Keep Wales Tidy clean up event

Mewn digwyddiad codi sbwriel ar y cyd a drefnwyd gan PHR Plumbing Heating & Renewables a Skeffington Properties Limited, daeth mwy na 40 o wirfoddolwyr o’r ardal leol yn y Rhyl allan yn y gwynt a’r glaw er mwyn glanhau eu cymuned leol. 

Wrth i’r tywydd wella ac ardaloedd cyhoeddus ddechrau ailagor, mae cyfraddau sbwriel wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf yng Nghymru.  Ceisiodd y ddau gwmni lleol hyn, wrth weld y cynnydd hwn mewn sbwriel lleol mewn mannau agored a thraethau, ddod ynghyd am y tro cyntaf i fynd i’r afael â’r mater yn uniongyrchol gan drefnu ymgyrch glanhau sbwriel a diwrnod i’r teulu ar gyfer gwirfoddolwyr o bob oed.

Oherwydd mwy o ddiddordeb nag y rhagwelwyd gan wirfoddolwyr, cafodd y lleoliadau eu hymestyn i gynnwys Pwll Brickfield a’r ardaloedd cyfagos, Marine Lake, Gwarchodfa Natur Glan Morfa, Gerddi Botaneg a Splash Point. 

Cymerodd dros 40 o wirfoddolwyr ran ar y diwrnod gyda staff o’r ddau gwmni, neiniau a theidiau a phlant i gyd yn torchi llewys, gyda’r gwirfoddolwyr yn mynd draw i Fferm Tan Y Bryn am Ddiwrnod i’r Teulu i ddathlu gwaith da.  Cafodd dau blentyn dlws ar y cyd hefyd am fod yn godwyr sbwriel y dydd, gan fynd gam ymhellach a chodi sbwriel a gwastraff o ardaloedd anodd i’w cyrraedd.

Gweithiodd PHR Plumbing Heating & Renewables a Skeffington Properties Limited gyda Cadwch Gymru’n Daclus fel rhan o’u menter Caru Cymru, i ddarparu cyfarpar ar gyfer y digwyddiad hwn, yn cynnwys siacedi llachar, codwyr sbwriel, sachau sbwriel a chylchynnau. 

Nod Caru Cymru yw ysbrydoli pawb i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.  Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn gweithio gyda phob awdurdod lleol ar draws Cymru a dyma eu menter fwyaf erioed i ddileu sbwriel a gwastraff.

Mae Caru Cymru wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Dyfyniad – SKEFFINGTON PROPERTIES

“Dyma ein hymgyrch glanhau cymunedol cyntaf a’n gobaith yw cynnal mwy o’r digwyddiadau cymunedol hyn yn y dyfodol.  Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â PHR Plumbing & Heating Renewables Limited a gweithio ar y cyd â Rhodwyr Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych.”

Dyfyniad – PHR PLUMBING & HEATING RENEWABLES LTD 

“Rydym ni, fel cwmni sydd yn gweithio yn yr ardal leol, yn gweld pa mor anniben y gall y gymuned fod yn ystod tymor y gwyliau.  Rydym yn angerddol am gadw’r ardal yn lân er mwyn gallu mwynhau’r awyr agored nad ydym wedi gallu ei fwynhau’n iawn yn ystod y pandemig.  Rydym hefyd wedi ymuno â’r tîm atal Digartrefedd sydd yn dod â rhai o’r oedolion ifanc 16-24 oed i mewn i helpu i lanhau’r gymuned.  Hoffem ddiolch i Cadwch Gymru’n Daclus, sydd wedi darparu’r offer i ni barhau â’r digwyddiad hwn”

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn defnyddio eu hyb lleol i gysylltu, neu fynd i’r wefan am fwy o wybodaeth: https://www.keepwalestidy.cymru/litter-picking-hubs