Dyddiad: Dydd Mawrth, 1 Rhagfyr 2020

Amser: 2-3pm

Wrth i 2020 ddirwyn i ben, mae cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru yn wynebu amodau anwadal oherwydd effeithiau cyfunol Covid-19, Ymadael yr UE a chyfnod masnachu Nadolig na ellir ei ragweld.

Ymunwch â Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru a Sgiliau Bwyd Cymru yn Ffair Aeaf rithiol Frenhinol Cymru eleni i glywed pa gymorth sydd ar gael i wella gwydnwch busnesau drwy reoli risgiau mewn
meysydd fel:

  • Rheoli’r gadwyn gyflenwi
  • Allforio i’r UE
  • Masnach gydag Iwerddon drwy archfarchnadoedd
  • Effeithiau tariffau
  • Costau gweithredol
  • Llif arian a chyfalaf gweithio

O dan gadeiryddiaeth Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, mae’r panelwyr yn cynnwys:

  • David Morris, Dirprwy Bennaeth Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru
  • Yr Athro David Lloyd, Cyfarwyddwr Canolfan Diwydiant Bwyd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
  • Linda Grant, Cyfarwyddwr Gweithredol, BIC Innovation

I gofrestru eich presenoldeb ewch i: zoom.us/webinar/register/WN_9Om_gz-FSTy3Yo388liIPQ