Mesur 4.1
Nod y cyfnod hwn ar gyfer datgan diddordeb yw helpu ffermwyr yng Nghymru i wella perfformiad economaidd ac amgylcheddol eu daliadau amaethyddol.
Amserlenni
1. Bydd y cyfnod Datgan Diddordeb ar gyfer y Grant Busnes i Ffermydd (FBG) yn cychwyn ar 2 Mawrth 2020
2. Y dyddiad olaf ar gyfer derbyn ceisiadau fydd 10 Ebrill 2020
3. Gallai Datganiadau o Ddiddordeb gael eu cyflwyno ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod Datgan Diddordeb.
Y cyllid sydd ar gael
4. Mae cyllideb o £1.5 miliwn ar gyfer y cyfnod datgan diddordeb hwn yn y Grant Busnes i Ffermydd.
Cymhwystra
5. Ni chaiff eich Datganiad o Ddiddordeb ond ei ystyried fel datganiad cymwys os bydd aelodau’r busnes sy’n cyflwyno’r datganiad wedi mynychu digwyddiad Ffermio i’r Dyfodol gan Croeso Cymru. (https://wales.business-events.org.uk/cy/digwyddiadau/digwyddiad-ffermio-ar-gyfer-y-dyfodol/)
6. Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n mynychu fod wedi cofrestru â Cyswllt Ffermio a Taliadau Gwledig Cymru, ac mae’n rhaid iddynt nodi’r Rhif Cwsmer (CRN) ar gyfer eu busnes a fydd yn destun i’r cais.
8. Y grant lleiaf sydd ar gael yw £3,000
9. Y grant mwyaf sydd ar gael yw £12,000
Gall ymgeiswyr gyflwyno cwestiynau ynghylch eu Datganiad o Ddiddordeb a’r broses gan ddefnyddio eu cyfrif RPW Ar-lein.
Manylion ar sut i wneud cais yma: https://llyw.cymru/grant-busnes-i-ffermydd-gan-ddefnyddio-rpw-ar-lein-i-wneud-cais?_ga=2.123945219.840929929.1583136333-413311742.1543317556