Consultation

Mae lansiad (28 Chwefror 2020) yr ymgynghoriad 12 wythnos 'Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru’ yn rhoi'r cyfle i bawb i benderfynu pa ddulliau fydd yn gweithio orau o ran sicrhau twf a chynwysoldeb ym mhob rhan o Gymru.

Gwnaeth cynigion yr ymgynghoriad osod ar waith fframwaith mwy syml a hyblyg a oedd yn canolbwyntio ar bedwar maes buddsoddi cyffredinol sy'n cwmpasu cynhyrchiant busnes, cymunedau iachach a mwy cynaliadwy, yr economi di-garbon, a lleihau anghydraddoldebau incwm i bobl.  Mae'r cynigion hefyd yn cynnwys rhoi mwy o bwerau dirprwyo a phenderfyniadau i ranbarthau ac ardaloedd lleol a’r pwysigrwydd o weithio trawsffiniol a rhyngwladol yn ein buddsoddiadau yn y dyfodol. 
 
Rydym yn awyddus i glywed eich barn ar y cynigion a amlinellir yn y ddogfen ymgynghori.  I gefnogi hyn, rydym yn cynnal pedwar digwyddiad ymgysylltu ledled Cymru, a byddem yn falch iawn pe gallech ymuno â ni yn un o'r rhain:

  • 20 Mawrth Canolfan Gynadledda Glasdir, Llanrwst
  • 25 Mawrth Stadiwm Liberty, Abertawe
  • 31 Mawrth-Canolfan Gynadledda Ryngwladol, Casnewydd
  • 2 Ebrill Gwesty'r Metropole, Llandrindod

Bydd Huw Irranca-Davies AC, Cadeirydd y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru, yn traddodi un o'r prif anerchiadau ym mhob digwyddiad.  Bydd pob digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau gan swyddogion Llywodraeth Cymru, ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer trafodaeth ac adborth ar gynigion yr ymgynghoriad drwy sesiynau gweithdy.

I gofrestru eich lle yn un o'r digwyddiadau, dewiswch y ddolen gyswllt ar gyfer y lleoliad yr hoffech fynd iddi:

Rydym yn gwerthfawrogi na fydd pob sefydliad neu unigolyn yn gallu mynychu’r un o’r digwyddiadau yma, ond efallai y bydd gennych farn ar gynigion yr ymgynghoriad, a hoffem eu clywed.  Gallwch ddarparu barn ac adborth ar yr ymgynghoriad drwy ymateb i gyfres o gwestiynau a restrir yn y ddolen ganlynol ar wefan Llywodraeth Cymru: https://gov.wales/Framework-for-Regional-investment-in-Wales.  Dyddiad cau'r ymgynghoriad yw 22 Mai.

Rydym hefyd yn croesawu gwahoddiadau i drafod yr ymgynghoriad mewn digwyddiadau a drefnir gan y sefydliad, grŵp neu sector yr ydych yn eu cynrychioli. Gofynnir i chi gyflwyno eich cais i: RegionalInvestmentInWales@gov.cymru