Mae enillwyr cystadleuaeth Pesgi Moch, Menter Moch Cymru a CFFI Cymru 2021 yn paratoi ar gyfer diweddglo’r gystadleuaeth a'u hymddangosiad cyntaf yn y Ffair Aeaf Brenhinol Cymru'r wythnos nesaf.

Bydd y chwe ffermwr ifanc yn cychwyn ar daith gyffrous a therfynol y gystadleuaeth flynyddol wythnos nesaf sydd â'r nod o annog y genhedlaeth nesaf o gynhyrchwyr moch ac i gael ffermwyr ifanc i feddwl am gadw moch ar eu fferm fel ffordd o arallgyfeirio adref.

Mae'n fenter ar y cyd rhwng Menter Moch Cymru a CFfI Cymru. Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Y chwe unigolyn sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y gystadleuaeth eleni yw:

Dylan Phillips o Bwlch y Rhandir, Llangwyryfon

Dylan a'r moch

 

Eiry Williams o Dy Newydd Langwyryfon

Eiry a'r moch

 

Luned Jones o Lanwnnen, Llanllwni

Luned a'r moch

 

Elliw Roberts o Gaergybi ar Ynys Môn

Elliw a Moch

 

Sally Griffiths o Presteigne, Maesyfed 

Sally a'r moch

 

Laura Evans o Gwynfa, Llangwyryfon

Laura a'r moch

 

Yn y gorffennol datgelid y rhai oedd yn y rownd derfynol yn bersonol yn Sioe Frenhinol Cymru ond yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf oherwydd y pandemig, mae'r trefnwyr wedi gorfod troi at dechnoleg, a chyhoeddwyd yr enillwyr ar-lein fel rhan o Sioe Rithwir Frenhinol Cymru yng Ngorffennaf.

Yn gynnar ym mis Medi, cafodd pob cystadleuydd yn y rownd derfynol bum mochyn wyth wythnos oed o'u brîd dewisol eu hunain i'w fagu. Roedd y moch yn cael eu pwyso bob pythefnos fel bod eu cyfradd twf a'u defnydd o borthiant yn cael eu cofnodi ac roedd yr holl gystadleuwyr yn y rownd derfynol yn cael eu cynnwys mewn rhaglen hyfforddiant pwrpasol i'w helpu gyda'u menter newydd.

Dywedodd Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Moch Cymru: “Dyma’r bedwaredd flwyddyn i ni redeg y fenter hon mewn cydweithrediad â CFfI Cymru, ac rydym yn gyffrous iawn ar ran y ffermwyr ifanc a fydd yn dod â’u moch i’r sioe am y tro cyntaf.  Bydd hi’n braf bod yn dyst i'r effaith gadarnhaol y mae'r gystadleuaeth hon yn ei chael ar y ffermwyr ifanc eu hunain, ond hefyd i weld newydd-ddyfodiaid yn datblygu wrth iddynt gael eu cyflwyno i'r sector moch. "

Bore Mawrth nesaf yn Ffair Aeaf Brenhinol Cymru bydd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn cystadlu yng nghystadleuaeth y mochyn unigol orau a'r par gorau ac yna bydd enillydd cyffredinol y gystadleuaeth yn cael ei ddewis a'i gyhoeddi.

Ymunwch â ni a'n beirniaid arbennig, Ela Roberts o gwmni Oink Oink ger Pwllheli a Mr John Raymond Jones o Gaergybi, Sir Fôn fore dydd Mawrth y 30ain o Dachwedd yn y Ffair Aeaf Brenhinol Cymru