trên tir

Bydd ymwelwyr â Gŵyl Caergybi rhwng 25 a 28 Gorffennaf yn gweld math newydd o gludiant, sef y Landy Flyer.

Bydd y Landy, prosiect Menter Môn, yn rhedeg yn ddyddiol yn ystod yr ŵyl rhwng 10.00am a 4.00pm gan gychwyn o'r Amgueddfa Forwrol ar draeth y Newry. Yna bydd yn dychwelyd i'r Amgueddfa, ac yn parhau trwy ganol y dref heibio Eglwys Sant Cybi ac yn ôl i’r Newry.

Diolch i raglen LEADER, mae menter gymdeithasol Ynys Môn, Menter Môn, yn treialu'r digwyddiad unigryw hwn i archwilio ffyrdd o gysylltu atyniadau a busnesau yng Nghaergybi gyda'r bwriad o arddangos yr hyn sydd gan Ynys Cybi i'w gynnig.

Gan ddymuno’n dda i’r prosiect, dywedodd Albert Owen, AS Ynys Môn:

“Pob lwc i bawb sy'n ymwneud â thrên tir Land Rover. Edrychaf ymlaen at ei weld yn ymddangos am y tro cyntaf dros benwythnos Gŵyl Caergybi. Bydd yn ffordd ragorol o ddangos atyniadau gwych Ynys Cybi, gan fynd heibio'r gaer furiog Rufeinig hanesyddol yn Eglwys Sant Cybi, yr Amgueddfa Forwrol ar Draeth y Newry ac yn olaf, golygfa o forglawdd hiraf Prydain a Threftadaeth Ddiwydiannol Caergybi, wrth i’r trên gyrraedd Parc Gwledig y Morglawdd. ”

Ychwanegodd Alun Roberts o Fforwm Busnes Caergybi:

“Rwy'n croesawu'r fenter hon gan ei bod yn rhoi cyfle i bobl leol ac ymwelwyr brofi gwir natur Caergybi. Mae cymaint i'w weld a'i wneud yn yr ardal ac mae'r Landy Flyer yn ffordd wych i blant ac oedolion archwilio'r amgylchedd o amgylch yr atyniad unigryw hwn. ”

Dywedodd Trevor Lloyd Hughes, Cynghorydd Caergybi:

“Mae’r fenter Trên Tir yng Nghaergybi yn gyfle ardderchog i drigolion ac ymwelwyr weld gwahanol rannau o Gaergybi a'r ardal gyfagos. Os fydd y fenter hon yn ystod penwythnos yr Ŵyl a 4 diwrnod arall ym mis Awst yn llwyddiannus, gallai olygu Trên Tir parhaol yng Nghaergybi ac Ynys Môn. Gyda 40 o longau mordeithio yn dod i borthladd Caergybi, mae'n bwysig i'r dref ein bod yn ceisio cadw'r teithwyr yn ardal Caergybi. Rwy'n edrych ymlaen at weld y llwyddiant y fenter hon.”

Meddai Jackie Lewis o Fenter Môn:

“Mae'n bleser mawr bod yn rhan o'r peilot cyffrous hwn ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'r grŵp yng Nghaergybi ar bosibiliadau yn y dyfodol a datblygu'r prosiect ymhellach”

Fel prosiect LEADER, mae wedi derbyn cyllid gan Raglen Datblygu Gwledig - Cymunedau Gwledig 2014 - 2020 Llywodraeth Cymru, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Mae'r prosiect hefyd wedi derbyn cyllid gan Gronfa Elusennol Ynys Môn.