logo

Mae Menter Moch Cymru (MMC) yn cynnig cyfle unigryw i gynhyrchwyr moch gymryd rhan mewn digwyddiad sydd ar flaen y gad o fewn y sector, ac i gael cipolwg gwerthfawr o’r farchnad fyd-eang a’r datblygiadau technolegol diweddaraf.

Yn ystod Taith Astudio 3 diwrnod MMC, bydd cynhyrchwyr yn cael cyfle heb ei debyg i weld datblygiadau arloesol o fewn y sector, dadansoddiad arbenigol rhyngwladol o brofiad personol, a thaith fferm wedi’i ‘ffrydio’n fyw dros y we’ o uned eneteg arbenigol sydd â chenfaint gnewyllyn.

Mae Taith Astudio MMC yn arbennig o addas ar gyfer cynhyrchwyr o unedau masnachol canolig i unedau mawr, ac yn canolbwyntio ar brif gynhadledd y diwydiant, sef Pigs Tomorrow.

Yn ystod cyfnod o ansicrwydd parhaus yn ymwneud â dyfodol allforio’r DU, bydd cynhyrchwyr yn clywed barn a chyngor amserol gan siaradwyr arbenigol o’r diwydiant moch byd-eang.

Bydd ystod o siaradwyr yn cyflwyno yn ystod y gynhadledd ryngwladol arloesol deuddydd ‘Pigs Tomorrow’ gan gynnwys y ffermwr o Ganada a sylfaenydd Peak Swine Genetics Inc, Jurgen Preugschas; Jack Keane, arbenigwr ar y sector moch yn Rwsia a’r UE; a phrif swyddog strategol AHDB, Tom Hind. www.pigstomorrow.com

Bydd cynhyrchwyr MMC hefyd yn cael diwrnod ychwanegol yn llawn gwybodaeth a gweithgareddau wedi’u teilwra i’w diddordebau.

Bydd y diwrnod, a drefnir gan MMC, yn dechrau gyda chyflwyniad gan John Millard. Gyda phrofiad o dros 60 mlynedd o fagu moch yn llwyddiannus, mae John ar flaen y gad o ran geneteg moch ac iechyd y genfaint, gan roi cyngor i fagwyr yn y DU ac yn rhyngwladol.

Bydd taith astudio MMC yn cloi gyda throsolwg unigryw o’r dechnoleg newydd a’r effeithlonrwydd a welir ar uned foch fawr a blaengar.

Mae Bridge House Farm (BHF) yn cadw 400 o hychod Duroc pur a 250 o hychod Yorkshire pur ac yn uned gnewyllyn ar gyfer y cwmni geneteg, Genesus, o Ganada.

Mae protocolau bioddiogelwch llym y fferm yn gwahardd ymwelwyr; felly mae MMC wedi trefnu i gynhyrchwyr gael ‘taith’ o’r fferm drwy ddolen fideo rhyngweithiol.

Bydd y daith, a ddarperir gan Charlie Thompson - milfeddyg cymwys ac aelod o’r teulu sy’n rhedeg BHF - yn dangos y dechnoleg arloesol a’r dulliau ffermio da byw manwl gywir a ddefnyddir ar yr uned.

Bydd y daith, sy’n cynnwys cymhorthdal sylweddol gan Menter Moch Cymru, yn costio cyfanswm o £150 y pen. Mae hynny’n cynnwys pecyn cynhadledd deuddydd (Cynhadledd Trosolwg ac Arloesedd Rhyngwladol), cinio mawreddog, rhaglen siaradwyr ar y trydydd diwrnod a llety am ddwy noson.

Bydd lleoedd yn cael eu cadarnhau ar ôl derbyn taliad. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael felly ymgeisiwch yn brydlon i gadw eich lle ac i osgoi cael eich siomi. Am ragor o fanylion neu i archebu eich lle, cysylltwch â Menter Moch Cymru ar mentermochcymru@menterabusnes.co.uk / 01248 660 082 / 07397 068739.