Diweddariad Prosiect: Canlyniadau asesiad pridd ar fferm Dolygarn - Wye and Usk Foundation

Mae’r map isod yn dangos ‘map perygl erydiad’ ar gyfer fferm Dolygarn (sy’n cael ei ddisgrifio fel ‘map cysylltedd dŵr’ ar brydiau), lle mae’r perygl o ddŵr ffo yn cael ei gyfrifo ar sail llethr, glawiad a chysylltedd â dŵr, ac mae’n seiliedig ar sefyllfa risg uchel e.e. cnydau bresych sy’n cael eu pori yn y gaeaf. Mae’r ardaloedd coch yn dangos yr ardaloedd sydd â’r risg uchaf, lle byddai’n bosibl i chi weld dŵr ffo yn llifo ar y wyneb, ac mae’r ardaloedd glas tywyll yn dangos yr ardaloedd gyda’r risg isaf, h.y. byddai’n ddoeth dewis caeau risg isel ar gyfer cnydau bresych (lle bo’n bosibl). Bydd rheoli’r fferm mewn modd synhwyrol o fewn yr ardaloedd glas a melyn ar y map ynghyd ag ymdreiddiad da yn lleihau’r llif yn yr ardaloedd coch. Y ffactor amlwg sydd wedi’i hepgor o’r asesiad risg gan ddefnyddio’r model SCIMAP yw’r math o bridd, sy’n effeithio’n sylweddol ar risg dŵr ffo. Mae’n bwysig i ffermwyr gymryd pob cam posibl i leihau’r risg o golli pridd a maetholion wrth blannu a phori cnydau bresych.

Mae’r ddau gae a ddefnyddiwyd ar gyfer y prosiect hwn ar y safle arddangos wedi’u lleoli ar lethr ac mae’r llinellau melyn a glas golau’n dangos risg dŵr ffo. Ceir ffos yn y cae Clampsaver lle mae dŵr yn rhedeg yn ystod cyfnodau gwlyb/y gaeaf.

 

Brassica Express

Mae’r cae yma ar lethr hir ond mae’r pridd yn draenio’n gymharol rwydd. Rydych chi’n debygol o weld dŵr ffo yn ystod cyfnodau o law sylweddol, yn enwedig pan nad oes gorchudd ar y tir a bod y wyneb wedi cael ei botsio gan dda byw sy’n pori. Mae Brassica Express yn gymysgedd maip felly unwaith y bydd y dail wedi cael eu pori, mae’r pridd yn agored i gael ei botsio a’i gywasgu, sy’n lleihau cyfraddau ymdreiddio a chynydu’r perygl o ddŵr ffo.

 

Clampsaver 

Mae’r cae yma ar lethr byrrach na’r cae arall felly bydd llai o ddŵr ffo, ond mae’n gae gwlypach gyda ffynnon uwch ei ben a ffos ar hyd y llinell felen sy’n wlyb yn y gaeaf. Mae’r gymysgedd Clampsaver yn cynnwys Rhygwellt Eidalaidd a meillion Berseem gyda rêp, felly hyd yn oed pan fydd y rêp wedi cael ei bori, bydd gwreiddiau ac egin yn y pridd sy’n helpu i’w ddiogelu rhag potsio a chywasgu ac yn lleihau’r perygl o ddŵr ffo.


Cyngor doeth gan Wye and Usk Foundation i leihau dŵr ffo wrth bori cnydau porthiant dros y gaeaf

Pan fyddwn ni’n gweithio gyda ffermwyr i leihau’r perygl o ddŵr ffo, rydym ni’n argymell defnyddio cnydau amgen megis rêp/Rhygwellt Eidalaidd yn hytrach na maip yn unig gan ei fod yn lleihau erydiad a’r perygl o ddŵr ffo, sy’n helpu i ddiogelu ansawdd dŵr. Mae’n fuddiol hefyd ar gyfer rheoli llifogydd yn naturiol, gan fod diogelu strwythur y pridd, a helpu dŵr i ymdreiddio yn hytrach na rhedeg oddi ar y wyneb, yn arafu llif y dŵr i’r afonydd ac yn lleihau’r perygl o lifogydd. Dyma rai awgrymiadau ar gyfer gwarchod y pridd o dan gnydau bresych.

 

Wrth ddewis caeau: 

  • Osgowch gaeau sy’n cael eu nodi’n risg uchel ar y SCIMAP, caeau sydd ar lethr serth neu gaeau’n agos i gyrsiau dŵr.
  • Osgowch briddoedd lle mae dŵr yn ymdreiddio’n araf neu gaeau sy’n draenio’n wael.

Wrth blannu:

  • Heuwch laswellt o dan y cnwd - mae systemau gwreiddiau eang a chynnydd mewn gorchudd tir yn gwarchod y pridd rhag cywasgiad ac erydiad. Gallai rêp gyda Rhygwellt Eidalaidd fod yn ddewis da.
  • Defnyddiwch ddril uniongyrchol i hau lle bo’n bosibl - mae trin y tir yn ei adael yn agored i gywasgiad ac erydiad.
  • Gadewch stribedi glaswellt llydan ger llwybrau, ffosydd neu nentydd ar waelod llethrau neu hyd yn oed ar draws y cae i ryng-gipio dŵr ffo.

