logo

Diolch am eich amynedd wrth inni geisio cael trefn ar ein systemau cyfathrebu i allu ymateb i argyfwng y coronafeirws.

Fel rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i’r coronafeirws, bydd blaenoriaethau Rhwydwaith Gwledig Cymru yn newid ychydig i adlewyrchu’ch anghenion newydd chi, ein rhanddeiliaid, dros y cyfnod digynsail hwn. 

Byddwn yn ceisio rhannu cymaint o wybodaeth a chyngor defnyddiol â chi â phosib, gan gynnwys cyngor swyddogol diwerddaraf Llywodraeth Cymru ac adnoddau a llinellau cymorth allai’ch helpu. 

Dyma gyngor diweddaraf Llywodraeth Cymru

Os ydych chi’n byw neu’n gweithio yn y wlad a bod gennych gwestiwn neu’ch bod am roi gwybod inni am ddatblygiad yn eich cymuned, cysylltwch â ni ar unwaith trwy ein blwch post cyffredinol ac fe wnawn ni ein gorau i ateb eich cwestiwn neu’ch rhoi ar ben ffordd i gael ateb: rhwydwaithgwledig@llyw.cymru

Cysylltwch â ni hefyd os ydych chi’n gwybod am unrhyw fentrau cymunedol sy’n cynnig help ymarferol ar lawr gwlad – byddai’n syniad da rhannu’r wybodaeth ar ein sianeli. 

Os oes gennych gwestiwn am eich busnes a’r coronafeirws, ewch i safle Busnes Cymru 

Byddwn yn cyhoeddi’n newyddlen yn ôl y gofyn wrth i wybodaeth newydd ddod i law – cofrestrwch yma amdani.

Cofiwch, tan y cewch wybod yn wahanol, bydd ein tîm bychan yn gweithio gartref ond bydd dal modd ichi gysylltu â nhw dros y ffôn, e-bost neu’r cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr oriau gweithio craidd, Llun – Gwener. 

Datganiad Taliadau Gwledig Cymru (RPW) am y coronafeirws.

Fel ymateb i gyngor Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y coronafeirws, mae RPW wedi gwneud newidiadau i rai o’i wasanaethau i ddiogelu iechyd, diogelwch a lles staff a chwsmeriaid yn y dyddiau dreng hyn. 

Mae argyfwng byd-eang y coronafeirws yn effeithio ar bob un ohonom.  Blaenoriaeth benna’r RPW yw diogelu iechyd y cyhoedd yn unol â chyngor y Llywodraeth tra’n ceisio gwasanaethu ei gwsmeriaid, trwy’r cynlluniau grant amrywiol y mae’n eu gweinyddu o dan Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020. 

Mae’r RPW yn sylweddoli bod y sefyllfa’n datblygu’n gyflym ac y gallai’r cyngor newid ar fyr-rybudd. O gofio hynny, bydd yn ceisio gwneud ei benderfyniadau mor gyflym â phosibl ac yn ôl rhinweddau pob achos gan roi ystyriaeth lawn i’r cyngor swyddogol sydd mewn grym ar y pryd. 

Os gwelwch fod y coronafeirws yn effeithio ar eich prosiect chi, cysylltwch â RPW ar unwaith. 

Er mwyn ei helpu i ddelio â’r argyfwng, mae RPW wedi ailagor ei flwch SMU: SMU@gov.wales 

Gofalwch eich bod yn defnyddio cyfeiriad y blwch post yn unig ar gyfer eich gohebiaeth a nodwch yn glir deitl y prosiect a rhif adnabod yr achos os medrwch, oherwydd efallai y bydd staff unigol yn gorfod rhoi’r gorau i weithio ar fyr-rybudd. 

CANOLFAN GYSWLLT I GWSMERIAID

Mae’r ganolfan gyswllt i gwsmeriaid RPW ar agor fel arfer ar gyfer derbyn galwadau ffôn yn ystod yr oriau canlynol:

  • Llun – Iau 8.30am i 5pm 
  • Gwener 8.30am to 4.30pm 

Fodd bynnag, ar hyn o bryd, dim ond â galwadau am hawliadau a chroniadau cyn diwedd y flwyddyn ariannol y byddwn yn eu hateb. 
Ar gyfer ymgoliadau eraill ynghylch eich prosiectau, ysgrifennwch atom trwy Flwch yr MSU. 

Cadwch olwg ar y wefan am yr wybodaeth ddiweddaraf. 

Darllenwch fwy yn LLYW.CYMRU 

Diolch ichi am eich amynedd, a chadwch eich hunain yn ddiogel ac iach.