Cerys Fairclough

Er mai ond 16 yw Cerys Fairclough, mae ganddi ben doeth ar ysgwyddau ifanc. Dywed Cerys, sy’n fyfyriwr amaethyddol, bod cael ei dewis ar gyfer Rhaglen yr Ifanc

Academi Amaeth Cyswllt Ffermio y llynedd wedi rhoi gweledigaeth glir iddi ynghylch beth sydd angen iddi gyflawni er mwyn llwyddo fel merch yn y byd amaeth!

“Roedd hi’n fraint mawr bod yn rhan o’r Academi Amaeth a dyna pam rwy’n annog unrhyw un sy’n uchelgeisiol ac yn barod i fuddsoddi peth o’u hamser yn eu datblygiad personol i ymgeisio cyn gynted â phosib.”

“Mae’n hawdd meddwl nad oes gennych amser am unrhyw beth ychwanegol mewn bywyd pan mae gennych ofynion dyddiol o astudiaethau academaidd neu swydd, bywyd cymdeithasol prysur a chyfrifoldebau ffermio bob dydd, ond mae fy mhrofiad gyda’r Academi Amaeth wedi rhoi ffocws i’m mhenderfyniadau ac rwy’n hynod ddiolchgar o’r cyfle,” meddai Cerys.

Mae Cerys, sy’n byw gartref ar y fferm ddefaid deuluol ger Pontnewydd ar Wy, lle mae wrthi’n datblygu ei diadell ei hun o ddefaid Wyneblas Caerlŷr cofrestredig, yn un o’r 12 o bobl ifanc a gafodd eu dewis ar gyfer Academi Amaeth Cyswllt Ffermio y llynedd.

Dywedodd Cerys ei bod hi’n benderfynol o wneud y mwyaf o bob cyfle a gynigwyd yn ystod y tair sesiwn astudio byr ond dwys oedd yn cynnwys ymweld â Gwlad yr Iâ, hyfforddiant y cyfryngau, mentora yn ogystal ag ymweld â sawl busnes gwledig.

“Cefais gyfle i gyfarfod rhai o fy modelau rôl benywaidd personol diolch i’r Academi, yn cynnwys Abi Reader sy’n ffermwr llaeth; fy ffefryn o’r cyfryngau cymdeithasol, y ‘Red Shepherdess’; ac Elaine Rees-Jones, arbenigwr arallgyfeirio gyda Cyswllt Ffermio; oedd i gyd yn rhan o’n tîm o fentoriaid!

“Dysgodd bawb y gwnaethom eu cyfarfod, y mentora, yr hyfforddiant a’r busnesau yr aethom i ymweld â nhw o fewn y DU a Gwlad yr Iâ, lawer iawn i ni.” 

“Roedd y daith astudio i Wlad yr Iâ yn addysgiadol mewn sawl ffordd, a buom yn arsylwi’r tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhwng ein diwydiannau, ond yr hyn a’m trawodd fwyaf oedd pa mor ffodus mae pobl ifanc i gael cymaint o gyfleoedd i ddatblygu eu gyrfaoedd yng nghefn gwlad Nghymru.

“Rwy’n sylweddoli pa mor freintiedig y bûm i gael fy newis ar gyfer yr Academi Amaeth a hefyd ymwneud cymaint â CFfI Cymru, ar lefel lleol a sirol - nid oes unrhywbeth tebyg yng Ngwlad yr Iâ!”

Dywedodd Cerys ei bod yn benderfynol o ganolbwyntio ar yr ochr fusnes o ffermio ers iddi gysgodi Elaine Rees-Jones yn ystod cyfnod o brofiad gwaith yn gynnar y llynedd.

“Yn ystod yr wythnos honno o brofiad gwaith dysgais sut y gellir helpu i ddatblygu busnesau, a gwnaeth hyn i mi sylweddoli y buaswn yn hoffi dilyn gyrfa mewn rheoli yn hytrach na’r ochr ymarferol o amaethyddiaeth, a dyma’r rheswm pam y meddyliais y byddai’r Academi Amaeth yn brofiad gwerthfawr.”

Yn ddiweddar, cafodd Cerys, sy’n aelod brwd o CFfI Howey, ei henwebu fel aelod iau y flwyddyn CFfI Maesyfed. Dywedodd i broses gyfweld yr Academi Amaeth fod yn werthfawr iawn ac i’r profiad ddatblygu ei hyder.

“Wrth ateb yr holl gwestiynau ar gyfer y wobr CFfI, roeddwn yn cyfeirio’n ôl at yr hyn a ddysgais drwy’r Academi Amaeth!”

Mae’r ffenestr ymgeisio ar gyfer yr Academi Amaeth 2020 ar agor nawr hyd 11:59pm, dydd Mawrth, 31 Mawrth 2020. Os oes angen mwy o wybodaeth ynglŷn â meini prawf a manylion y rhaglen, mae Gwenno Griffiths, Rheolwr Datblygu a Mentora gyda Menter a Busnes, sy'n darparu Cyswllt Ffermio gyda Lantra Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, yn cynghori unigolion sydd â diddordeb i ymweld â gwefan Cyswllt Ffermio ar https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy.

Eleni, bydd yr Academi Amaeth yn canolbwyntio ar ddwy raglen yn unig, y rhaglen Busnes ac Arloesedd sydd â llawer i’w gynnig i entrepreneuriaid a’r rheiny sydd eisiau cyflwyno ffyrdd arloesol o weithio i’w bywydau bob dydd, a Rhaglen yr Ifanc, menter ar y cyd gyda CFfI Cymru, sy’n agored i unigolion rhwng 16 a 19 oed sy’n gobeithio dilyn gyrfa yn y diwydiant bwyd, ffermio neu ddiwyddiannau gwledig perthnasol.

“Mae Cerys yn astudio amaethyddiaeth Lefel 3 yng Ngholeg Reaseheath yn Sir Gaer, ac mae’n gobeithio bydd hyn yn arwain at gwrs gradd prifysgol mewn busnes amaethyddol a maetheg.

“Gyda’i hyder, ffocws a’i pharodrwydd i weithio’n galed, rwy’n sicr y bydd Cerys yn cyflawni hyn,” meddai Gwenno Griffiths.

Cliciwch yma i wylio fideo Cerys a darganfod mwy am yr hyn sydd ganddi i ddweud am yr Academi Amaeth.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.