Kyle Holford and Lauren Forest Coalpit Farm Brecon Beacons

Os ydych yn ffermwr moch, yn wenynwr, neu’n dyddynwr sy’n rhedeg menter arddwriaethol neu unrhyw fenter arbenigol arall ar dyddyn, dylech ymweld â Cyswllt Ffermio yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad Sioe Frenhinol Cymru (Llanelwedd, May 18 ac 19).

Os ydych wedi hen sefydlu neu’n dechrau arni, gall Cyswllt Ffermio gynnig y lefel briodol o gymorth, cyfarwyddyd a hyfforddiant i’ch helpu i ddatblygu eich menter, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â nhw yn yr ŵyl eleni.

Bydd Cyswllt Ffermio’n cynnal cyfres o sesiynau galw heibio am hanner awr yng Nghornel y Siaradwr yn Neuadd De Morgannwg drwy gydol yr ŵyl ddeuddydd ar bynciau’n amrywio o iechyd y pridd i barasitiaid mewn defaid ac o ffermio cyfran i gyngor i dyddynwyr ‘newydd’ sydd eisiau cyngor ynglŷn ag ennill bywoliaeth ar ddeg erw!

Bydd ffermwyr moch yn anelu’n syth am yr Adran Foch. Mae Cyswllt Ffermio, ar y cyd â Hybu Cig Cymru a Menter Moch Cymru (cynllun sy’n cael ei ariannu gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020) wedi gwahodd pedwar o arbenigwyr uchel eu parch i roi cyfres o gyflwyniadau bob dydd ac arddangosiadau ymarferol.

Targedir sbectrwm eang o ffermwyr moch o’r rhai sy’n newydd yn y sector i rai mwy profiadol, dyma eich cyfle i ddarganfod beth i chwilio amdano wrth brynu perchyll; sut i gadw eich moch yn iach; rheolaeth tir a marchnata. Bob dydd bydd cynhyrchwyr moch sydd wedi ennill gwobrau’n rhannu eu profiadau personol wrth ddechrau arni a sut maent wedi datblygu.

Cewch hanes Ruth ac Andrew Davies, cynhyrchwyr porc o Gwm Farm Charcuterie ger Pontardawe, a brynodd eu tyddyn yn 2010, gan ddechrau gyda dim ond dwy hesbinwch feichiog ond sydd bellach yn cadw cenfaint o foch Saddleback a Gloucestershire Old Spot. Maent yn enwog am eu cynnyrch arobryn - salami sbeislyd a chigoedd wedi’u halltu. Hefyd bydd Kyle Holford, enillydd gwobr Great Taste Fferm Forest Coalpit ym Mannau Brycheiniog, sy’n gwerthu ei borc arbenigol o Foch Du Mawr a Dwroc wedi’u croesi, i brif gogyddion a chigyddion Llundain, yn rhannu ei gynghorion ynglŷn â magu moch yn llwyddiannus.

Mae’r ffenestr ymgeisio ar gyfer hyfforddiant Sgiliau a Hyfforddiant Cyswllt Ffermio ar agor tan 5pm ar 28 Mehefin, felly os oes gennych ddiddordeb mewn cael hyfforddiant i helpu i wella’ch sgiliau a’ch gwybodaeth, galwch heibio i Adeilad Lantra (Rhodfa K) i weld beth allwch chi ei ddysgu i wneud eich busnes yn fwy cynaliadwy a chynhyrchiol.

Mae cymhorthdal o hyd at 80% ar gael ar gyfer hyfforddiant gwella busnes a hyfforddiant technegol, ac mae cymhorthdal o hyd at 40% ar gael ar gyfer hyfforddiant yn ymwneud â pheiriannau ac offer. Hefyd, mae hyfforddiant newydd ar iechyd a lles anifeiliaid, sgiliau TG a’r holl fodiwlau e-ddysgu wedi’u hariannu’n llawn.

Bydd Lantra hefyd yn hybu negeseuon pwysig ar ran Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru. Bydd ymwelwyr yn cael eu hannog i gymryd taflenni gwybodaeth am ddim yn cynnwys ‘Gweithio gyda’n gilydd i wneud ffermio’n fwy diogel – cynghorion ynglŷn â diogelwch fferm’ a ‘Sut olwg sydd ar fferm dda’ gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, a chânt eu hannog hefyd i wneud cais am hyfforddiant yn ymwneud â diogelwch fferm.

Gyda thîm o staff Cyswllt Ffermio wrth law ym mhob un o’r tri lleoliad i hybu holl elfennau rhaglen Cyswllt Ffermio, mae’n gyfle rhy dda i’w fethu – galwch heibio i gael gair, cewch wybod sut i fanteisio ar yr holl gymorth a gwasanaethau sydd ar gael – ac os nad ydych wedi cofrestru’n barod, neu wedi cwblhau eich Cynllun Datblygu Personol – a allai ddatgloi’r allwedd i lwyddiant yn y dyfodol – byddan nhw’n sicrhau hynny hefyd!

Yn ogystal â staff Cyswllt Ffermio, bydd aelodau o Dîm Cysylltwyr Fferm hefyd ar gael i gynnig cyngor am ddim ar bolisïau a grantiau Llywodraeth Cymru.

Caiff Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Fenter a Busnes a Lantra Cymru, ei ariannu gan Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

I gael amseroedd/lleoliadau a mwy o wybodaeth am siaradwyr, pynciau a chyfleoedd hyfforddi drwy gydol yr ŵyl ddeuddydd, ewch i https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy neu ffoniwch Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813.