Eirwen Williams a Sioned Llywelyn

Lansiodd Cyswllt Ffermio adnodd rhyngweithiol ar-lein newydd i helpu ffermwyr Cymru i wneud newidiadau i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o’u busnesau.

Mae’r adnodd rhyngweithiol, a ddatblygwyd gan Cyswllt Ffermio ac a lansiwyd yn y Ffair Aeaf ar 25 Tachwedd, yn rhoi cyngor ar y camau posibl y gall ffermwyr eu cymryd i leihau allyriadau.

A ffermwyr dan bwysau gan amgylcheddwyr oherwydd y cyfraniad y mae amaethyddiaeth yn ei wneud at newid hinsawdd, mae’r 10 sefyllfa a gynhwysir yn yr adnodd, fel lleihau maint buchod o 700kg i 500kg a chynyddu’r nifer o loeau a fegir o 80%, i 85%, yn anelu at wella effeithlonrwydd a chynyddu proffidioldeb y fferm hefyd o bosibl.

Dywedodd Sioned Llywelyn, Rheolwr Datblygu a Mentora Cyswllt Ffermio, a fu’n helpu i ddatblygu’r adnodd, bod ffermwyr yn aml yn credu ar gam y bydd unrhyw gamau y gallant eu cymryd i leihau allyriadau yn costio arian iddynt. 

Sioned Llywelyn
Sioned Llywelyn

Nid yn unig mae’r adnodd hwn yn dileu’r ofn ond mae hefyd yn dangos sut y gall newidiadau gynyddu cynhyrchiant, dywedodd wrth rhanddeiliaid a ddaeth i’r lansiad.

“Weithiau nid yw ffermwyr yn sylweddoli bod cysylltiad uniongyrchol rhwng effeithlonrwydd y fferm a lleihau allyriadau nwyon,” dywedodd.

Un enghraifft yw gwaredu BVD – mae stoc iach yn allyrru llai o fethan. Un arall yw cynyddu’r nifer o ŵyn a fegir gan bob mamog o 120% i 140% – mae cynyddu cynhyrchiant y famog yn gostwng ôl troed carbon y cig a gynhyrchir gan yr anifail hwnnw.

“Os bydd ffermwyr yn gwneud newidiadau sy’n gwneud eu systemau yn fwy cynhyrchiol yna gallant leihau allyriadau a bydd hyn o fudd iddynt yn economaidd hefyd,” dywedodd Sioned.

Mae’r 10 sefyllfa yn yr adnodd fel a ganlyn:

  • Cynyddu’r nifer o loeau a fegir o 80% i 85%.
  • Lleihau maint buchod o 700kg i 500kg
  • Cynyddu’r nifer o ŵyn a fegir 120% i 140%
  • Gwaredu BVD o’r fuches bîff
  • Atal Afiechyd Johne rhag effeithio ar 10% o’r fuches laeth
  • Pwysigrwydd priddoedd amaethyddol
  • Lleihau’r defnydd o nitrogen (fel gwrtaith artiffisial) o 10%
  • Lleihau’r defnydd o ddiesel o 10%
  • Lleihau’r defnydd o drydan o 10% ar fferm laeth
  • Amaethyddiaeth a’r amgylchedd

Ni fydd yr holl newidiadau hyn yn gweithio ar bob fferm ond bydd o leiaf un yn berthnasol, beth bynnag yw’r system.

Mae’r adnodd hefyd yn amlygu’r negeseuon positif am y cyfraniad y mae ffermwyr yn ei wneud i’r amgylchedd, fel gallu priddoedd amaethyddol i storio symiau enfawr o garbon, a’r rôl sydd gan amaethyddiaeth wrth ddarparu dŵr glân a chynefinoedd.

Mae Cyswllt Ffermio eisoes yn cynnig llawer o wasanaethau sy’n ymdrin â materion yn ymwneud ag allyriadau, fel cyngor ar gynhyrchu da byw ac iechyd anifeiliaid. 

Gallwch ddod o hyd i’r adnodd newydd yn: https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/reducing-ghg-emissions

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.