Os ydych yn ffermio naill ai moch, dofednod neu’r ddau, fyddwch chi ddim eisiau colli’r cyfle unigryw i wrando ar rai o arbenigwyr blaenllaw'r DU yn y ddau sector yma sy’n ehangu’n gyflym a darganfod pa gymorth sydd ar gael i chi.

Mae Cyswllt Ffermio, gan weithio ar y cyd â Menter Moch Cymru (cynllun sy’n cael ei ariannu gan Gymunedau Gwledig - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020) wedi trefnu digwyddiad undydd ‘Moch a Dofednod’ sector-benodol cyntaf erioed Cymru. Cynhelir y digwyddiad, sydd wedi’i ariannu’n llawn, ddydd Iau 13 Mehefin ym Marchad Da Byw Y Trallwng, Buttington Cross, Y Trallwng SY21 8SR.

Bydd y diwrnod yn cael ei rannu’n ddau hanner, cyn ac ar ôl cinio, gan roi dewis i fynychwyr fod yn bresennol naill ai am ddiwrnod llawn neu hanner diwrnod. Bydd cofrestru yn dechrau am 9.30am yn y bore ac am 12.30pm yn y prynhawn. Bydd y diwrnod yn gorffen tua 5pm. 

Dysgwch beth mae rhai o brif gynhyrchwyr moch a dofednod yn ei wneud yn iawn i sicrhau bod eu cynnyrch llwyddiannus nid yn unig yn dod i frig y dosbarth ond i frig rhestrau siopa nifer o gogyddion blaenllaw oherwydd blas, tarddiad, lles a chynaliadwyedd. 

Dysgwch beth sydd gan Nathan Ward, cyfarwyddwr ar gyfer cig, pysgod a dofednod i Kantar, cwmni blaenllaw sy’n ymchwilio i’r farchnad ac i wybodaeth am ddefnyddwyr, i’w ddweud am dueddiadau siopwyr a defnyddwyr yn y farchnad ar hyn o bryd: beth mae pobl yn ei brynu, lle maent yn siopa a beth sy’n ysgogi pobl i fwyta’r cynnyrch yma. Bydd Nathan yn rhoi cyflwyniad yn y bore a’r prynhawn. 

Un o siaradwyr y bore fydd Ian Jones o Filfeddygon Hafren, milfeddyg adnabyddus o Sir Drefaldwyn sy’n arbenigwr dofednod. Mae Ian, a enillodd radd yng Nghaergrawnt, yn gofalu am filiynau o ieir dodwy, miliynau o adar hela a nifer sylweddol o gywion brwylio. Ef hefyd yw cynrychiolydd Cymru ar Gymdeithas Cynhyrchwyr Wyau Maes Prydain (BFREPA).

Yn ymuno ag Ian bydd David Hodson o Rosehill Agricultural Trading, cwmni teuluol o Swydd Amwythig sydd wedi gweithio o fewn y diwydiant dofednod ers y 1970au, gan gynnig cymorth technegol a hyfforddiant ar bob agwedd o frechu a thriniaethau ar gyfer dofednod. Hefyd bydd Osian Williams, cynhyrchwr wyau, yn rhannu ei brofiad o weithio gyda Cyswllt Ffermio ar brosiect i wella lles a chynhyrchiant ei haid. 

Yn y prynhawn, bydd Mark Hayward, cyd-berchennog Dingley Dell Pork yn rhannu ei wybodaeth am y diwydiant a’i brofiad o gynhyrchu porc llwyddiannus o’i genfaint o 900 o hychod Red Duroc a gedwir allan yn Suffolk, ac a werthir i Michel Roux a Grŵp Gordon Ramsay.
Bydd Rhodri Owen, rheolwr fferm yng Ngholeg Glynllifon yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am dreialon, newidiadau a’r hyn a ddysgwyd ers i’r uned ‘porchell i besgi’ arloesol a thechnegol agor yn 2016; a bydd Mark Sloyan, cyfarwyddwr sector porc Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB), sydd wedi ymddeol yn ddiweddar, yn rhoi trosolwg o’r rhagolygon ar gyfer y diwydiant moch, ‘Paratoi ar gyfer y Ffordd Ymlaen’.

Nododd Dewi Hughes, rheolwr technegol gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru fod y digwyddiad, y cyntaf o’i fath yng Nghymru, yn adlewyrchiad o’r angen i gynnig cymorth ac arweiniad i’r ddau sector yma sy’n tyfu. Mae nifer o gynhyrchwyr Cymru eisoes ar y blaen, wrth i brynwyr y DU – gan gynnwys nifer o gwsmeriaid manwerthu a gwasanaethau bwyd adnabyddus – heidio i gatiau eu fferm. 

“Mae'n bosib mai’r sector dofednod yw un o lwyddiannau mwyaf Cymru yn y blynyddoedd diwethaf, gyda nifer o ffermydd yn arallgyfeirio i redeg unedau cywennod, ieir dodwy, cywion brwylio a ffesantod llwyddiannus ochr yn ochr â mentrau cig coch, llaeth ac âr,” meddai Mr. Hughes.

“Mae nifer o gynhyrchwyr dofednod yn rheoli ar y cyd boblogaeth o tua 8.5 miliwn o adar yng Nghymru ac ar hyn o bryd mae mwy na 1,300 o gynhyrchwyr porc cofrestredig. 

“Mae’r sector moch yn cael cymorth sylweddol drwy Menter Moch Cymru, a sefydlwyd yn ffurfiol y llynedd mewn ymateb i'r galw cynyddol am wasanaethau ar gyfer y sector yma.

“Mae Cyswllt Ffermio yn arbennig o falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â nhw nid yn unig ar gyfer y digwyddiad yma, ond gyda mentrau eraill sy’n cynnig cymorth, arweiniad a hyfforddiant i gynhyrchwyr moch,” meddai Mr. Hughes.

Hefyd bydd y digwyddiad yn lansio rhaglen grant newydd ‘Iechyd y Genfaint’ a weinyddir gan Menter Moch Cymru, fydd yn cynnig nawdd o 80% i ffermwyr moch Cymru hyd at uchafswm o £300 yn y flwyddyn gyntaf a chymorth ariannol pellach am hyd at dair blynedd wedi hynny i’w helpu i wella cynhyrchiant a phroffidioldeb.

Rhaid neilltuo lle ymlaen llaw. Ffoniwch Canolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000813. Neu gallwch neilltuo lle ar-lein ar: https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy

 

Datblygu'r Sector Moch yng Nghymru

 

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru ac fe’i hariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae Cyswllt Ffermio a Menter Moch Cymru (menter sy’n cael ei hariannu gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020) yn cael eu hariannu gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.