Dyddiad: Dydd Mawrth, 1 Rhagfyr 2020
Amser: 2-3pm
Wrth i 2020 ddirwyn i ben, mae cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru yn wynebu amodau anwadal oherwydd effeithiau cyfunol Covid-19, Ymadael yr UE a chyfnod masnachu Nadolig na ellir ei ragweld.
Ymunwch â Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru a Sgiliau Bwyd Cymru yn Ffair Aeaf rithiol Frenhinol Cymru eleni i glywed pa gymorth sydd ar gael i wella gwydnwch busnesau drwy reoli risgiau mewn
meysydd fel:
- Rheoli’r gadwyn gyflenwi
- Allforio i’r UE
- Masnach gydag Iwerddon drwy archfarchnadoedd
- Effeithiau tariffau
- Costau gweithredol
- Llif arian a chyfalaf gweithio
O dan gadeiryddiaeth Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, mae’r panelwyr yn cynnwys:
- David Morris, Dirprwy Bennaeth Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru
- Yr Athro David Lloyd, Cyfarwyddwr Canolfan Diwydiant Bwyd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
- Linda Grant, Cyfarwyddwr Gweithredol, BIC Innovation