Hugh Martineau and Richard Roderick

I Hugh a Sally Martineau, roedd ffermio ar lannau Llyn Syfaddan ger Aberhonddu yn gyfle yr oeddent wedi ei ystyried ers tro.

Ond, fel newydd-ddyfodiaid i fyd ffermio, roeddent mewn perygl o neidio ar eu pennau i’r system anghywir heb gyfarwyddyd gan fentor Cyswllt Ffermio. 

Roedd y cwpl wedi ystyried nifer o systemau ffermio a allai fod yn addas i’r tir oedd wedi bod ym meddiant teulu Sally ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg - bîff magu, defaid, ceirw hyd yn oed.

Cyn dewis menter addas iddyn nhw a’r fferm, roedd yn rhaid i Hugh feddwl yn gyntaf am reoli porfeydd yng nghyswllt y potensial stocio ac ystyriaethau amgylcheddol.

Daeth y Mentor Cyswllt Ffermio, Richard Roderick i’r adwy, cymydog agos a ffermwr llwyddiannus â degawdau o brofiad o redeg busnes amaethyddol.

Ag yntau yn gymwys i gael ei fentora, roedd gan Hugh hawl i 22.5 awr o wasanaethau mentora wedi eu hariannu yn llawn a dewisodd Richard i fod yn fentor iddo.

Roedd hynny yn 2017, yn ystod y ddwy flynedd yn y cyfamser, mae’r paru wedi gadael i Hugh werthuso a herio ei syniadau am pa system ffermio fyddai’n gweithio orau.

Gyda’i gilydd bu Hugh a Richard yn trafod y dewis o fentrau, gan gynnwys rhedeg diadell o ddefaid Romney, a buont yn ymweld â ffermydd â systemau allai weithio i Hugh, oedd am gael cydbwysedd rhwng ffermio a’i waith fel ymgynghorydd amaethyddol a’i deulu ifanc.

Cafodd Richard gyfoeth o brofiad fel Ffermwr Arddangos Cyswllt Ffermio a thrwy Raglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio, cynllun a roddodd gyfle iddo ymchwilio i’r defnydd mwyaf posibl o borthiant i gynhyrchu buchod magu.

Gweithredodd y pâr gamau ymarferol hefyd, gan gynnwys sicrhau contract rheoli tir amgylcheddol trwy Gynllun Glastir Uwch.

Gan ei fod yntau yn ffermwr Glastir, gallai Richard gyfeirio Hugh at y dewisiadau mwyaf perthnasol i’w dir, fel defnyddio cnydau gwraidd fel cyfrwng i ail-hadu. Bydd Hugh yn tyfu pedair hectar yn flynyddol am y pum mlynedd nesaf.

Rhoddodd Richard gyngor i Hugh hefyd ar y gefnogaeth i reoli maetholion sydd ar gael trwy Cyswllt Ffermio a, thrwy drafodaeth â swyddog datblygu Cyswllt Ffermio yn Sir Frycheiniog, Nerys Hammond, sefydlwyd Grŵp Rheoli Maetholion Llan-gors. Fel aelod o’r grŵp hwnnw, sicrhaodd Hugh Gynllun Rheoli Maetholion wedi ei ariannu yn llawn. 

Trwy estyn allan at rywun y mae yn edmygu ei sgiliau ffermio a busnes a datblygu syniadau newydd, dywed Hugh y gallai wneud rhai penderfyniadau pwysig.

Mewn cyfnod ansicr, mae’n parhau i asesu buddsoddiadau posibl mewn da byw. Er mwyn bodloni gofynion rheoli Glastir, mae’n dod ag anifeiliaid i mewn ar gytundebau pori tymor byr ac yn gwerthu unrhyw borthiant dros ben gan fabwysiadu’r strategaethau gwella glaswelltir a’r rheolaeth amgylcheddol well y bu’n eu trafod gyda Richard.

Dywed Hugh mai ei weledigaeth ar gyfer y busnes ffermio yw creu system sy’n addas i’r amgylchedd ar ei fferm, sydd mewn Parth Perygl Nitradau (NVZ).

“Mae’n benderfyniad cywir gweld sut y mae polisi amaethyddol a gofynion y farchnad yn datblygu cyn gwneud penderfyniadau terfynol ar y gymysgedd yn y fenter,” meddai Hugh.

“Yn y cyfamser rydym yn cael y fferm i’r drefn iawn i gadw defaid a gwartheg yma yn y dyfodol.”

Mae arallgyfeirio o ran twristiaeth hefyd yn bosibilrwydd – gyda Richard bu’n archwilio cyfleoedd o ran y tir sy’n rhedeg i lawr at Lyn Syfaddan.

Dywed Hugh ei bod wedi bod yn fanteisiol cael Richard yn fentor, nid yn unig oherwydd ei arbenigedd technegol a’i brofiad, ond oherwydd ei wybodaeth leol hefyd.

“Mae Richard yn wrandäwr da ac mae wedi ein hannog i drafod ac ystyried,” ychwanegodd. “Mae gallu herio eich tybiaethau eich hun am yr hyn yr ydych ei eisiau yn hollol hanfodol i gael y budd gorau o fentoriaeth.”

Mae Richard wedi bod yn fentor i lawer o ffermwyr ac mae’n dweud ei bod o fudd i’r ddwy ochr. “Rydych yn dysgu oddi wrth y bobl yr ydych yn eu cyfarfod.”

Dywed ei fod wastad yn agored a didwyll am y camgymeriadau y mae wedi eu gwneud yn ei system ei hun, i atal y rhai y mae’n eu mentora rhag gwneud y camgymeriadau hynny.

Er bod y cyfnod mentora swyddogol wedi dod i ben, mae Richard a Hugh yn bwriadu cadw mewn cysylltiad clos.

“Rwy’n mwynhau rhannu fy mhrofiadau gyda ffermwyr eraill. Mae’n fraint mynd ar ffermydd eraill i wrando ar gynlluniau ar gyfer y dyfodol a’u trafod, mae’n wych gweld sut mae’r ffermwyr yr wyf wedi bod yn gweithio gyda nhw yn datblygu dros amser,” dywedodd Richard.

Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.