Mae siopwyr yn cael eu hannog i gefnogi gweithwyr allweddol yng Nghymru drwy gymryd rhan mewn ymgyrch ar-lein newydd o’r enw #CaruCymruCaruBlas.

Nod yr ymgyrch yw annog pobl i barhau i gefnogi cynhyrchwyr a manwerthwyr Cymru drwy brynu cynhyrchion bwyd a diod o Gymru – naill ai yn y siopau neu ar-lein.     

Bydd yn cael ei lansio ar 3 Gorffennaf gyda diwrnod o ddathlu bwyd a diod o Gymru, gan roi cyfle i bobl ddweud diolch i’r rhai sy’n gweithio dydd a nos i fwydo ein cenedl yn ystod yr argyfwng coronafeirws. Mae dau ddiwrnod arall o ddathlu bwyd a diod Cymru wedi eu cynllunio ar gyfer mis Awst a mis Medi.

Roedd y pandemig yn ergyd drom i gynhyrchwyr, manwerthwyr a’r sector lletygarwch, ac yn anffodus roedd rhaid i lawer o fusnesau gau ar unwaith. Ond mae llawer o fusnesau wedi dangos dyfeisgarwch a’r gallu i addasu, ac wedi parhau i gynhyrchu a darparu nwyddau o dan amgylchiadau hynod anodd.

Mae #CaruCymruCaruBlas yn ymgyrch Llywodraeth Cymru sy’n gweithio mewn partneriaeth â Menter a Busnes.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Economi, Ynni a Materion Gwledig:

Rydyn ni wedi gweld ac wedi clywed am y llawer o enghreifftiau gwych lle mae unigolion a busnesau wedi mynd i’r afael â’r heriau mae COVID-19 wedi eu peri.

Nawr hoffen ni ddweud yn gyhoeddus pa mor ddiolchgar rydyn ni i’r holl weithwyr yn ein diwydiant bwyd a diod. Maen nhw wedi parhau i gynhyrchu bwyd gwych ac wedi parhau i fwydo ein cenedl drwy’r cyfnod hwn na welwyd mo’i debyg o’r blaen.

Mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn cefnogi busnesau bwyd a diod Cymru. Dyma pam rydyn ni’n lansio’r ymgyrch #CaruCymruCaruBlas i annog cwsmeriaid i barhau i gefnogi ein cynhyrchwyr a’n manwerthwyr drwy brynu bwyd lleol uchel ei ansawdd o Gymru.

Mae cynhyrchwyr a manwerthwyr wedi bod yn lawrlwytho pecynnau digidol #CaruCymruCaruBlas yn barod ar gyfer lansio’r ymgyrch y mis nesaf.

Mae ymgyrch #CaruCymruCaruBlas yn dod ar ôl y map cynhyrchwyr llwyddiannus a gafodd ei greu gan Cywain – rhaglen wedi’i neilltuo i ddatblygu busnesau micro, bychan a chanolig newydd, yn ogystal â busnesau sydd eisoes yn bodoli, yn sector bwyd a diod Cymru.

Mae’n hawdd dod o hyd i gynhyrchion bwyd a diod o Gymru i’w prynu. Mae tua 3,700 o wahanol gynhyrchion i’w gweld ar silffoedd manwerthwyr ledled Cymru, yn ogystal â llawer o frandiau i’w prynu ar-lein.

Drwy glicio ar fap Cywain #CefnogiLleolCefnogiCymru mae siopwyr yn cael eu cyfeirio at gannoedd o gynhyrchwyr a chynhyrchion bwyd a diod yng Nghymru  

https://menterabusnes.cymru/cywain/ein-cynhyrchwyr/ 

Rhagor o wybodaeth yma: https://businesswales.gov.wales/foodanddrink/cy/CaruCymruCaruBlas

 

Dywedodd Elen Llwyd Williams, Cyfarwyddwr Menter a Busnes:

Mae bellach gannoedd o gynhyrchwyr yng Nghymru yn gwerthu ar-lein ac yn cynnig opsiynau diogel ar gyfer cludo nwyddau i gwsmeriaid. 

Mae cwsmeriaid ledled Cymru wedi bod yn wych wrth gefnogi cynhyrchwyr lleol yn ystod y pandemig, ac mae angen i hyn barhau er mwyn sicrhau bod busnesau’n goroesi. 

Mae Cywain yn cefnogi nifer o fusnesau gyda’u presenoldeb ar-lein, ac yn sicrhau bod cynhyrchwyr a chynhyrchion yn cael eu hychwanegu at y map ar-lein yn rheolaidd.

Wrth siarad am y lansio #CaruCymruCaruBlas, dywedodd Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru:

Unwaith eto mae’r holl ddiwydiant bwyd a diod yng Nghymru wedi wynebu argyfwng mewn modd cadarn a chreadigol ac wedi dangos pa mor hanfodol ydyn nhw i economi’r DU yn ei chyfanrwydd. Mae COVID-19 wedi peri heriau i’r diwydiant, ond mae wedi rhoi cyfleoedd hefyd. Rydyn ni’n gwybod bod yr effeithiau ar rai busnesau wedi bod yn drwm, ond mae rhai wedi ffynnu.

Ein rôl ni ar y Bwrdd yw gweithio gyda Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r holl broblemau hyn, er mwyn sicrhau bod diwydiant Bwyd a Diod Cymru yn gallu parhau i dyfu. Rydyn ni’n gwybod bod y marchnadoedd wedi newid a bod cwsmeriaid yn fwy tebygol o siopa ar-lein; ond yn bwysicach byth, mae ganddyn nhw fwy o ddiddordeb yn y ffordd mae eu bwyd yn cael ei gyflenwi ac o lle mae’n dod, ac maen nhw’n fwy ymwybodol o gynhyrchion lleol.

Wrth inni lansio’r diwrnodau o ddathlu hyn, rhaid inni barhau i fod yn hyderus i dyfu a chanolbwyntio ar werth ychwanegol. Rydyn ni wedi gweld cynhyrchwyr yn arallgyfeirio, gan helpu’r GIG a bwydo’r genedl. Dylen ni barhau i ymfalchïo ym mwyd a diod Cymru wrth inni weithio gyda’n gilydd i adfer o’r argyfwng.