TCAA members Trevor Watson Catherine Nakielny Linda Tame Angie Hastilow and Kitty Merritt

Mae cymuned wledig yng Nghymru sy’n rhannu’r uchelgais o wella bioamrywiaeth ar dir sy’n berchen i’r gymuned a thir fferm lleol gam yn nes at sicrhau cyllid i gyflawni’r nod hwnnw.

Roedd Cymdeithas Amwynder Cymunedol Talyllychau (Talley Community Amenity Association (TCAA)) eisiau creu amodau i alluogi bywyd gwyllt a phlanhigion i ffynnu ar ddarn o dir 24 hectar sy’n berchen i bentref Talyllychau, ger Llandeilo.

Daeth y cyfle hwnnw drwy’r Cynllun Rheoli Cynaliadwy (SMS), sy’n cael ei weinyddu gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig. Mae’r SMS yn darparu cefnogaeth ariannol ar gyfer ystod o weithgareddau i reoli ein hadnoddau naturiol, ac wrth wneud hynny, i gyfrannu at lesiant ein cymunedau gwledig.

Byddai’r cynllun nid yn unig yn cyflawni’r uchelgais honno, ond byddai hefyd yn cynnig cyfle i gynnwys ffermwyr lleol mewn nifer o arferion rheoli tir yn gynaliadwy, megis gwella ansawdd dŵr a rheolaeth pridd ar 800 hectar o amgylch pentrefi Talyllychau a Chwmdu.

Mae’r prosiect, a elwir yn ‘Local LAND’, wedi llwyddo yn y cam Datganiad o Ddiddordeb ac mae’r grŵp bellach wedi ymgeisio ar gyfer grant o £522,653. Roedd prosiect ‘Local LAND’ yn un o naw prosiect a lwyddodd i sicrhau lle drwy’r rownd Datganiad o Ddiddordeb. 

Bu Catherine Nakielny, sy’n ffermio yn Nhalyllychau ac yn aelod o’r TCAA, yn helpu i gyflwyno’r prosiect, fel un o 15 hwylusydd SMS Cyswllt Ffermio yng Nghymru.

Roedd uchelgais y TCAA – y sefydliad arweiniol ar gyfer y cais SMS – yn gweddu’n berffaith gyda gofynion y cynllun, meddai.

“Roedd gwir awydd i ddatblygu’r tir cymunedol er budd y cymunedau lleol ac ehangach ac i gysylltu hynny gyda pherchnogaeth tir i ddarparu gwelliannau amgylcheddol megis gwella dargadwedd dŵr a rheoli coetiroedd,” eglurodd Dr Nakielny.

Dywed Linda Tame, tyddynwr a chadeirydd TCAA, fod y gymuned yn falch iawn bod y cais wedi bod yn llwyddiannus.

Roedd y cais yn ymdrin â chymaint o bethau, nid yn unig gwella rheolaeth cynefinoedd a bioddiogelwch, ond hefyd ar gyfer hybu iechyd, lles a chydlyniant cymunedol a chynyddu mynediad at weithgareddau hamdden yn yr awyr agored, yn ogystal â nifer o nodau eraill.

Bydd y prosiect yn mynd i’r afael â heriau lleol gan gynnwys ynysiad cymdeithasol, mynediad at addysg awyr agored ar gyfer ysgolion lleol a darparu cyfleusterau amwynder ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr.

Mae eisoes wedi dod â’r gymuned yn agosach at ei gilydd, meddai Angie Hastilow, trysorydd TCAA, o ganlyniad i weithgareddau ymgysylltu lleol, cyfleoedd gwirfoddoli a chreu tudalen Facebook cymunedol.

“Un o’r tasgau cyntaf fydd penodi dau aelod o staff rhan amser, a bydd gan un ohonynt gyfrifoldeb dros sicrhau ymgysylltiad y gymuned leol, gan gynnwys yr ysgol, gyda’r prosiect,” meddai Mrs Hastilow.

Bydd Talyllychau a Chwmdu yn cynnal diwrnod agored yn Nhalyllychau ar 24 Ebrill, gan ddechrau am 10.00am yng Ngwesty’r Plough, Rhosmaen, Llandeilo. Am ragor o fanylion ynglŷn â’r diwrnod agored, ewch  www.businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/digwyddiadau neu cysylltwch â Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813.

Bydd y pumed cyfnod ymgeisio er mwyn cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb ar gyfer y cynllun SMS ar agor rhwng 21 Mai a 6 Awst. Os oes gennych chi ddiddordeb gweithio gyda hwylusydd Cyswllt Ffermio, ewch i wefan Cyswllt Ffermio am ragor o fanylion.
 
Ariennir Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.