Cynhadledd 2021 Conference

Roedd naws ryngwladol yn perthyn i Gynhadledd Ffermio Cymru eleni, ac yn hytrach nag un diwrnod hir llawn digwyddiadau yng Nghanolbarth Cymru, cynhaliwyd y gynhadledd yn rhithiol dros gyfnod o bedwar diwrnod! Ond peidiwch â phoeni os gwnaethoch ei cholli, oherwydd mae’r cyfan ar gael ar-lein.

Oherwydd cyfyngiadau Covid 19, cyflwynwyd y rhaglen amrywiol yn ddigidol. Trafodwyd pynciau pwysig a dadleuol ar brydiau, gan gynnwys y cytundeb Brexit diweddar, gyda siaradwyr o Seland Newydd, Awstralia, Copenhagen, sawl rhan o’r Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon yn cymryd rhan.   

Yn ôl Einir Davies, rheolwr datblygu a mentora Cyswllt Ffermio, roedd y digwyddiad ar-lein cyntaf hwn yn llwyddiant ysgubol, ac roedd nifer y bobl wnaeth gymryd rhan yn llawer mwy na’r disgwyl.  

“Nifer cyfyngedig sy’n gallu dod i’r ganolfan lle rydyn ni’n cynnal y gynhadledd bob dwy flynedd fel arfer, ac roedden ni bob amser yn falch iawn i ddenu’r uchafswm o 150 o bobl. Ond eleni, diolch i dechnoleg fodern mae dros 1,200 o bobl wedi gwylio’r digwyddiadau ac mae hyn yn hollol wych.”

“Roedden ni wedi cynllunio rhaglen o ddigwyddiadau amrywiol. Gweithiodd y cyfan yn wych gan mai unwaith yn unig roedd angen i bob unigolyn gofrestru i wylio’r holl gyflwyniadau a’r pedwar sesiwn Holi ac Ateb ar-lein gyda’r nos, a hynny ar amser cyfleus o glydwch y cartref,” dywedodd Ms Davies.  

Ychwanegodd Ms Davies fod holl ddigwyddiadau’r gynhadledd wedi cael eu recordio ac mae’r cyfan bellach ar gael i’w gwylio drwy glicio yma.

Anne Villemois, newyddiadurwr bwyd ac amaeth o Denmarc, oedd yn cloi’r gynhadledd. Cyflwynodd sesiwn Holi ac Ateb yn fyw o’i chartref yn Copenhagen, ardal a arferai fod yn adnabyddus am becynnu cig. Erbyn hyn mae’n llawn pobl ffasiynol a nifer o dai bwyta llysieuol, a gofynnodd Anne i’r gynulleidfa a oedd hi’n bryd i ffermwyr osgoi defnyddio termau fel ‘lladd’ a ‘chigyddio’ da byw.  

“Canfyddiad yw popeth,” yn ôl Anne, ac roedd hi’n annog ei chynulleidfa i fod yn fwy tryloyw, i ystyried yn ofalus sut maen nhw’n cyfathrebu, ac i ddefnyddio terminoleg sy’n llai tebygol o elyniaethu cwsmeriaid.  Roedd Anne hefyd eisiau perswadio rhagor o ffermwyr i wahodd pobl o bob oed i’w ffermydd – i weld sut mae ffermwyr yn parchu eu da byw, y tir a’r amgylchedd ehangach. 

“Peidiwch â chael eich dal yn y ddadl am feganiaeth a llysieuaeth, mynnwch mai chi sy’n iawn, gwrandewch ar yr hyn sydd ganddyn nhw i’w ddweud ond peidiwch ag ymateb oherwydd bydd hynny’n dilysu eu dadleuon."

“Er eu bod yn fwy llafar ac amlwg bellach, mae’r unigolion hyn yn y lleiafrif o hyd, felly dylai cyfathrebu’n ddeallus gyda’r ganran llawer mwy o ddefnyddwyr sydd eisiau bwyta cig fod yn flaenoriaeth i chi!” 

Cyflwynodd yr Athro Alice Stanton dystiolaeth a oedd yn dangos bod cig coch a chynnyrch llaeth yn fuddiol i iechyd. Dywedodd y dylai hyn annog ffermwyr i gymryd rhan yn y ddadl gan wybod fod ganddynt ffeithiau gwyddonol i gryfhau eu hymgyrch. 

Dywedodd yr Athro Stanton fod mwy na dau filiwn o bobl yn y byd yn gorfwyta a dros eu pwysau oherwydd eu bod yn bwyta deiet sy’n uchel mewn calorïau ac yn llawn siwgr a halen, ond yn ddiffygiol o ran fitaminau a mwynau hanfodol. Rhybuddiodd hefyd fod rhai o’n gwyddonwyr mwyaf blaenllaw yn pwyso ar ddefnyddwyr i newid eu harferion bwyta.  

“Maen nhw eisiau perswadio unigolion i ddyblu faint o ffrwythau, llysiau, codlysiau, cnau a hadau maen nhw’n eu bwyta, a haneru eu cymeriant cig a chynnyrch llaeth, ac mae hyn yn fater y dylai pob cynhyrchydd da byw gynllunio ar ei gyfer.” 

Trafodwyd pynciau eraill hefyd, fel iechyd, lles a chadw’n ddiogel mewn diwydiannau gwledig a siaradodd nifer o gynrychiolwyr o’r galon wrth rannu eu profiadau personol.   

Yn eu plith roedd y cyn-aelod o’r lluoedd arfog arbennig Ollie Ollerton, seren ‘Who Dares Wins’;  yr arbenigwr diogelwch ffermydd o Awstralia Alex Thomas, a apeliodd ar ffermwyr gwrywaidd i rannu eu pryderon gyda’u partneriaid – ‘Save a life, listen to your wife' –  ac Andy Fox, ffermwr bîff a defaid a fu’n annerch y gynhadledd ar oresgyn heriau o’i fferm bîff a defaid 1,600 acer yn Seland Newydd. 

Doedd dim llawer o amser ar ôl ar gyfer sesiwn Holi ac Ateb y tri ffermwr cenhedlaeth gyntaf, Rhun Williams, Matthew Jackson a Rhidian Glyn. Rhoddodd y tri gyngor gonest iawn ac ateb pob math o gwestiynau wrth iddynt esbonio sut maen nhw wedi dod yn ffermwyr llwyddiannus er nad oes ganddynt gefndir ffermio. 

“Mae holl ddigwyddiadau Cynhadledd Ffermio Cymru eleni ar gael ar-lein drwy wefan www.llyw.cymru/cyswlltffermio felly os gwnaethoch chi golli rhywbeth a allai effeithio arnoch chi a’ch busnes, gallwch wylio’r cyfan ar adeg cyfleus i chi, bydd yn werth chweil,” dywedodd Ms. Davies. 

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru a’i ariannu drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.