Canolfan ymchwil, twf ac addysg ar Fferm Hardingsdown, Llangynydd yw Gower Flax CIC. Mae'n archwilio ffibrau naturiol a systemau tecstilau atgynhyrchiol i ddatblygu ffibrau sy'n fuddiol i'r hinsawdd.
Bydd Gower Flax yn darparu datrysiad sy'n seiliedig ar natur sy'n cael effaith ystyrlon ar les. Gweithio gyda natur i wella iechyd, cynnal a gwella bioamrywiaeth, lleihau ein hôl troed carbon a gwella'n gwybodaeth am ein hamgylchedd naturiol a'n dealltwriaeth ohono.
Caiff ffibrau a llifynnau naturiol eu tyfu, eu cynaeafu a'u prosesu ar y safle. Caiff pob cam o'r broses hon ei ddogfennu a'i rannu â'r gymuned leol yn ddigidol a thrwy ddiwrnodau gwirfoddoli ymarferol, gweithdai cymunedol ac mewn ysgolion ac enciliadau preswyl creadigol.
Lliain yw un o'r ffibrau mwyaf cynaliadwy y gellir ei dyfu, ac nid oes angen llawer o ymyrraeth. Mae Gower Flax yn dilyn arferion ffermio a phrosesu organig ac atgynhyrchiol.
Bydd y prosiect yn:
-
rhannu/addysgu sgiliau sy'n gysylltiedig â thyfu a thynnu ffibrau - prosesu, nyddu, gwau a gwehyddu'r ffibrau i greu lliain y gellir ei ddefnyddio.
-
annog lle ar gyfer rhannu gwybodaeth am decstilau naturiol, lle ar gyfer creadigrwydd, adeiladu cadernid cymunedol ac ymdeimlad o les.
-
addysgu pobl am sut a ble y caiff tecstilau eu tyfu - drwy gynyddu ymwybyddiaeth o'r prosesau gwenwynig y mae ffasiwn cyflym yn eu hybu, efallai y bydd pobl yn dechrau meddwl ddwywaith am yr hyn sydd ei angen arnynt, gan annog gostyngiad yn y diwylliant 'taflu i ffwrdd'.
-
creu mwy o swyddi lleol sy'n ymwneud â thyfu cynaliadwy.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£50000.00
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Abertawe
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 1, 2
- Mesur:
-
19.2
Cyswllt:
- Enw:
- Victoria Thomson
- Rhif Ffôn:
-
01792 636992
- Cyfeiriad e-bost:
- rdpleader@swansea.gov.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts