Dorian Roberts

'Mae dysgu’n hawdd pan rydych chi’n dod o hyd i rywbeth y gallwch chi ei wneud yn eich amser eich hun,' dywedodd Dorian Roberts, ffermwr o Ynys Môn, am fodiwlau dysgu ar-lein Cyswllt Ffermio sydd wedi eu hariannu’n llawn. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, mae ar ei ennill o ganlyniad i reolaeth mwy effeithiol o lyngyr yr iau, ac mae wedi mabwysiadu systemau newydd ar gyfer rheoli ysgall a brwyn sydd wedi arwain at laswelltir gwell. Yn ogystal â hyn, mae'n llawer mwy ymwybodol o ddiogelwch fferm! 

Mae Dorian a’i wraig Sera wedi bod yn edrych ymlaen at ymddeol o’u gyrfaoedd gyda’r heddlu  yn gwybod y gallant roi mwy amser i gynyddu maint eu diadell gymysg o Dorset pedigri a mamogiaid ac ŵyn masnachol croes ar fferm Meillionen, Llangefni. 

Ond dechreuodd hyder Dorian yn ei gynllun ymddeol wegian pan sylweddolodd, er nad oedd am gynyddu maint y fferm yn fawr iawn, nid oedd yn ymwybodol o rai o’r systemau newydd yr oedd yn darllen amdanynt yn y wasg ffermio a allai helpu ei fferm i fod yn fwy effeithlon.

“Gan fy mod bob amser wedi gweithio oddi ar y fferm, wnes i ddim edrych ar unrhyw systemau i wella effeithlonrwydd, felly roeddwn i’n ymwybodol nad oeddwn i o reidrwydd yn cael yr adenillion gorau o’r tir a’r ddiadell.” 

Fel darllenwr brwd o gylchgronau ffermio, sylweddolodd Dorian fod yna feysydd roedd angen iddo ddysgu mwy amdanynt er mwyn cyflawni’r canlyniadau gorau posib ar y fferm, a dyna pryd y trodd at Cyswllt Ffermio.

“Dechreuais fynychu digwyddiadau Cyswllt Ffermio yn yr ardal a roddodd gyfle i mi ddysgu llawer, ynhgyd â chyfarfod â’r swyddog datblygu lleol a ddaeth i ymweld â’r fferm a fy annog i fynychu clinig glaswelltir a phridd Cyswllt Ffermio ble cafodd samplau pridd eu cymryd o’r fferm i’w dadansoddi.   

Dangosodd y canlyniadau y gallwn wella ansawdd ein glaswelltir trwy gynllunio rheoli maetholion, sydd wedi arbed arian i mi ac wedi bod o fudd i iechyd a lles y ddiadell.”


Penderfynodd Dorian gwblhau Cynllun Datblygu Personol (PDP) sydd wedi ei helpu i flaenoriaethu meysydd gwybodaeth yr oedd eisiau eu gwella.  

“Doeddwn i erioed wedi meddwl fy mod yn wych gyda chyfrifiaduron, ond roeddwn i’n ei gweld hi’n hawdd mynd trwy’r broses mewngofnodi angenrheidiol ac roedd y PDP yn ffordd wych o ganfod pa hyfforddiant fyddai o’r budd mwyaf i mi a’r busnes.”

Penderfynodd Dorian fod modiwlau hyfforddiant rhyngweithiol ar-lein Cyswllt Ffermio, sy’n cael eu darparu mewn gwersi byr o 15 i 20 munud ar ei gyfrifiadur, yn ddelfrydol ar gyfer asesu ei wybodaeth ei hun pryd bynnag a ble bynnag fyddai’n gyfleus gyda bywyd ar y fferm. 

Cwblhaodd fodiwl e-ddysgu rheoli llyngyr yr iau yn gyntaf, a dywedodd ei fod bellach yn dosio’r ddiadell yn well trwy ddefnyddio’r driniaeth gywir ar yr adeg gywir a fydd yn arbed arian iddo yn y tymor hir. 

Nesaf, gweithiodd ei ffordd drwy fodiwlau ar reoli ysgall, rheoli brwyn ac iechyd a diogelwch ar y fferm, ac arweiniodd hyn at fireinio systemau ac arferion dyddiol. 

“Rwy’n teimlo mai un o’r manteision mwyaf o e-ddysgu yw bod y modiwlau yn hawdd i’w dilyn, yn cael eu cyflwyno ar lefel addas ac mae pob un yn rhoi cyfle i chi asesu’r hyn rydych chi’n ei wybod trwy gwis byr.

“Does dim pwysau, rydych chi’n datblygu yn eich amser eich hun ac os ydych chi’n meddwl y gallwch wneud yn well, gallwch fynd yn ôl drwyddo eto. Gan fy mod yn teimlo fod gen i’r wybodaeth sylfaenol, mae gen i’r hyder i roi’r hyn rydw i wedi ei ddysgu ar waith a thrafod fy nghynlluniau gyda ffermwyr eraill.”

Mae modiwlau e-ddysgu Cyswllt Ffermio yn cael eu categoreiddio o dan benawdau iechyd a lles da byw;  porthiant a bwydydd; coedwigaeth a garddwriaeth a rheolaeth. Mae pob cwrs sy’n cael ei gwblhau yn cael ei ychwanegu’n awtomatig i’ch cofnod Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD) personol.  Mae’r cofnod gweithgarwch hwn sydd ar gael ar wefan BOSS Busnes Cymru yn cael ei gwblhau ar eich cyfer.

Er mwyn cael mynediad at e-ddysgu bydd yn rhaid i chi gofrestru gyda Cyswllt Ffermio. Bydd angen i chi wedyn fewngofnodi a chofrestru i wefan BOSS gan ddefnyddio’r un e-bost a ddefnyddioch i gofrestru gyda Cyswllt Ffermio.  https://businesswales.gov.wales/boss

Mae rhestr o’r holl gyrsiau rhyngweithiol  ar gael ar wefan BOSS ynghyd â’ch Cynllun Datblygu Personol, y ffurflen gais am gyllid a’ch cofnod CPD chi.   Am ragflas o gwrs e-ddysgu yn ymwneud â Glaswelltau Llawn Siwgr Cyswllt Ffermio ewch i.

Gwybodaeth gefndirol:


Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Darperir Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth Cyswllt Ffermio a'r Gwasanaeth Cynghori gan Menter a Busnes ar ran Llywodraeth Cymru. Mae Lantra Cymru yn arwain ar ddarparu Rhaglen Ddysgu a Datblygu Cydol Oes Cyswllt Ffermio.