Emily Welch

Ym maes llethol a chystadleuol cneifio defaid, nid oes adran gystadlu benodol ar gyfer merched. Mae merched a dynion yn cystadlu yn erbyn a gyda'i gilydd.

Bydd cneifwyr benywaidd o Seland Newydd, sy’n cael gwared ar stereoteipiau a rhagfarn mewn maes sy’n draddodiadol gysylltiedig â dynion, yn cynnal dosbarthiadau cneifio ar gyfer cneifwyr ifanc y dyfodol mewn tri choleg amaethyddol yng Nghymru yn ystod mis Mehefin. Yn y dosbarthiadau hyn, bydd y merched ysbrydoledig yn arddangos eu sgiliau cneifio gwych. 

Os ydych yn gneifiwr neu’n unigolyn sydd eisiau cneifio, yn ferch neu’n fachgen, mae’r digwyddiad hwn ar eich cyfer chi.

Roedd y cneifwyr hyn yn serennu mewn ffilm o’r enw ‘She Shears’ y llynedd, sef ffilm oedd yn archwilio yr hyn sy’n cymell cneifwyr benywaidd i aberthu gymaint yn bersonol ac yn broffesiynol, er mwyn gwireddu eu breuddwyd i ennill cystadleuaeth The Golden Shears.

Mae Emily Welch a Jills Angus Burney (sydd hefyd yn fargyfreithiwr yn yr Uchel Lys) yn hynod adnabyddus ym maes cneifio, tra bod y lleill yn brysur yn gadael eu marc o fewn y proffesiwn hefyd. 

Mae Emily Welch a Jills Angus Burney wedi cyflawni record y byd. Pan anogwyd Jills i roi gorau i gneifio gan ei orthopedydd pan oedd hi’n ei 50au, daeth Jills o hyd i’w hail yrfa fel bargyfreithiwr a chyfreithiwr yn yr Uchel Lys, ond nid yw’n gallu cadw draw oddi wrth y Golden Shears, sef y gystadleuaeth cneifio uchaf yn y byd. 

Emily Welch yw un o gneifwyr benywaidd cyntaf a mwyaf llwyddiannus Seland Newydd, mae’n dal record y byd am gneifio 648 o ŵyn mewn naw awr (gan fynd tu hwnt i record 2007 Jills). Mae Emily yn fam i 3 o blant ac mae’n rhedeg ei busnes contractwyr cneifio ei hun hefyd, gan gydlynu shifftiau ar gyfer dwsinau o gneifwyr contract pob tymor.

Dychwelodd y cneifiwr a lapiwr gwlân o ganol Otago, Pagan Karauria, i gystadleuaeth y Golden Shears y llynedd ar ôl damwain car erchyll achosodd marwolaeth dau o’i ffrindiau yn ogystal ag anafiadau difrifol iddi hithau hefyd. Mae’n credu bod ei phenderfynoldeb yn deillio o oresgyn yr anafiadau mewnol ofnadwy a ddioddefodd hi yn y ddamwain. Mae hi nawr yn mentora merched ifanc eraill i fod yn gneifwyr llwyddiannus. 

Sêr y ffilm “She Shears” fydd prif siaradwyr digwyddiad Merched Mewn Amaeth Cyswllt Ffermio eleni hefyd a byddent yn adrodd eu hanes angerddol, pwrpasol llawn penderfynoldeb o fewn y digwyddiad yma hefyd. 

Os yw’r dosbarthiadau hyn o ddiddordeb i chi, dewch yn llu!

Mae archebu eich lle yn hanfodol a bydd lluniaeth ysgafn yn cael ei ddarparu hanner awr cyn y dosbarthiadau. Am ragor o wybodaeth neu i archebu eich lle, cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 0845 6000 813  neu ewch i’n gwefan: Cyswllt Ffermio.

Mae’r dyddiadau a’r lleoliadau fel a ganlyn:

Dyddiad Amser Lleoliad
18/06/19 13:00 – 15:00 Coleg Glynllifon, Ffordd Clynnog, Penygroes, Caernarfon LL54 5DU
18/06/19 19:00 – 21:00 Coleg Llysfasi, Rhuthun Road, Llysfasi, Rhuthun LL15 2LB
19/06/19 13:00 – 15:00 Coleg Y Dre Newydd, Fferm Fronlas Farm, Mochdre Road, Y Dre newydd, Powys SY16 4JA

 

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.