Your voice…your ideas… your chance to help shape a future Sustainable Farming Scheme in Wales

Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi cwmni datblygu economaidd blaenllaw yng Nghymru, Menter a Busnes, i lunio ymgyrch ymgysylltu a fydd yn rhoi cyfle i ffermwyr ledled Cymru gyfrannu at ddatblygiad Cynllun Ffermio Cynaliadwy. 

Am ragor o fanylion ac i lawr lwytho a chwblhau’r arolwg, ewch i menterabusnes.cymru/sfs

 

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig,“Mae’n bwysig ein bod yn clywed eich syniadau’n uniongyrchol gennych chi wrth i ni ddatblygu Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd i Gymru i gymryd lle’r Cynllun Taliad Sylfaenol presennol."

“Dyma gyfle unigryw i edrych ar rai o agweddau mwy ymarferol y cynigion a gafodd eu cynnwys yn yr ymgynghoriad ‘Ffermio Cynaliadwy a’n Tir’. 

“Rydym ni’n croesawu eich syniadau yn ymwneud ag asesiadau cynaliadwyedd fferm; rheoli pridd; cynllunio iechyd anifeiliaid; strategaeth datblygu fferm; rheoli cynefinoedd ac integreiddio coetiroedd fferm."

“Rydw i eisiau manteisio ar eich arbenigedd i’n cynorthwyo i ddatblygu’r gefnogaeth sydd arnoch ei angen i ymateb i’r heriau sy’n effeithio ar bob un ohonom, megis parhau i gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel mewn modd cynaliadwy, mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac edrych ar y lleihad mewn bioamrywiaeth.”

Dywed Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, y bydd yr ymgyrch ymgysylltu’n teithio i leoliadau ledled Cymru mewn ymgais i geisio cyrraedd ffermwyr unigol sy’n cynrychioli pob sector yn y diwydiant.

Y cam cyntaf yn ein hymgyrch ymgysylltu yw estyn gwahoddiad i unigolion sydd â diddordeb i gofrestru a chwblhau arolwg byr ar-lein drwy fynd i menterabusnes.cymru/sfs

Bydd Menter a Busnes yn cyhoeddi’r arolwg yn eang drwy ymgyrch yn y wasg, y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol a bydd yn rhedeg rhwng dydd Mercher 11 Mawrth hyd 12pm ddydd Iau 30 Ebrill.

“Ynghyd â hyn, byddem yn eich annog i ddod i siarad â ni - bydd ein staff yn bresennol mewn marchnadoedd lleol dros yr wythnosau nesaf - gan ein bod yn awyddus i ymgysylltu gyda’r ffermwyr hynny sy’n ffafrio trafod cwestiynau’r arolwg yn uniongyrchol gyda staff a fydd yn gallu nodi eu hymatebion ar eu rhan yn gwbl gyfrinachol."

“Rydym ni eisiau gwneud yr ymgyrch hon mor hygyrch a syml â phosibl, felly ein harolwg yw’r cam cyntaf i’n galluogi i adnabod y ffermwyr hynny sy’n fodlon rhannu eu barn a chynorthwyo i lywio polisïau a fydd mor hanfodol er mwyn diogelu dyfodol busnesau fferm teuluol, meddai Mrs. Williams."  

Bydd ail gam yr ymgyrch yn gofyn i ffermwyr fynegi diddordeb mewn mynychu cyfarfod un i un cwbl gyfrinachol mewn lleoliadau ledled Cymru, er mwyn sicrhau bod pob sector ym myd amaeth yn cael ei gynrychioli, ynghyd â chymysgedd dda o oedrannau, rhyw, lleoliadau daearyddol a thopograffeg. Yn dilyn hynny, bydd cyfres o weithdai grŵp rhanbarthol yn darparu cyfle pellach i roi adborth, gan alluogi Menter a Busnes i gyflwyno ei ganfyddiadau i’r Gweinidog ym mis Mai. 

Ariennir Prosiect Cyd-ddylunio Cynllun Ffermio Cynaliadwy i Gymru gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes.

Dyddiadau pwysig:

  • Cofrestru a datgan eich diddordeb mewn mynychu sesiwn un i un a/neu weithdy        6/04/20

  • Cwblhau yr arolwg byr ar lein        30/04/20


Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn cyflwyno’r cyd-ddylunio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy i Gymru:

Fideo gwybodaeth cyd-ddylunio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy i Gymru: