Beca

Cafodd Beca Glyn, ffermwraig ifanc, ddamwain ddifrifol ar feic cwad ym Mawrth 2018. Torrodd asgwrn ei phenglog, cafodd anafiadau i’w gwddw ac roedd ei chorff wedi’i gleisio’n arw.  

Er i Beca, sydd wedi cwblhau gradd ym Mhrifysgol Aberystwyth, wella’n rhyfeddol a dychwelyd i ffermio ar ôl cyfnod y mae’n cyfeirio ato fel naw mis hir o orffwys, ffisio ac adsefydlu, dywed na fydd ei bywyd o bosibl byth yr un fath. Mae ei thîm meddygol yn dal yn ansicr a fydd yn cael ei synnwyr blasu ac arogli yn ôl a’r gallu i gysgu drwy’r nos.

Roedd Beca (26) yn helpu i hel defaid o gae, ar hyd lôn fach wledig ac i sied ar fferm y teulu ym Metws-y-Coed lle mae ei theulu’n cadw diadell o 1,000 o ddefaid a gwartheg bîff.  

“Dechreuodd y defaid symud i'r cyfeiriad anghywir, fe es i banig ac ar yr eiliad dyngedfennol honno, meddyliais na fyddai'r ci yn llwyddo i ddod â'r defaid yn ôl y ffordd gywir ond pe bai'n gwneud hynny, byddai perygl y byddwn yn gyrru’n syth tuag atyn nhw." 

Fe drodd yn rhy gyflym, aeth y beic cwad ar ei ochr a glaniodd ar ei phen nes tarodd ei phen ar y ffordd.  Doedd hi ddim yn gwisgo helmed diogelwch - rhywbeth y mae hi'n ei ddifaru bob dydd. 

Diolch i ymateb cyflym ei thad Glyn, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, a chymydog a lwyddodd i godi'r beic oddi arni a galw'r gwasanaethau brys ar unwaith, cyrhaeddodd yr ambiwlansys tir ac awyr yn y fan a'r lle yn gyflym iawn.  Roedd Beca wedi cael cyfergyd, ac nid yw’n cofio dim am yr hyn a ddigwyddodd ar ymyl y ffordd, ond mae’n talu teyrnged i arbenigedd y parafeddygon ac i'r tîm Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor lle aethpwyd â hi mewn ambiwlans ar daith golau glas.

Er gwaethaf yr effeithiau parhaus, y mae hi'n gobeithio fydd yn gwella, mae Beca wedi gwella’n ardderchog ac mae bellach yn canolbwyntio ar godi proffil diogelwch fferm a hyrwyddo arferion gweithio diogel, yn enwedig wrth yrru cerbydau fferm. 

"Dw i'n gwybod fy mod i'n lwcus iawn fy mod i’n fyw a dw i wedi gwneud cynnydd aruthrol, ond dw i'n gwybod hefyd, petawn i wedi bod yn gwisgo helmed ac wedi cael hyfforddiant ar sut i  yrru cerbyd ATV yn ddiogel, efallai na fyddwn wedi gorfod mynd i'r ysbyty o gwbl.

"Buaswn wedi rhoi unrhyw beth i beidio â gorfod ymdopi â misoedd o flinder ar ôl y mymryn lleiaf o ymdrech, a buaswn yn dal i allu mwynhau arogl bendigedig a blas cinio cig oen rhost wedi'i goginio gyda garlleg a rhosmari neu deimlo'r ymdeimlad gwych hwnnw o edrych ymlaen at fynd allan i un o fy hoff fwytai tapas!"

“Mae cymaint wedi newid ers fy namwain, ac er fy mod i wedi rhoi cynnig ar wahanol feddyginiaethau a therapïau, mae wedi amharu ar fy mhatrwm cwsg ac mae hynny’n dal i effeithio arna i bob dydd." 

Y dyddiau yma, ynghyd â ffermio o ddydd i ddydd a chymryd rhan yng ngweithgareddau CFfI Ysbyty Ifan a CFfI Eryri, lle mae hi'n gadeirydd ar hyn o bryd, mae galw hefyd ar Beca fel eiriolwr 'diogelwch fferm' mewn amryw o ddigwyddiadau gwledig yng Nghymru.  Mae hi'n benderfynol o wneud popeth yn ei gallu i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y fferm a hyrwyddo'r hyfforddiant arbenigol sydd ar gael a all leihau'r risg o ddamweiniau ar y fferm yn sylweddol.  

"Mae gan bron popeth a wnawn ar y fferm risgiau’n gysylltiedig â nhw, o drin anifeiliaid i weithredu peiriannau ac o ddelio â phlaladdwyr i yrru tractorau ac ATVs, ond os byddwch wedi cael hyfforddiant, byddwch yn gwybod pa gamau i'w cymryd i leihau'r risgiau o ddamweiniau." 

"Allwch chi ddim rhoi pris ar eich iechyd a'ch lles, a dw i wedi ffeindio hynny allan y ffordd galed."

Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig hyfforddiant i unigolion cymwys sydd wedi'u cofrestru ar amrywiaeth eang o bynciau ymarferol, busnes a thechnegol, gyda chymhorthdal o hyd at 80%. 

Ewch i https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy i weld rhestr o’r cyrsiau, y darparwyr hyfforddiant a’r canllawiau ar sut i wneud cais am hyfforddiant â chymhorthdal. I weld y canllawiau ar bob agwedd o ddiogelwch fferm, ewch i www.hse.gov.uk 

Y prif gynghorion ar gyfer gyrru ATV yn ddiogel
 

  • Gwnewch yn siŵr fod pob gyrrwr yn cael hyfforddiant digonol
  • Gwisgwch helmed addas bob amser
  • Peidiwch â chario teithwyr (oni bai bod y beic cwad wedi’i gynllunio ar gyfer teithwyr)
  • Gwaherddir plant o dan 13 oed rhag defnyddio ATV yn y gwaith. Dylai rhai dros 13 oed ond yrru ATV – o faint â phŵer addas – ar ôl cael hyfforddiant ffurfiol ar ATV pŵer isel
  • Dylech gynnal archwiliadau diogelwch a chynnal y beic yn unol ag argymhellion y gweithgynhyrchwr, e.e. gwiriwch bwysedd y teiars yn rheolaidd, y brêcs a’r throtl
  • Gwnewch yn siŵr bod unrhyw lwyth wedi’i osod yn ddiogel, nad yw wedi’i orlwytho, a’i fod yn gytbwys
  • Cymerwch ofal ychwanegol gyda threlar neu lwyth a gwnewch yn siŵr eich bod yn deall sut maent yn effeithio ar sefydlogrwydd y beic cwad
  • Cadwch at lwybrau wedi’u cynllunio ymlaen llaw, os yw’n bosibl, a cherddwch ar hyd llwybrau newydd os oes angen rhag ofn bod rhwystrau, pantiau neu beryglon eraill na ellir eu gweld

Mae’r un gofynion cyfreithiol yn berthnasol ar gyfer SSVs, hynny yw -
 

  • Dylai defnyddwyr ddewis peiriant gyda system amddiffyn rhag troi (ROPS)
  • Dylai’r gyrrwr a’r teithwyr wisgo gwregysau glin/diogelwch.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Gwyliwch stori Beca yma (fideo mewn saesneg yn unig):