Mae tri diben i’r weledigaeth ar gyfer y prosiect: 1
- Adfer yr adeiladau ar gyfer defnydd masnachol a chymunedol, creu swyddi a chanolfan addysg
- Creu gofod cymunedol o gwmpas yr adeiladau gan gynnwys gorsaf newydd a chyfnewidfa amlfoddol a maes parcio
- Gosod cyfarpar cynhyrchu ynni gwyrdd gan gynnwys tyrbin pŵer trydan dŵr yn afon Ebwy i bweru’r adeiladau, a gwaith gwres o’r ddaear a fydd yn gwresogi’r adeiladau.
Mae’r cais hwn yn canolbwyntio ar y prosiect pŵer trydan dŵr, lle bydd cwlfert presennol afon Ebwy sy’n rhedeg trwy’r safle (y mae angen ei atgyweirio) yn cael ei symud ymaith neu ei uwchraddio, ac y bydd tyrbin dŵr pwysau isel yn cael ei osod ar ben deheuol y safle i gynhyrchu trydan ar gyfer adeiladau’r safle ac i’w allforio i’r grid. Hefyd bwriedir gosod gwaith gwres dŵr pwll ar y safle, gan ddefnyddio’r dŵr cynnes artesiaidd sy’n codi yn siafftiau’r hen bwll i ddarparu system gwresogi rhwydwaith i’r safle a’r adeiladau cyfagos.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£8,000
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Caerffili
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 4
- Mesur:
-
19.2
Cyswllt:
- Enw:
- Kevin Eadon-Davies
- Rhif Ffôn:
-
01443 838632
- Cyfeiriad e-bost:
- rdp@caerphilly.gov.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts