Mae degfed cylch Glastir - Creu Coetir yn dechrau heddiw, 16 Tachwedd, gyda chynnydd o £9 miliwn yn y gyllideb. Mae’r cynllun yn darparu cyllid ar gyfer rheolwyr tir a busnesau ffermio sy’n dymuno creu coetiroedd newydd. Dyma’r gyllideb ddiweddaraf hyd yma ar gyfer Glastir - Creu Coetir.
Mae’n rhaid i Ddatganiadau o Ddiddordeb gael eu cyflwyno gan Gynllunydd Coetiroedd Glastir Cofrestredig. Mae’r datganiadau o ddiddordeb sy’n cael eu dewis ar gyfer y broses ymgeisio yn cael cynnig contract ar yr amod y bydd taliad ond yn cael ei wneud unwaith y bydd cynllun creu coetir sydd wedi ei ddilysu gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu hawlio yn ystod 2022/2023.
Mae datganiadau diddordeb Glastir - Creu Coetir yn cau ganol nos ar 15 Ionawr 2021.