29 Tachwedd 2024

Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu hannog i weithio’n agos gyda’u milfeddygon i brofi am glefydau heintus ac i fuddsoddi mewn archwiliadau post mortem ar anifeiliaid sy’n marw heb unrhyw achos amlwg.

Mae Maedi visna (MV), clefyd y ffin a chlefydau rhewfryn eraill yn cael eu hachosi gan firysau neu facteria ac yn cael eu lledaenu o ddafad i ddafad neu o’r famog i’r oen.

Mae’n debygol bod un neu fwy o’r clefydau hyn yn bresennol mewn canran uchel o ddiadelloedd yng Nghymru, ond yn aml iawn, nid yw ffermwyr yn ymwybodol o hynny.

Mae hyn oherwydd eu bod yn anodd eu canfod a’u rheoli gan fod symptomau cynnar fel arfer yn amhendant ac yn arwain at ddirywiad mewn cyflwr y corff.

Golyga hynny fod y clefydau’n lledaenu heb i neb sylweddoli, gan arwain at heintiadau is-glinigol parhaus ac felly maent yn lleihau effeithlonrwydd cynhyrchiant, yn bennaf o ganlyniad i’w heffaith ar sgôr cyflwr corff, meddai’r milfeddyg Phillipa Page yn ystod gweminar a gynhaliwyd gan Cyswllt Ffermio yn ddiweddar.

“Nid yw’r rhain yn glefydau hawdd eu trin gan fod mwy nag un yn bresennol yn aml, ac maent yn dda iawn am guddio rhag y system imiwnedd ar adegau penodol, sy’n eu gwneud yn anodd eu canfod.

“Pan fyddwn ni’n darganfod clefydau rhewfryn, anaml iawn y gellir datrys y broblem o fewn tymor neu flwyddyn - mae’n bosibl eu trin, ond mae’n cymryd amser.”

Gall archwiliadau post mortem strategol gynnig cliwiau pwysig.

“Peidiwch â gwastraffu cyfle i gynnal archwiliad post mortem ar famog sydd wedi marw. Mae’n werth gwneud gwaith ymchwil, gan fod dyfalu’n costio mwy i chi yn y pen draw,” meddai Ms Page, o Flock Health.

Mae Ms Page wedi hwyluso nifer o grwpiau trafod defaid ar ran Cyswllt Ffermio dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r grwpiau hyn wedi bod yn edrych ar wahanol agweddau hanfodol ar iechyd y ddiadell, gan gynnwys sicrhau’r maeth cywir, atal a thrin llyngyr yr iau, rheoli mastitis, a strategaethau ar gyfer mynd i’r afael â chloffni mewn defaid.

“Nid wyf yn dweud ein bod yn dod o hyd i’r ateb perffaith gyda phob archwiliad post mortem, ond bydd yn dechrau adeiladu darlun o’ch diadell.”

Mae diadelloedd sydd wedi ymdrin â’r clefydau hyn yn gweld cynnydd mewn meysydd eraill megis ansawdd colostrwm ac egni ŵyn, felly mae’n werth eu harchwilio, ychwanegodd.

“Ac o safbwynt effeithlonrwydd, mae mamogiaid effeithlon yn dda i’r amgylchedd, ac mae hynny’n gorfod bod yn newyddion da.”

Dylai unrhyw ddiadell gyda chyfradd gyfnewid dros 20% gwestiynu a allai clefydau rhewfryn fod yn gyfrifol.

Mae sgôr cyflwr corff yn ffordd dda o weld a ydynt yn bresennol, felly mae monitro’n allweddol - ni ddylai sgôr cyflwr corff unrhyw famog fod yn llai nag 1.5, meddai Ms Page.

Ar gyfer bridiau llawr gwlad, yr isafswm o ran sgôr cyflwr corff yw 2.5, 2 ar gyfer defaid ucheldir a 1.75 ar gyfer defaid mynydd.