Wrth bori: 

  • Os ydych chi’n pori ar ffurf stribedi, porwch i lawr y llethr fel bod gweddill y cnwd yn rhyng-gipio unrhyw ddŵr ffo.
  • Osgowch gerbydau’n teithio drwy’r cae yn ystod y gaeaf trwy osod byrnau allan yn yr haf.
  • Darparwch ardal wrth gefn a defnyddiwch hwn ar gyfer porthiant ategol.
  • Osgowch ddefnyddio pyrth ar waelod caeau ar lethr gan eu bod yn gallu darparu llwybr ar gyfer dŵr ffo.

Canlyniadau asesiadau pridd ar fferm Dolygarn

Mae Bridie Whittle o’r Wye and Usk Foundation yn gweithio gyda ni ar y prosiect hwn, a bu’n ymweld â fferm Dolygarn ar ddau achlysur yn ystod hydref/gaeaf 2020/21 i gynnal asesiadau pridd sylfaenol; sgorio’r strwythur; profi ymdreiddiad a chyfrif pryfed genwair. Y disgwyliad oedd y byddai mwy o bryfed genwair, gwell strwythur ac ymdreiddiad cynt yn y cae Clampsaver oherwydd y gorchudd amrywiol a’r systemau gwreiddiau cymhleth a oedd yn dal i fod ar y pridd ac oddi tano, hyd yn oed ar ôl pori. Er nad oedd y dulliau profi’n gadarn yn wyddonol, roeddent yn cynnig pynciau trafod defnyddiol ac agweddau eraill ar y prosiect hwn. Mae’r canlyniadau, ynghyd â sylwadau Bridie ar gael yn Nhabl 1.

 

Strwythur

Pryfed Genwair

Ymdreiddiad mm/awr

Brassica Express

Clampsaver

Brassica Express

Clampsaver

Brassica Express

Clampsaver

Medi 2020

1

1

12

24

9,144

1,143

Rhagfyr 2022

2

2

18

40

14

4

Tabl 1. Canlyniadau asesiadau pridd ar fferm Dolygarn

 

Strwythur - cafodd y strwythur ei asesu gan ddefnyddio’r sgôr VESS (Gwerthusiad Gweledol o Strwythur y Pridd) (1 = strwythur da iawn - 5 = strwythur gwael).

“Cafodd y cnydau eu sefydlu gan ddefnyddio disgiau, ac fe wnes i gloddio i ddyfnder rhaw. Felly pan wnes i ymweld â’r fferm ym mis Medi, roeddwn i’n edrych ar bridd a oedd wedi cael ei aflonyddu gyda pheiriannau heb unrhyw dystiolaeth o gywasgiad ac roedd wedi datblygu strwythur naturiol. Pan es i’n ôl ym mis Rhagfyr roedd yn dynnach, fel y disgwylir ar ôl pori. Roedd yr arferion pori yn y ddau gae’n cael eu rheoli’n dda gyda’r ŵyn yn symud trwy’r lleiniau ac nid oedd unrhyw gyfnodau o law sylweddol wedi bod. Rwy’n gobeithio edrych eto yn ystod yr wythnosau sydd i ddod - yn hwyrach yn y tymor ac ar ôl y cyfnod gwlyb iawn yma’n ddiweddar i weld a oes unrhyw wahaniaeth”.

 

Pryfed genwair

“Roedd hi’n braf gweld bod dwywaith cymaint o bryfed genwair yn y cae Clampsaver nag oedd yn y cae Brassica Express yn ystod y ddau asesiad. Rwy’n ymwybodol bod y math o bridd yn effeithio ar boblogaethau, ac mae’n bosibl bod y priddoedd sychach yn y cae Brassica Express wedi effeithio ar nifer y pryfed genwair, ond byddem yn disgwyl gweld mwy o bryfed genwair o dan y cnwd Clampsaver gan fod cymaint mwy o ddeunydd organig i’w bwydo”.

 

Ymdreiddiad

“Cafodd ymdreiddiad ei fesur gan ddefnyddio’r dull cylch unigol (peipen ddraenio), gan fesur faint o amser sydd angen i 1” o ddŵr i ddraenio i’r pridd. Nid yw’r dull hwn yn berffaith, ond dyma’r dull gorau a oedd ar gael ar y pryd. Yn ystod yr asesiad cyntaf ym mis Medi, fe wnes i 10 prawf ym mhob cae, ond yn ystod yr ail ymweliad ym mis Rhagfyr, dim ond 5 prawf wnes i gan ei fod yn cymryd cymaint o amser i ddraenio. Cafwyd gwahaniaeth sylweddol yn y canlyniadau rhwng y ddau asesiad, ond nid yn y cyfeiriad yr oeddwn i wedi’i ddisgwyl. Rwy’n credu bod hyn yn faes diddorol iawn ar gyfer astudiaethau pellach, yn enwedig gan fod y dull cylch unigol o fesur ymdreiddiad yn cael ei hyrwyddo’n eang i ffermwyr fel ffordd o asesu iechyd eu priddoedd eu hunain.”