Mae Cyswllt Ffermio wedi canfod ffordd arloesol o ymateb i’r ffaith bod digwyddiadau ar ffermydd wedi cael eu gohirio ar gyfer yr haf drwy gynnal cyfres o ddarllediadau digidol byw oddi ar ei safleoedd arddangos.

Bydd y darllediadau hyn yn mynd â'r digwyddiadau i ffermwyr, gan alluogi Cyswllt Ffermio i barhau i ymgysylltu â nhw yn ystod y pandemig.

Dywed Dewi Hughes, Rheolwr Technegol Cyswllt Ffermio, y bydd y darllediadau ar-lein yn sicrhau bod ffermwyr yn dal i allu ymuno hyd yn oed pan na allant ddod ynghyd ar y fferm tra bod mesurau cadw pellter cymdeithasol a chyfyngiadau teithio mewn grym.

"Bydd ffermwyr yn gallu gweld drostynt eu hunain o gysur eu cartrefi sut mae technoleg newydd a gwahanol dechnegau rheolaeth yn gallu newid eu harferion ffermio,” meddai Mr Hughes.

Bydd yr holl ddigwyddiadau yn dechrau am 19:30 ac yn cael eu ffrydio yn fyw ar blatfform Zoom. Bydd cyfle i glywed wrth ffermwyr y safleoedd arddangos ynghyd â chlipiau fideo o’r ffermydd, a bydd y swyddogion technegol sy'n gyfrifol am y prosiectau unigol ac arbenigwyr ac ymgynghorwyr y prosiect yn rhoi cyflwyniadau ac yn ymuno yn y drafodaeth drwy gyswllt byw.

Bydd y digwyddiadau 90 munud o hyd yn ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau gan gynnwys rheoli pridd a glaswelltir, cnydau, geneteg, ffrwythlondeb, cynhyrchu wyau dofednod a thechnoleg synwyryddion.

Bydd cyfle i ffermwyr ryngweithio yn ystod y digwyddiadau hyn trwy gyflwyno cwestiynau i'r ffermwyr a'r panel o arbenigwyr.

Gweler yr amserlen arfaethedig ar gyfer y digwyddiadau isod:
 

Dyddiad Amser Safle Arddangos Prif bwnc y digwyddiad
08/07/2020 19:30 Moelogan Fawr, Llanrwst Buddion technoleg newydd i ganfod buchod yn gofyn tarw ar gyfer gwella perfformiad a phroffidioldeb y fuches sugno.
22/07/2020 19:30 Mountjoy, 
Hwlffordd
Croesawu technoleg genomeg i fridio buchod cyfnewid a lleihau mewnbynnau nitrogen trwy ddefnyddio meillion.
05/08/2020 19:30 Rhiwaedog, Bala
  • Gwerthuso buddion technoleg i ganfod pan fo buchod yn gofyn tarw i sicrhau enillion o ran ffrwythlondeb y fuches sugno.
  • Gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd oddi ar y borfa.
19/08/2020 19:30

Wern, 
Y Trallwng

Archwilio'r amodau amgylcheddol gorau posibl ar gyfer ieir dodwy maes h.y. aer, gwastraff a dŵr i wella iechyd yr adar ac felly cynhyrchiant a phroffidioldeb. 
02/09/2020 19:30 Graig Olway, 
Brynbuga
Canolbwyntio ar symudedd gwartheg, storio slyri ac isadeiledd.
16/09/2020 19:30 Dolygarn, 
Y Drenewydd
Opsiynau porthiant amgen i wella cynhyrchiant a lleihau'r effaith amgylcheddol ar fferm ucheldir.

Bydd manylion am sut i gael mynediad i'r digwyddiadau yn cael eu cyhoeddi ar galendr digwyddiadau ar-lein Cyswllt Ffermio ar: https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/beth-sydd-ymlaen

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.