Er hynny, mae defaid yn gallu colli pwysau am sawl rheswm, o golli dannedd, diffyg maeth a diffyg elfennau hybrin i haint parasitiaid a chloffni. Gall meinder hefyd awgrymu presenoldeb clefydau rhewfryn mewn diadell.

“Un o’r arwyddion mwyaf cynnil yw nad yw mamogiaid yn magu pwysau. Ystyriwch faint o ddefaid yn eich diadell sy’n deneuach nag y dylent fod,” cynghorodd Ms Page.

“Mae angen i ni wybod pa ganran sy’n deneuach nag y dylent fod ac ym mha grŵp oedran mae’r rhain, felly cadwch gofnod gan fod hynny’n bwysig iawn er mwyn gallu mesur a yw’r sefyllfa’n gwaethygu neu’n gwella.”

Gall cadarnhau pryd yn ystod y flwyddyn y mae mamogiaid yn mynd yn denau nodi pa glefydau a allai fod yn bresennol.

Os mae profion yn dangos bod un neu fwy o glefydau yn bresennol, bydd yr hyn sy’n digwydd nesaf yn aml yn dibynnu ar y math o ddiadell neu system.

“A ydym ni’n dymuno gwaredu’r clefyd, a oes modd i ni ei waredu, a ydym ni am fonitro ei effeithiau, ceisio ei leihau neu geisio gwarchod defaid eraill rhag ei gyflwyno eto? Bydd gan bob diadell nod gwahanol,” meddai Ms Page.

Efallai y bydd diadell bedigri yn dymuno gwaredu, er enghraifft er mwyn sicrhau statws ac achrediad rhydd o MV.

Ond mae hynny’n annhebygol o fod yn gost effeithiol nac yn gyraeddadwy mewn diadell fasnachol, yn enwedig os nad yw’n ddiadell gaeedig.

Yn yr achos hwn, gallai monitro’r clefyd neu waredu anifeiliaid sydd wedi’u heffeithio’n glinigol fod yn ddull addas.

“Y dyhead yw ein bod yn gwaredu’r clefydau hyn o bob diadell, ond nid yw hynny’n realistig,” meddai Ms Page.

Os bydd profion yn dangos nad yw’r clefydau hyn yn bresennol, yr uchelgais ddylai fod i warchod y ddiadell rhag haint yn y dyfodol.

Mae canfod clefydau heintus yn cymryd amser yn aml iawn.

“Nid yw un ymweliad yn ddigon, bydd yn golygu trafodaethau parhaus, ond peidiwch â bod ofn, gan ei fod yn werth buddsoddi mewn rhywun i’ch helpu i ddarganfod beth allai fod yn digwydd, ac i symud ymlaen,” meddai Ms Page.

Mae cyllid a chymorth ar gyfer profion sgrinio ar gael drwy filfeddygon ac fel rhan o raglen Cyswllt Ffermio, ac mae’n annog ffermwyr i fanteisio ar y rhain.

Os bydd ymchwiliadau’n darganfod bod un neu fwy o’r clefydau hyn yn bresennol, dywed Ms Page na ddylai ffermwyr bryderu.

“Gallwn reoli’r hyn sy’n dod i’r amlwg – gallai hynny fod ar ffurf triniaeth neu frechlyn neu ddarganfod sut mae’r clefyd wedi cyrraedd y fferm.”

Er enghraifft, mae brechlynnau ar gael ar gyfer clefyd Johne’s mewn defaid a Caseous lymphadenitis (CLA) ac uwchsain thorasig ar gyfer canfod adenocarsinoma yr ysgyfaint defaid (OPA).  

Nid anwybyddu’r broblem yw’r ateb, mynnodd Ms Page.

“Y peth gwaethaf y gallwch ei wneud yw anwybyddu’r broblem gan y bydd yn effeithio’n sylweddol ar eich elw. Gall anwybyddu’r broblem arwain at broblemau mawr o fewn diadell.’’


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Agrisgôp yn helpu i dyfu busnes arallgyfeirio llwyddiannus ar fferm
28 November 2024 Mae’r chwe blynedd diwethaf wedi bod yn daith