad a dwyster glawiad mewn modd dibynadwy. Trwy ddefnyddio glawiad ffug, mae'n cyflymu'r astudiaeth o  erydiad, dŵr ffo a thrwytholchi.
Mae'r efelychwyr glaw symlaf wedi cael eu hadeiladu i ddangos beth sy'n digwydd i bridd yn ystod cyfnod o lawiad. Mae'r efelychwyr hyn yn ddefnyddiol ar gyfer egluro sut y gall gwrtaith redeg ar y wyneb yn hytrach na chyflenwi maetholion i gnydau, fel y dangosir yn y clipiau fideo isod.

Mae'r clipiau fideo isod yn dangos sut mae'r caeau yn edrych 35 diwrnod ar ôl drilio/hau, gyda Charlie Morgan yn cymryd sampl o dywarchen o bob cae i brofi yn yr efelychydd glaw.

Mae'r fideo hwn yn dangos sut mae'r cae Brassica Express yn edrych 35 diwrnod ar ôl drilio/hau.

 

Mae'r fideo hwn yn dangos Charlie Morgan yn cymryd sampl o dywarchen o'r cae Brassica Express i brofi yn yr efelychydd glaw.

 

Mae'r fideo hwn yn dangos sut mae'r cae Clampsaver yn edrych 35 diwrnod ar ôl drilio/hau.

 

Mae'r fideo hwn yn dangos Charlie Morgan yn cymryd sampl o dywarchen o’r cae Clampsaver i brofi yn yr efelychydd glaw.

 

Mae'r fideo hwn yn dangos yr efelychydd glaw yn cael ei brofi, gyda sampl cynrychioladol o’r ddau gae (Brassica Express a Clampsaver).

 

Mae'r fideo hwn yn dangos yr efelychydd glaw yn cael ei brofi am y trydydd tro, gyda samplau cynrychioladol o’r ddau gae (Brassica Express a Clampsaver).

 

Mae'r fideo hwn yn dangos strwythur pridd y ddwy dywarchen (Brassica Express vs Clampsaver).