25 Hydref 2021

 

Mae cynhyrchwr wŷn o Gymru wedi mwy na dyblu ei incwm drwy dyfu cnwd pori gaeaf yn cynnwys cymysgedd o rêp, rhygwellt a meillion Berseem yn hytrach na chnydau bresych, ac yn ogystal â hyn, ni chafodd y priddoedd eu gadael yn noeth dros y gaeaf.

Mae James Powell wedi treialu 4.7 hectar (ha) o Clampsaver yn hytrach na 4.7ha o Brassica Express fel rhan o’i waith prosiect fel ffermwr arddangos Cyswllt Ffermio.

Yn hanesyddol, roedd Mr Powell wedi tyfu cnydau bresych ar ei fferm fynyddig Dolygarn, Llanbadarn Fynydd, ond roedd yn poeni am erydiad pridd pan oedd y caeau yn noeth yn y gaeaf.

Mae’r fferm ar dir sy’n codi o 1,000-1,480 troedfedd ac uwchlaw afon Ithon.

O dan arweiniad yr arbenigwr glaswelltir a phorthiant annibynnol Charlie Morgan, penderfynodd Mr Powell dreialu dewis arall.

Dangosodd y treial hwnnw, a gynhaliwyd rhwng gwanwyn 2020 a haf 2021, fod tyfu cnwd Clampsaver wedi galluogi Mr Powell i ddyblu ei incwm o werthiant yr wŷn - cynhyrchodd 7,843kg o wŷn ar 4.7ha, a werthodd am £16,845, o’i gymharu â 3,500kg o wŷn a oedd yn werth £7,500 o’r cae cnwd bresych.

Ac roedd y buddion o’r cae Clampsaver yn fwy na gwerthiant yr wŷn yn unig gan fod Mr Powell wedi llwyddo i bori 200 o wŷn benyw ar yr aildyfiant - ac roedd gwerth hynny ar ei ben ei hun wedi mwy na thalu am y gwahaniaeth o £82/ha (£33/acer) rhwng cost hadau Clampsaver a Brassica Express; casglwyd 88 o fyrnau o silwair hefyd.

Yna, aeth ati i ail-hau’r cae ym mis Mehefin ar adeg o’r flwyddyn pan mae llai o berygl o ddŵr ffo.

Mewn cymhariaeth, cafodd y cae lle’r oedd y cnwd bresych yn tyfu ei adael yn noeth rhwng mis Ionawr a mis Mai pan fyddai’n cael ei ail-hau.

Yn ystod digwyddiad byw o fferm Dolygarn, safle arddangos Cyswllt Ffermio, dywedodd Mr Morgan fod y gwahaniaeth rhwng perfformiad economaidd y ddau gae wedi bod yn “syfrdanol”.

Mae Mr Powell bellach yn tyfu 8ha o Clampsaver.

“Gallwn ei bori ar ddiwedd y flwyddyn, rhoi ŵyn arno yn y gwanwyn ac yna cael gwerth y silwair ohono,’’ dywedodd.

“Dydy’r pridd byth yn noeth ym myd natur; felly rydyn ni’n gweithio gyda natur, gan roi mwy o wreiddiau yn y tir a mwy o fioamrywiaeth.’’

Mae gan ffermwyr resymau da dros ymestyn y tymor pori, gan gynnwys lleihau costau porthiant dros y gaeaf, ond mae’n hanfodol dewis system sy’n addas i amodau’r fferm.

Mae tyfu cnydau fel cêl, maip a betys porthiant ar dir uwch yn cael effaith amgylcheddol, dywedodd Mr Morgan wrth y ffermwyr.

“Wrth i chi deithio’n uwch i fyny’r bryn, mae perygl o ddŵr ffo sy’n effeithio ar ansawdd y dŵr, felly mae hyn yn broblem.

“Os byddwch chi’n tyfu maip sofl ac yn rhoi’r gorau i bori ym mis Ionawr, bydd y tir yn noeth tan fis Mai yn yr ucheldiroedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, nid yn unig bydd y tir yn colli pridd, byddwch chi ar eich colled hefyd gan na fyddwch chi’n gwneud unrhyw arian ohono.’’

Ond, fel yr ychwanegodd Mr Morgan, mae’n bwysig tyfu cnwd toriad mewn system glaswelltir hefyd.

“Rydyn ni’n symud i ffwrdd o’r aradr ar dir uwch at system ddrilio uniongyrchol ond mae hynny’n dal i olygu glaswellt i laswellt ac nid yw’n datrys problemau plâu fel cynrhon chwilod a chynrhon lledr. 

“Mae angen i ffermwyr dyfu cnydau gaeaf o hyd ond mae angen iddyn nhw wneud hynny mewn ffordd fwy cynaliadwy sy’n atal erydiad pridd.’’

Mae Bridie Whittle, ymgynghorydd dalgylch Sefydliad afon Gwy ac afon Wysg, wedi bod yn gweithio gyda Cyswllt Ffermio ar y prosiect yn fferm Dolygarn.

Dywedodd fod cyflwyno newidiadau bach ar ffermydd yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i afonydd a’r amgylchedd, gan barhau i wneud elw i fusnes y fferm hefyd, fel mae’r prosiect hwn wedi dangos.

“Mae’r buddion economaidd ac o safbwynt cynhyrchiant yn arbennig iawn, ond mae’r cymysgedd o rêp a glaswellt o fudd i’r amgylchedd hefyd,’’ dywedodd Ms Whittle.

Roedd asesiad o’r pridd ym mis Rhagfyr 2020 wedi dangos bod arwyneb y pridd yn y cae Clampsaver wedi’i amddiffyn a bod dwysedd y gwreiddiau yn gwarchod yn erbyn cywasgiad ond roedd y pridd yn y cae cnwd bresych wedi’i adael yn noeth ar ôl pori, roedd yn agored i erydiad ac roedd llai o ddwyster gwreiddiau.

“Rydw i’n hyderus iawn fod y prosiect hwn wedi arwain at rai canlyniadau da iawn i’r amgylchedd,’’ dywedodd Ms Whittle.

Roedd nifer y pryfaid genwair yn y pridd yn y cae Clampsaver 50% yn fwy nag yn y cae cnwd bresych.

Un rheol aur i leihau risgiau mewn caeau lle bydd cnydau bresych yn cael eu pori yn y gaeaf yw cadw’r gwreiddiau a’r blagur yn y ddaear i amddiffyn y pridd, yn ôl Ms Whittle.

Dywedodd fod nifer o gamau y gallai ffermwyr eu cymryd i leihau’r risgiau ymhellach.

  • Osgoi caeau lle mae’r risg yn uchel - priddoedd trwm, llethrau serth a chaeau sy’n agos i gyrsiau dŵr
  • Gadael stribedi llydan o laswellt heb eu trin ger nentydd, ffosydd a llwybrau i ryng-gipio dŵr ffo
  • Trin y tir cyn lleied â phosibl i amddiffyn strwythur y pridd - mae trin y tir ag aradr ac og fecanyddol yn ei adael yn agored i gywasgiad ac erydiad
  • Pori i lawr y llethr os ydych chi’n pori ar ffurf stribedi neu badogau 
  • Gadael talar o laswellt ar gyfer porthiant atodol ac ardal wrth gefn a gadewch y byrnau allan yn yr haf er mwyn atal cerbydau fferm rhag eu cywasgu

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint