From me to you project

Mae Menter Môn yn falch o gyhoeddi arddangosfa gyntaf y prosiect Gen i Atoch Chi sy'n cynnwys ac yn coffáu John Cave a'i gasgliad arbennig iawn o arteffactau, papurau a phobl hanesyddol Caergybi ac Ynys Môn. Bydd yr arddangosfa i'w gweld yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi tan 2 Chwefror 2020.

Agorwyd yr arddangosfa ar ddydd Sadwrn 11 Ionawr, daeth dros 120 o bobl i'w gweld, a chafwyd areithiau gan Alan Williams, Maer Caergybi, Richard Burnell, Jackie Lewis o Menter Môn a Susan Prince, merch John a agorodd yr arddangosfa.  Cafwyd adloniant gan y Brodyr Magee a dangoswyd ffilm fer am y tro cyntaf. 

From me to you project

 

Rheolwyd yr arddangosfa gan Menter Môn a Dylan Parry Evans (Dyluniad) yn gweithio gyda grŵp Etifeddiaeth John Cave a Dr Marian Gwyn a chafwyd cyllid gan gronfa Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig gyda chyfraniad gan Gronfa Elusennol Ynys Môn.”   

Dywedodd Jackie Lewis o Menter Môn - Dros y 18 mis diwethaf, treuliwyd amser yn edrych ar ffyrdd i ddal a rhannu'r cyfoeth o bethau cofiadwy a gasglwyd gan gynifer o bobl, fel y gall eraill arddangos eu casgliadau yn y dyfodol. Bwriad y Brand Gen i Atoch Chi yw bod yn un ffordd o sicrhau bod ein gorffennol yn cael ei gofio a'i arddangos, ac rydym yn falch iawn mai casgliad John Cave yw'r arddangosfa gyntaf o lawer o'r prosiect Gen i Atoch Chi.
 

Exhibition

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â – jackie@mentermon.com – 01248 725716