WLBP a EIDCymru

Mae Cyswllt Ffermio wedi trefnu dwy gweminar ar-lein wedi’u hariannu’n llawn a fydd yn annog ffermwyr llaeth, bîff, defaid a geifr ar draws Cymru i gadw eu holl gofnodion da byw ar-lein. Dysgwch sut i greu eich cyfrif, storio a diweddaru’r holl ddata hanfodol am eich stoc mewn un broses syml. Dewch i ddarganfod pam mae angen i chi roi’r papur a’r pensil henffasiwn i’r naill ochr a defnyddio’r dechnoleg ar-lein hon a fydd yn arbed amser i chi ac yn achosi llai o straen! 

Os nad ydych chi eisoes wedi newid eich arferion, bydd arbenigwyr o Gynhyrchwyr Cig Oen a Chig Defaid Cymru (WLBP) ac EIDCymru yn eich argyhoeddi’n fuan iawn mai nawr yw’r amser i gyflwyno a chynnal cofnodion rheoli anifeiliaid cywir a chyfoes ar-lein.  

Cyn gynted ag y byddwch yn dechrau defnyddio’r pecyn meddalwedd rheoli fferm, gallwch hefyd ddewis anfon eich holl gofnodion symud da byw yn awtomatig ac yn uniongyrchol i EIDCymru a BCMS. 

Llyr Lewis, cydlynydd cofnodion a safonau fferm WLBP, fydd yn arwain y gweminar ryngweithiol ‘Cofnodion Fferm Ar-lein a Chynllunio Iechyd Anifeiliaid’. Cynhelir y gweminar ar-lein am 6.30pm nos Lun, 9 Tachwedd a bydd yn para am tua awr. Dyma eich cyfle i glywed am ‘ap’ cofnodion fferm ar-lein WLBP, y gallwch ei ddefnyddio ar unrhyw ddyfais llaw electronig wrth i chi reoli eich stoc, neu ar gyfrifiadur. Bydd yn sicr o fudd i chi ac yn arbed amser i chi. 

Mae’r ‘ap’ yn cynnwys llyfr preiddiau defaid, cofrestr buchesi gwartheg a chofnod prynu meddyginiaeth a thriniaeth, sydd oll yn ofynion statudol. Mae’r ‘ap’ ar gael i holl aelodau WLBP, gan gynnwys cynhyrchwyr y cynllun bîff a chig oen (FAWL), cynlluniau llaeth a chynllun Organig Cymru.  

Gallwch anfon yr holl fanylion rydych yn eu cofnodi o ran symudiadau, genedigaethau a marwolaethau gwartheg yn awtomatig i BCMS.  Gallwch ddewis anfon manylion am symudiadau defaid a geifr i EIDCymru. 

Cynhelir gweminar ryngweithiol ar y testun ‘Defnyddio gwefan EIDCymru’ am 6pm nos Lun, 23 Tachwedd. Bydd y gweminar 45 munud o hyd yn cael ei harwain gan Jonathan Pryce a Shân Evans, arweinwyr tîm yn swyddfa EID Cymru. Byddant yn esbonio pam ddylai perchnogion defaid a geifr sy’n dal i ddibynnu ar drwyddedau papur ystyried creu eu cyfrif ar-lein personol ar wefan EIDCymru. 

EIDCymru yw enw system ar-lein olrhain defaid a geifr yng Nghymru, ac mae’n cynnig dull modern a chadarn o olrhain ac adrodd am symudiadau sy’n gallu ymateb yn gyflym ac yn effeithiol os bydd achosion o glefydau.

“Bydd y weminar hon yn esbonio manteision defnyddio gwefan EIDCymru ac yn egluro sut a ble i gofnodi symudiadau defaid a geifr, sut i dderbyn symudiadau a drefnir gan bobl eraill, fel marchnad da byw neu geidwad gwahanol a sut i ddefnyddio gwefan EIDCymru i gwblhau eich arolwg blynyddol,” dywedodd Mr. Pryce.

Ychwanegodd Mr Pryce y bydd y gweminar hefyd yn cynnig arweiniad ar sut i gofrestru gydag EIDCymru a chreu eich cyfrif ar-lein diogel. 

Gall pob ffermwr sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio archebu lle ar un o’r seminarau rhyngweithiol hyn neu’r ddwy. Rhaid archebu lle ymlaen llaw, cyn 9am ar ddiwrnod y gweminar.  Gallwch naill ai archebu ar-lein ar wefan www.llyw.cymru/cyswlltffermio neu gallwch ffonio’r Ganolfan Wasanaeth a fydd yn gwneud y trefniadau ar eich rhan. Byddwch yn derbyn cyswllt gweminar Zoom ar fore’r gweminar.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.